Gobeithlu Salem, Rhiwbryfdir, c.1900

Gobeithlu Salem, Rhiwbryfdir, c.1900

Yn y bennod “A Dyma’r Cyhoeddiadau…” mae R. Tudur Jones yn trafod amryw weithgaredd y Capeli Cymraeg yn nghyfnod yr 1890au. Yn y rhan fwyaf o Gapeli roedd rhywbeth mlaen bob nos. Cymerwch raglen wythnos Libanus, Abertawe o 1905 fel enghraifft. Nos Lun: Cwrdd gweddi a chwrdd dirwest, Nos Fawrth: Gobeithlu ac Ymdrech Gristnogol, Nos Fercher: Seiat, Nos Iau: Cwrdd gweddi’r chwiorydd a’r côr, Nos Wener: Dosbarth Beiblaidd a Nos Sadwrn: Cwrdd gweddi’r dynion. Wythnos lawn felly!

I’r eglwysi Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd roedd yr holl weithgaredd yma, gan gynnwys y gweithgaredd diwylliannol, yn rhan o weinidogaeth fugeiliol yr eglwysi, roedd y gweithgaredd yn tynnu pobl at ei gilydd ac yn dyfnhau perthynas cyd-aelodau a’u gilydd. Ond i’r eglwysi Cymraeg roedd arwyddocâd pellach i’r holl weithgaredd yma fel mae R. Tudur Jones yn esbonio.

Beth oedd arwyddocâd y wedd hon ar waith yr eglwysi? … Wrth astudio cynnwys y diwylliant a geid mewn gobeithlu, cyfarfod diwylliannol, côr a chyngerdd ni ellir peidio â sylweddoli mor wahanol ydoedd i’r diwylliant a gyfrennid gan y gyfundrefn addysg gyfoes. Y gwahaniaeth mawr cyntaf i’w nodi yw fod y diwylliant hwn yn Gymraeg, a’r diwylliant ysgol a choleg yn Saesneg … Bu’r cyfarfodydd hyn yn foddion i gyffroi diddordeb miloedd yn eu treftadaeth genedlaethol …

Ynddynt hwy hefyd dysgodd miloedd rywbeth am hanes y genedl a’i mawrion, a hynny pan nad oedd hanes Cymru’n cael unrhyw le yn yr ysgolion dyddiol … A rhwng popeth, bu’r cyfarfodydd yn gyfrwng i gadarnhau Cymreictod llaweroedd …

Wrth sôn am yr agweddau hyn ar weithgarwch yr Eglwysi, yr ydym yn sôn am rywbeth mawr. Yr oedd llawer iawn mwy o dan y dylanwad hwn ym 1900 nag oedd o dan ddylanwad yr ysgolion dyddiol, y colegau a’r papurau newyddion Saesneg. Yr oedd yn allu mawr yn y tir, a byddai haul y genedl wedi machludo ers tro oni bai am y cyfraniad hwn i barhad ei diwylliant …

[Allan o R. Tudur Jones: Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Cyfrol Un, Tud. 130-31]
Gobeithlur Bedyddwyr, Llanfair-talhaiarn, 1905

Gobeithlu'r Bedyddwyr, Llanfair-talhaiarn, 1905

Mae’r sylwadau hyn yn codi cwestiynau dilys iawn. Roedd y diwylliant Cristnogol Cymraeg cyn gryfed yn 1900 fel nad oedd lle i ddiwylliant Cymraeg secwlar os oedd posib sôn am y fath beth o gwbl yn 1900. Felly rhwng 1914 (lle mae astudiaeth y gyfrol yn dod i’w therfyn) a dyddiad ei chyhoeddi ddechrau’r 1980au roedd y Cymry yn gadael y capel a’i ddiwylliant Cymraeg i fyd o addysg a diwylliant poblogaidd Saesneg gan na wyddai y Cymry fawr dim am ddiwylliant Cymraeg nad oedd yn ddiwylliant oedd ynghlwm ag eglwys neu Gapel. Roedd gadael y capel gyfystyr a gadael y diwylliant Cymraeg, roedd yr argyfwng ysbrydol felly yn esgor ar argyfwng cenedl gan nad oedd gan y Cymry ei sefydliadau sifig Cymraeg i Gymryd lle’r capel.

Yr hyn rwy’n cael trafferth ei ddeall ar hyn o bryd yw ceisio dehongli a’i beirniadaeth ar yr eglwysi oedd hyn yntae beirniadaeth ar y genedl yn gyfan. Er gwaetha’r perygl amlwg o glymu bod yn Gristion a bod yn Gymro mor glos yn 1900 ymddengys fod R. Tudur Jones yn dadlau fod y genedl o leiaf wedi elwa o hyn gan ei fod yn dadlau y ‘byddai haul y genedl wedi machludo ers tro oni bai am y cyfraniad hwn i barhad ei diwylliant’. Ymddengys fod yr eglwysi felly wrth gynnal y genedl mewn cyfnod lle nad oedd ganddi sefydliadau eraill i’w chynnal wedi dyfrhau’r dehongliad o ‘beth yw Cristion’ i’r fath raddau fel ei bod hi wedi cadw’r iaith a’r diwylliant ond wedi plannu’r ddaeargryn ysbrydol a’r dryswch meddwl ysbrydol sydd dal gyda ni heddiw. Hynny yw pobl yn meddwl fod bod yn Gymro gyfystyr a bod yn Gristion.

Please follow and like us: