Wrth adeiladu www.rhysllwyd.com (gwefan dwi wedi ac yn bwriadu cyhoeddi mwy o’m erthyglau) dwi di sylwi mod i wedi ysgrifennu o leia 40,000 o eiriau i’r cylchgrawn bARN ers i mi ddechrau ysgrifennu i’r cylchgrawn yn 2002. Pan ddechreais i fy nghlofn gerddoriaeth roeddwn i dal yn yr ysgol ac mae hynny’n dangos. Mae’n ddiddorol sut mae fy marn ar bethau wedi newid dros y bedair blynedd diwethaf. Ond yn fwy trawidol ydy pa mor wahanol mae’r sin roc Gymraeg ei hun wedi tyfu, datblygu ac aeddfedu ers 2002.

Ta beth gobeithio gwnew chi fwynhau edrych dros rai o’r erthyglau.

…a cofiwch brynnu’r rhifyn cyfredol o bARN yn steddfod er mwyn darllen yr erthygl ddiweddaraf.

Please follow and like us: