Ysgrifenais yr isod yn wreiddiol fel ysgrif i’r Tafod nol ym mis Ionawr ar gyfer rhifyn y Cyfarfod Cyffredinol, ond am ryw reswm ni ymddangosodd y rhifyn yna byth felly dyma gyhoeddi’r erthygl ar y blog. Gwerth fyddai rhoi disclemer mai fy marn i yw’r isod nid barn CYIG o’r rheidrwydd:

Eleni mi dderbyniodd y Gymdeithas swm mawr o arian mewn ewyllys. Tybia rhai fod hwn yn gyfle i’r Gymdeithas “droi’n broffesiynol” a “rhoi’r gorau i fandaleiddio” a “troi’n lobïwyr proffesiynol.” I ddechrau rhaid holi pam fod rhai wedi dweud pethau o’r fath am y Gymdeithas yn ddiweddar? Mae’r clebar yma yn awgrymu mae diffyg arian a beri i’r Gymdeithas droi at brotestio, weithiau yn anghyfreithlon, dros y blynyddoedd. Gellid taflu’r dybiaeth anghywir yn allan o’r ffenestr yn syth – nid diffyg arian sy’n gyrru’r Gymdeithas at weithredu anghyfreithiol ond yn hytrach egwyddor. Mae’n wir fod arian yn medru llygru dyn a peri iddo anghofio ei egwyddorion – oni syrthiodd sawl Cenedlaetholwr i’r twll hwn yn y Gymru ddatganoledig? Ond rwy’n argyhoeddedig na syrthia’r Gymdeithas i’r un twll. Rhaid glynu wrth yr egwyddorion ac un o’r egwyddorion yma yw’r egwyddor o ddilysrwydd defnydd cyfrifol o weithredu uniongyrchol di-drais.

Gadewch i mi yn awr drafod y moesau ar athroniaeth tu ôl yr egwyddor hon. Mae’n beth iach i ni fel mudiad atgoffa ni ein hunain o’r newydd bob hyn a hyn pam ein bod ni’n gwneud pethau fel ydym ni’n eu gwneud – dyma obeithio dynnu sylw ein aelodau yn ôl at egwyddor craidd un o ideolegau canolog a phwysicaf y mudiad ers y dechrau. Gobaith yr ysgrif hon bydd lladd y beirniaid sy’n cyhuddo’r Gymdeithas o ruthro at weithredu uniongyrchol heb ystyried y cwestiynau moesol sydd ynghlwm a gweithredu o’r fath.

Mae gweithredu uniongyrchol yn dacteg cydnabyddedig effeithiol. Dyma ddywedodd neb llai na Peter Hain AS Llafur am weithredu uniongyrchol: ‘If any one factor could be singled out in the overwhelming success of this campaign against the white South African tourists [Chwaraewyr Criced], it would be these direct action tactics which formed the basis of the campaign strategy.’ Dyma oedd asgwrn cefn ymgyrchoedd Gandhi yn yr India a Matrin Luther King yn yr UDA hefyd. Mewn cyfarfod cyffredinol tanllyd fis Tachwedd 1966 mabwysiadodd y Gymdeithas bolisi oedd yn datgan: ‘fod Cymdeithas yr Iaith yn datgan unwaith eto mai dulliau di-drais yw’r unig rai a arddelir ganddi, a’i bod yn dehongli “di-drais ar bersonau” fel na chaniateir i aelod o’r Gymdeithas daro’n ôl mewn ymgyrch neu brotest a drefnwyd gan y Gymdeithas.’ Mae’r polisi hwn yn sefyll o hyd.

Yn ogystal ag edrych at ffigurau tramor fel Gandhi a Luther King am ysbrydoliaeth bu i rai athronwyr a diwinwyr Cymreig gynnig cyfundrefn a fframwaith i gyfiawnhau a chefnogi gweithrediadau uniongyrchol y Gymdeithas. Tri heavyweight sy’n sefyll allan yw’r Athrawon J.R Jones, Pennar Davies ac R. Tudur Jones – tri o ysgolheigion amlycaf a disgleiriaf yr Ugeinfed Ganrif a thri fu’n amddiffyn polisi’r Gymdeithas o weithredu uniongyrchol. Dywedodd J.R. Jones, a adnabuwyd ar un adeg fel ‘athronydd preswyl’ y Gymdeithas, yn 1967: ‘Dadleuaf fod lle i’w gweithgarwch [anghyfansoddiadol] hwy ochr yn ochr â’r gweithredu cyfansoddiadol dros Gymru’, gan mai ‘brwydr dros gadw ein gwahanrwydd cenedligol ydyw – brwydr diogelu gwahaniaeth ffurfiannol fel Pobl.’ Datganodd R. Tudur Jones môr gynnar ag 1960, ddwy flynedd cyn sefydlu’r Gymdeithas fod angen mudiad o’r fath, dywedodd bod angen ‘…byddin di-
drais i weithredu ar linellau Gandhiaidd.’ Mewn amryw bamffledi ac ysgrifau defnyddiodd R. Tudur Jones eiriau fel ‘braint’ a ‘dyletswydd’ yng nghyd destun gwrthwynebu’r Wladwriaeth Brydeinig.

Rhaid derbyn fod lle i oruchwyliaeth rhyw fath o Wladwriaeth – nid anarchydd mohonof ac nid mudiad anarchaidd mo’r Gymdeithas. Diben y Wladwriaeth yw caniatáu dyn i fyw y bywyd da. Yn ogystal a’i ddyletswydd i warchod yr unigolyn mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i warchod y genedl a’i hunaniaeth; wrth gwrs y broblem sydd gyda ni ym Mhrydain yw pa genedl? Dywedai R. Tudur Jones ei bod hi’n amhosib i wladwriaeth wasanaethu mwy nag un cenedl. Felly lle bo’r wladwriaeth yn fforeddu ei chyfrifoldeb yna mae hawl, onid dyletswydd, gan yr unigolyn i bwyntio hynny allan a’i gwrthwynebu yn agored a defnyddio dulliau di-drais hyd yn oed. Barn glir Cymdeithas yr Iaith yw ein bod ni’n byw dan Wladwriaeth sydd yn nacau ei gyfrifoldeb i roi hawliau ac amodau teg i siaradwyr Cymraeg.

Rhaid pwysleisio hefyd mae y cam olaf mewn unrhyw ymgyrch yw troi at weithredu uniongyrchol. Mae’n bosib fod gan y Gymdeithas ddelwedd o afael yn y paent y cyfle cyntaf posib. Nid pawb sy’n sylweddoli fod y Gymdeithas yn ddiwyd bob wythnos yn paratoi llythyrau, deisebion, dogfennau trafod a pholisi heb sôn am fynd i lobio gwleidyddion a swyddogion yn aml. Y gwaith di-sôn-amdano yma mewn gwirionedd ydy asgwrn cefn y mudiad ond y gwir trist plaen amdani yw nad oes gan y cyfryngau ddim diddordeb yn y gwaith pwysig cefn llwyfan yma. Dim ond y rhwystro mynedfeydd a’r paentio sloganau y clywch amdanynt yn y Western Mail ac ar donfeddi’r BBC. Rhaid i unrhyw weithredu tor-cyfreithiol ddilyn neu o leiaf fynd law yn llaw a gweithredu confensiynol cyfreithiol.

Ydy mae Cymru wedi newid ers 1997 ac bydd mi fydd mwy o adnoddau ariannol gan y Gymdeithas dros y blynyddoedd nesaf ond does dim unrhyw reswm yn y byd pam y dylai’r Gymdeithas roi’r gorau i’r defnydd o weithredu uniongyrchol di-drais os ydy pob ymgais gonfensiynol yn methu. Mae dros hanner canrif ers i R. Tudur Jones yngan y geiriau yma, datganoli neu beidio, arian yn y banc neu beidio, mae’n parhau i fod yn wir lle bo’r Wladwriaeth yn nacau Cymry Cymraeg oddi wrth eu hawliau ‘… credwn mae ein braint a’n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.’

Please follow and like us: