Roedd 2010 yn flwyddyn brysur iawn a dyna yn rhannol pam fod y blog yma wedi bod yn dawel dros y flwyddyn diwethaf i gymharu a blynyddoedd a fu. Awgryma prysurdeb fod llawer gyda chi i’w rannu o bosib. Ond o fy mhrofiad i mae prysurdeb yn golygu nad ydych chi’n cael amser i feddwl yn ôl a rhannu am y gwahanol bethau ‘dy chi wedi bod yn gwneud a’r bobl ddifyr ‘dy chi wedi ymwneud a nhw.

Mae’n siŵr mae prif ddatblygiad 2010 i mi oedd gorffen fy nghyfnod yn hyfforddi fel Gweinidog yn Penuel Bangor a cael fy ngalw i gario mlaen gyda fy hyfforddiant yng Nghaersalem Caernarfon. Wnes i ddysgu llawer ym Mangor gyda Olaf Davies ond rhywsut roedd symud i Gaernarfon yn ddatblygiad naturiol oedd yn fy rhyddhau i ddilyn fy ngweledigaeth fy hun. Er dwi’n falch iawn fod yr Eglwys ym Mangor wedi bod yn gefn ac yn gefnogaeth mawr ar ddechrau’r hyfforddiant ac fe ddysgais i lawer yno. Ond dwi wedi teimlo a phrofi mae yng Nghaernarfon mae Duw isho mi weithio am y cyfnod nesaf yma os nad am gyfnod estynedig hyd yn oed.

Prif gysgod fy mywyd yn 2010 oedd y ddoethuriaeth. Flwyddyn yn ôl roedd gen i dair pennod allan o bump wedi sgwennu. Bellach mae pob pennod wedi ei ysgrifennu a phedwar pennod allan o bump wedi eu golygu. Felly mae gen i un pennod ar ôl i’w golygu ac yna’r casgliad i’w ysgrifennu wedyn gallaf gyflwyno’r traethawd. Mae’n rhaid i mi gydnabod fod fy nisgyblaeth wrth weithio ar y ddoethuriaeth wedi bod yn llac ar adegau yn ystod 2010. Nid oherwydd mod i wedi bod yn diogi cofiwch, ond oherwydd fod gwaith a phrosiectau eraill yn cynnig eu hunain yn llawer mwy apelgar fel modd i mi lenwi fy rhaglen waith. Rwy’n gobeithio, ac mae’n rhaid i mi, gyflwyno’r traethawd ymhen rhai wythnosau yn awr.

Dydw i heb wneud gymaint o waith dylunio dros y flwyddyn diwethaf yn bennaf oherwydd fod fy wythnos i’n llawn dop rhwng y ddoethuriaeth a’r gwaith yn yr Eglwys. Ond un prosiect sy’n pontio fy niddordeb creadigol gyda fy ngalwad i fel Gweinidog yw Torri Syched. Prosiect dwi’n falch iawn ein bod ni wedi cychwyn yn 2010. Cyfres o ffilmiau byr yn cyflwyno’r ffydd – mae un ffilm wedi ei lansio eisoes fan yma. Ac fe wnaethom ni ffilmio dau arall nol ym mis Tachwedd – gobeithio bydda nhw’n cael eu lansio dros yr wythnosau nesaf.

O ran ymgyrchu iaith, yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg gymerodd y rhan fwyaf o’m hamser i yn 2010 ac rwy’n eithriadol o falch fod y frwydr yma wedi ei hennill. Dwi’n siomedig braidd fod Merfyn Jones wedi ei benodi fel Cadeirydd cyntaf, mae’n benodiad ceidwadol iawn ac fe allai ffrwyno y datblygiadau posib. Ond dyna ni – mae’r ddadl fawr wedi ei hennill bellach.

Gobeithion am 2011: Gorffen y PhD asap! Bod yr Ysbryd Glan yn arwain y gwaith yn yr Eglwys yng Nghaersalem. Fod cyfleon yn agor i ddatblygu prosiect Torri Syched a/neu phrosiectau o’r fath sy’n pontio fy niddordeb creadigol a fy ffydd. Ar hyn o bryd dwi’n meddwl fod gormod ar fy mhlât i rhwng popeth. Ar ôl i mi orffen y PhD bydd pethau’n gwella gobeithio, os ddim yna gobeithio y bydd 2011 yn flwyddyn lle fydda i’n medru gweld beth sy’n flaenoriaeth neu fe fydda i’n llosgi allan wrth gario mlaen yn trio gwneud popeth…

Blwyddyn newydd dda!

Please follow and like us: