AcerUn peth sydd yn mynd ar fy nerfau i ym myd technoleg ydy ‘advisors’ sydd ddim yn gwybod am beth maen nhw’n siarad ac o ganlyniad yn cymryd mantais o bobl gyffredin, sydd ddim yn gwybod am beth maen nhw’n siarad chwaith, ac yn gwerthu trash iddyn nhw, yn gwerthu cytundebau drud di-angen iddyn nhw ac, wrth gwrs, yn gwerthu ‘care and cover’ plans drudfawr fyddwch chi wir ddim eu hangen.

Y pennaf le lle mae hyn wedi bod ar waith yn hanesyddol ydy siopau PC World a Currys. Ers ychydig flynyddoedd bellach mae PC World a Currys yn stocio Apple Macs (wyddoch chi mae’r run cwmni a PC World a Currys sydd berchen y MacWarehouse bellach?) fodd bynnag mae eu ‘advisors’ bondigrybwyll yn parhau i godi ffroen, di-frio, chwerthin ac ysgwyd eu hysgwyddau pan fydd rhywun yn dangos diddordeb yng nghynnyrch Apple yn eu siopau. Glywais i sôn unwaith fod dyluniwr graffeg proffesiynol, hynny yw rhywun oedd yn deall ei bethau, wedi mynd i PC World Bangor i brynu Apple Mac newydd. Dyma fe’n mynd i chwilio am un o’r ‘advisors’ er mwyn gwneud y pwrcasiad yna dyma’r ‘advisor’ yn dweud wrtho fe: “you don’t wan’t one of them, they’r rubish”; ac yna yn ei arwain draw at rhyw beiriant Acer oedd a spec anhygoel am bris noson allan ond wrth gwrs fe wyddai unrhyw un sy’n deall cyfrifiaduron fod lot o rifau ddim yn gwneud fyny am build quality ac user interface gwael. Wrth bod yr ‘advisor’ yn tywys y gwr draw at yr Acer dyma y dyluniwr graffeg jest yn cerdded i’r cyfeiriad arall ac yn gadael y siop ac yna’n archebu ei Apple ar y we ar ôl cyrraedd adref.

imacYr hyn sy’n fy nghythruddo fwyaf am hanesion tebyg ydy fod y fath ymddygiad yn gweithio ar gwsmeriaid sydd ddim yn deall technoleg. Yn y bon, mae pobl yn cael eu sgamio gan ‘advisors’ y cwmnïau yma! Dwi’n adnabod rhywun brynodd luniadur ddwy flynedd yn ôl, fe wnes i argymell iddyn nhw brynu’r MacBook rhataf gan esbonio ei fod yn costio ychydig mwy na’r rhan fwyaf o entry level laptops ond y byddai’n para deirgwaith yn fwy. Dyma nhw’n mynd i PC World, cael eu cymell gan yr ‘advisor’ fod y MacBook yn over kill ar gyfer y defnydd roedden nhw angen ac felly dyma nhw’n gadael y siop gyda laptop Acer gyda phrosesydd Intel Celeron, 256Mb Ram am tua £350 – cheap and nasty yn y bôn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach prin y gellid defnyddio’r laptop gan ei fod mor araf – mae llwytho gwefan fel YouTube yn ei grashio – ac mae’r holl security a virus updates jest yn llethu’r defnyddiwr. Pe tae’r cyfaill wedi gwrando arna i yn hytrach na’r ‘advisor’ mi fyddai gyda nhw heddiw MacBook fyddai dal yn rhedeg fel newydd ac yn parhau i redeg felly am flynyddoedd i ddod gan mae dim ond ebost, syrffio a prosesu geiriau oedd eu defnydd. Byddai’r holl security a virus updates yn gadael llonydd iddynt a byddai ddim rhaid iddyn nhw fynd allan i chwilio am gyfrifiadur newydd eto fyth ar ôl dim ond dwy flynedd!

Wrth gwrs, y broblem gyda’r ‘advisors’ yma yw eu bod nhw’n cael eu hyfforddi i werthu gymaint o trash a sy’n bosib yn hytrach na chael eu hyfforddi i ddeall technoleg yn iawn. Roeddwn ni wedi gobeithio adrodd am hanes Menna a fi’n mynd i chwilio am Blackberry iddi hi dydd Sadwrn a chael running gyda un o ‘advisors’ di-glem Orange, ond fe aeth y cofnod yn hir eisoes felly bydd yn rhaid aros tan ryw dro eto am yr hanes hynny.

Please follow and like us: