Ar ddiwrnod Pethau Bychain mae’n bleser ail-agor fy ngwefan ar ôl dros ddau fis o fudandod.
Bu’n rhaid i mi gau’r wefan yn wreiddiol am resymau technegol, gan mod i wedi cyrraedd uchafswm cwota fy masdata MySQL buodd rhaid i mi drosglwyddo’r cyfan i fasdata newydd. Ar ôl trosglwyddo’r basdata roedd problem dra ddifrifol sef fod yr acenion Cymraeg ddim yn dangos yn gywir, mae rhai ohonyn nhw yn parhau i beri trafferth felly ymddiheuriadau rhag blaen am hynny. Diolch i Zanity am fy helpu gyda hyn. Ymddiheuriadau hefyd fod yr iaith fain yn ymddangos o bryd i’w gilydd; rwy’n cyfieithu’r thema WordPress wrth i mi fynd ymlaen a gweld beth sydd yna ar ôl heb ei gyfieithu.
Yn digwydd bod bu’r orfodaeth dechnegol i gau’r wefan am gyfnod syrthio ar adeg lle roeddwn wedi penderfynu rhoi seibiant i flogio beth bynnag er mwyn canolbwyntio 110% ar y PhD. Bellach dwi wedi ysgrifennu pob pennod ac yn y broses o ail-ddrafftio’r cyfan i’r safon ddisgwyliedig. Dwi’n gobeithio cyflwyno’r thesis fis Hydref a dwi’n disgwyl ymlaen yn eiddgar i’w gael allan o’r ffordd nawr, mae’n dipyn o faich digon diflas bellach. Wedi dweud hynny, y PhD fydd prif ffocws fy amser a’m sylw am yr wyth wythnos nesaf felly er bod y blog yn ôl ar dir y byw y tebygrwydd yw y bydd y rhan fwyaf o byst yn y dyfodol agos yn ymwneud ac R. Tudur Jones a’r PhD, sori.
Roedd ail-agor y wefan yn gyfle gwych i mi ei dacluso fyny a rhoi diwyg newydd iddo. Prif ffocws y wefan o hyd bydd y blog ei hun. Rydw i wedi ailwampio’r adran ‘dylunio’ sydd bellach yn cynnwys amcangyfrif o brisiau argraffu gan yr argraffwyr dwi’n gweithio gyda nhw. Rwy’n gobeithio bydd hyn yn denu mwy o bobl i droi ata i ar gyfer gwaith dylunio a chysodi. Gyda llaw, dydw i ddim yn gwneud arian mawr gyda’m gwaith dylunio ond yn hytrach yn ei weld fel cymorth i ddod a dau pen tennyn ynghyd a’m cynnal yn fy mhriod waith sef y weinidogaeth. Rwyf wedi ychwanegu adran sy’n cyfeirio pobl at fy mlog Saesneg ac mae’r adran ‘cysylltu’ dal yna.
Mae’r adran ‘dr. tudur’ wedi goroesi, ac ar ôl i mi orffen y thesis ac os bydd ei safon yn dderbyniol fe wna i rannu penodau fel PDF’s fan yma. Mi fydd y podlediadau yn ail-ddechrau fis Hydref pan fydda i yn ail-gydio yn fy ngwaith fel Bugail. Y tro hwn fe fydd y podlediadau yn dod o Gaersalem, Caernarfon lle fydda i’n Fugail dan hyfforddiant am 10 mis o fis Hydref mlaen fel rhan o fy nghyfnod olaf o hyfforddi i fod yn Weinidog. Ar yr adran ‘pregethu’ fe fedrwch weld lle dwi’n pregethu o Sul i Sul rhag ofn eich bod chi am droi i mewn.
I lawr yr ochr dde dwi wedi rhoi pedwar dolen amlwg i bedwar peth dwi’n ei chyfri yn bwysig ac yn ymwneud a nhw. Torri Syched, fy nghyfres o ffilmiau byrion am y ffydd. Society Profiad, fy mand. Cymdeithas yr Iaith, i’r gad. Ac yn olaf beibl.net sef y fersiwn ar-lein o’r Beibl mewn iaith lafar. Ymhen rhai wythnosau mi fydda i’n ychwanegu dolen fan yma i wefan fy eglwys yng Nghaernarfon sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Lawr yr ochr dde mae modd i chi ddilyn fy ffrwd Tumblr a Flickr hefyd. Gan mod i bellach yn defnyddio Tumblr yn y fan honno ac nid ar y blog y bydda i’n rhannu lluniau a fideo’s ac ati. Yn bennaf, pyst sy’n cynnwys testun yn unig y bydda i’n rhannu ar y blog o hyn allan. Yn olaf, tynnwyd y llun gwych, er braidd yn or-ystumiol, ohonof sydd ar frig y wefan gan ffrind i mi o Georgia oedd yng Nghymru dros yr Haf, dyma wefan Tara. Mae ei gwaith hi’n wych ac ers ei chyfarfod hi rwy’n gwrido mod i arfer ystyried unwaith mod i’n ffotograffydd reit fedrus.
Felly dyna ni, mae’n wych bod yn ôl a gobeithio fod ail-agor y wefan yma a’r cynnwys Cymraeg a fydd yn llifo allan ohono dros y misoedd nesaf yn rhyw gyfraniad bach i ddiwrnod Pethau Bychain!
Croeso’n ôl, Rhys!
Croeso yn ôl!
Gyda llaw, mae’n bosib cyfieithu’r thema i Gymraeg. Efallai ti’n gallu ail-ddefnyddio’r cyfieithiad thema TwentyTen.