Yn ôl y disgwyl fe wnaeth fy mhwt ar Cymru Fyw heddiw ennyn peth ymateb ar Taro’r Post, Radio Cymru amser cinio heddiw. Yn anffodus oherwydd mod i mewn cyfarfod yn Bala nid oedd modd i mi gymryd rhan yn y drafodaeth er mwyn amddiffyn fy hun. Mae’n werth i mi nodi mae sgwennu yr erthygl wnes i ar y pwnc penodol hwn ar ôl cael gwahoddiad i wneud gan y BBC – mae’n bwysig i bobl wybod y cyd-destun yna, roedd yn ddarn comisiwn.

Mae’n rhaid i mi ymateb i ddau gyhuddiad wnaeth Rod Richards yn fy erbyn, dau gyhuddiad annheg fel y galla i ddangos gobeithio.

Roedd Rod Richards yn awgrymu mod i’n naïf a ddim yn sylwi pa mor ddifrifol oedd trais yr Islamic State. Roedd yr erthygl ar Cymru Fyw yn ei gwneud hi’n ddigon clir mod i’n ymwybodol o erchylltra trais yr Islamic State, dyma ddywedais i:

“Rydw i, fel pawb arall mae’n siŵr, wedi cael fy nhristáu wrth ddarllen y newyddion dros yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r dair merch ddisglair o Lundain sydd wedi teithio i Syria er mwyn ymuno â rhengoedd milwyr yr Islamic State.

Mae’r adroddiadau a glywn ynglŷn â’r trais a ddefnyddir gan filwyr yr Islamic State yn erbyn lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yn frawychus. Fel arweinydd Cristnogol rydw i wedi darllen gyda thristwch dwfn am y modd y maen nhw wedi difa cymunedau Cristnogol cyfan a fu yno ers mileniwm a mwy mewn cwta ychydig fisoedd.”

Roedd Rod Richard hefyd yn awgrymu mod i’n dweud fod y Fyddin Brydeinig a’r Islamic State gynddrwg a’i gilydd a mod i ddim yn gwerthfawrogi fod un yn fyddin gyfansoddiadol a’r llall yn fudiad terfysg. Eto dydy hyn ddim yn deg gan i mi ddweud yn yr erthygl:

“Byddai rhywun, wrth gwrs, yn gobeithio fod golygiadau y fyddin Brydeinig yn dra wahanol i filwyr yr Islamic State …”

Methodd y drafodaeth ar Radio Cymru a thrafod beth roeddwn i wir yn trio ei ddweud sef holi a yw’n diwylliant milwriaethus ni yn rhannol gyfrifol fod rhai pobl ifanc yn ymuno a mudiadau eithafol gwleidyddol. Ond dylwn wedi gwybod y byddwn yn agor fy hun i gael fy ngham ddeall o fynegi barn ar bwnc sensitif a chymhleth fel hwn. Dwi’n sori os ydw i wedi brifo unrhyw un – ceisio ffyrdd o leihau’r brifo a’r trais oedd yr amcan gwreiddiol.

Ar nodyn mwy ysgafn, ‘ro ni’n ei weld yn ddoniol fod Rod Richards wedi beirniadu Cymraeg yr erthygl, ond o leiaf nawr rydym ni’n gwybod am bwy roedd Alun Cairns yn siarad wythnos diwethaf pan roedd yn siarad am elitiaeth ymysg y Cymry Cymraeg 😉

Please follow and like us: