Mae’n debyg ei bod hi’n amser i mi ddechrau blogio am y refferendwm gan ei fod yn digwydd wythnos i fory! Yn y cofnod yma fy mwriad yw gadael i R. Tudur Jones siarad. Dyma fersiwn dalfyredig o’i ysgrif bwysig ‘Crist: Gobaith Cenedl’ a gyhoeddwyd yn 1972.* Mae llawer o’r ddiwinyddiaeth a’r dadleuon yn parhau i fod yn berthnasol i’r Cristion wrth baratoi at y refferendwm wythnos nesaf er bod bron i ddeugain mlynedd wedi pasio ers i Dr. Tudur eu hysgrifennu.

Gwaith dyn yw creu diwylliant. Dyma’r her a’r hyfrydwch sy’n rhoi gwefr i’w fywyd. Yr argyhoeddiad Cristnogol yw fod a wnelo’r gwaith hwn â ffydd dyn. Wrth greu diwylliant, mae dyn yn gwrthrychu’r ffydd sy’n rheoli’i galon. I bwrpas y drafodaeth yn awr, defnyddir y gair “diwylliant” mewn ystyr dipyn ehangach nag sy’n arferol yn Gymraeg. Fe’i defnyddir i olygu’r holl gymhlethdod goludog hwnnw o gynhyrchion sy’n ffrwyth egnïon y teulu dynol. I’n pwrpas ni, y mae gwleidyddiaeth, diwydiant, technoleg, crefft a meithrin bywyd cymdeithasol, yn ogystal â llenyddiaeth a chelfyddyd, yn fynegiadau o ynni creadigol dyn mewn diwylliant.

Ond gwaetha’r modd, mae’r ddealltwriaeth hon mewn perygl parhaus o lithro i ddeuoliaeth. Rhwygir dyn a chymdeithas yn ddwy ran. Y mae gennym Natur a Gras, Eglwys a byd, crefydd a’r bywyd seciwlar. Anodd yw osgoi’r llithriad i gyfeiriad dilorni’r naturiol a’r seciwlar trwy roi’r argraff nad oes wnelo gras Duw ond ag adrannau o’n bywyd. Ac yn hanesyddol bu’n demtasiwn enbyd i Gristnogion geisio dyrchafu Arglwyddiaeth Crist tros fywyd yn ei gyfanrwydd trwy wthio gorthrwm eglwysig ar y byd seciwlar. Gwelwyd dynion yn caethiwo Duw yn eu byd “crefyddol”. Mynnent ffoi i dawelwch y darn hwnnw o’u bywyd a oedd yn ymwneud ag eglwys neu gapel, a mynachlog a chwfent, a phregeth a sacrament, gan adael y byd drwg seciwlar i fynd i’w ateb. Dro ar ôl tro clywir Cristnogion yng Nghymru’n protestio â lleisiau uchel y dylai’r eglwysi eu cyfyngu eu hunain i bethau mewnol y cwlt crefyddol – i drefniadau enwadol, i weinyddu eiddo’r eglwysi, i bregethu’r Efengyl “bur” ac yn y blaen. Nid yw’r protestwyr braidd fyth yn sylweddoli mai ffurf ar atheistiaeth yw eu protest. Cyhoeddant nad oes a wnelo’r Efengyl â chyfanrwydd bywyd a charcharant Dduw yn niogelwch eu trefniadaeth eglwysig. A beth bynnag arall y gellir ei ddweud am Gristnogaeth, ni ellir dweud mai ei hamcan yw trin Duw fel hyn.

Trwy ei farw, ei atgyfodiad a’i esgyniad, dyrchafwyd Iesu Grist i wisgo’r “enw sydd goruwch pob enw” (Phil. ii. 9); y mae wedi’i “goroni â gogoniant ac anrhydedd” (Heb. ii. 7). Golyga hyn iddo gael ei osod yn Arglwydd bywyd dyn. Ac yn Arglwydd ei brysurdeb diwylliannol. Trwy ei farw y mae Crist yn torri cyfaredd y galluoedd hyn sy’n gorthrymu dynion ac yn caethiwo eu calonnau a chreu galanastra yn eu byd. Duw “a’n gwaredodd ni o feddiant [hynny yw, o awdurdod] y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab.” (Col. i, 13). A thrwy hynny cymodir dyn unwaith eto â’i briod waith fel crëwr diwylliant ac olrheiniwr ystyr. Os yw craidd personoliaeth dyn “ym meddiant y tywyllwch”, hynny yw, o dan ddylanwad galluoedd amgen na Christ, y mae cysgod trwm ar ei holl brysurdeb, ei holl greadigaethau, ei holl ddiwylliant. Ond os yw craidd ei bersonoliaeth ym meddiant Crist, ni all hyn ond effeithio’i holl weithgarwch diwylliannol. Ac atgyfodwyd Crist hefyd. Ac yn ei atgyfodiad mae’r byd newydd yn dechrau ymddangos. Mae “nerthoedd y byd a ddaw” ar waith. Mae atgyfodiad y meirw wedi dechrau, yn gymaint â bod Crist yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. Mae chwyldro Duw ar droed. Felly y mae addewidion mawreddog Duw eisoes yn dechrau cael eu cyflawni. Trwy atgyfodiad Crist daw’n amlwg y gall y cenhedloedd fentro gobeithio yn ei enw. Rhoddir dimensiwn newydd a gwefreiddiol i holl weithgarwch dyn. Wrth greu diwylliant y mae dyn eisoes yn llafurio mewn byd lle mae “grym ei atgyfodiad Ef” yn gwarantu gweithio’n eofn a gobeithiol “megis i’r Arglwydd”.

Gallwn ddechrau cysylltu hyn oll â’n cenedligrwydd. yn negyddol, y mae’n golygu nad oes gabledd erchyllach na gwneud y genedl yn wrthrych addoliad. Nid yw hynny namyn ei gosod ar orseddfainc Duw a hawlio teyrngarwch cyfan bywydau dynion iddi. Felly saif y dystiolaeth Gristnogol yn gadarn yn erbyn pob ymgais i ddwyfoli’r genedl. Rhaid pwysleisio’n barhaus ei natur secwlar a’i darostyngiad hi i Grist. O’r safbwynt Cristnogol felly y mae’n bosib i’n cenedligrwydd fod yn un o’r amryfal gyfryngau i fynegi gogoniant yr hwn a’n symudodd o dywyllwch. Mae’n drawiadol fod yr eschatoleg Gristnogol yn rhoi lle i genhedloedd. Fe’u ceir yn y byd newydd o eiddo Duw’n talu gwrogaeth i’r Jerwsalem Newydd: “A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi; ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi.” (Dat. xxi, 24).”

Dadleua rhai fod “cydwladoldeb” yn rhagorach amcan nac “annibyniaeth”. Iawn, ond nid ystyr “cydwladoldeb” yw fod Lloegr a Chymru a Llydaw a Ffrainc yn ymuno’n frawdol mewn teulu o genhedloedd cydradd yn eu golwg. Ystyr “cydwladoldeb” yw fod Cymru a Llydaw’n bodloni i ymsuddo yn hunaniaeth Lloegr a Ffrainc. Ac imperialaeth yw hyn. Gwelir arwyddocâd yr imperialaeth hon yn yr eschatoleg Gristnogol wedi’i bortreadu yn “Babilon Fawr, Mam puteiniaid a ffieidd-dra’r ddaear” (Dat. xvii, 5). Drwg imperialaeth (ac ni waeth pa un ai erchyll ai tyner ei dulliau) yw ei bod yn lladd gobaith cenhedloedd llai am gael gwasanaethu Crist yn uniongyrchol fel eu Harglwydd. Neu a gosod y peth mewn ffordd arall, imperialaeth yw cenedlaetholdeb yn ymddyrchafu megis duw ac yn difa cenedligrwydd eraill. Mae felly’n cablu. Mae’n difa trefnu Duw yn ei fyd. Y mae sarnu cenedl yn gwneud croes Crist yn ofer ac yn ildio’r maes i alluoedd gwleidyddol sy’n ceisio ein dychrynu trwy wisgo mantell dwyfoldeb.

Difrodwyd ein hetifeddiaeth gan bobl na wyddent beth yr oeddynt yn ei wneuthur. Gyrrwyd ein hieuenctid wrth y miloedd i wledydd tramor. Gwagiodd ein pentrefi. Aeth ein meysydd yn ysglyfaeth i’r eithin a’r drain a’r mieri. Distawodd ein hiaith hanesyddol ar wefusau miloedd o’n plant. Ymhyfrydodd lluoedd o’n harweinwyr mewn tanseilio ein cenedligrwydd a chyfrifasant hi’n fargen ragorol i gyfnewid gwasanaeth gostyngedig a chariadus i’r bobl y gosododd Duw hwy’n fugeiliaid iddynt am weniaith a swyddi a hawddfyd. Mae hi’n stori drist am ei bod hi’n datguddio mor rymus yw llygredd pechod ac mor ddistrywiol y gall fod ym mywyd cenedl.

Ond nid yw’n rhy hwyr i feithrin ysbryd cyfrifoldeb. A’r ffordd orau i gyd i wneud hynny yw trwy gyhoeddi mewn amser ac allan o amser Arglwyddiaeth Crist ac ystyr hynny i ni. Nid polisi hwylus yw hunanlywodraeth i Gymru ond y cam nesaf yn ei thyfiant tuag at aeddfedrwydd gerbron Brenin y brenhinoedd.

Gellid casglu felly – er na fyddai’n credu fod yr hyn sydd ar gynnig i ni wythnos nesaf yn mynd yn ddigon pell mae’n siŵr – y byddai Dr. Tudur yn pleidleisio Ie a hynny ar sail ei ffydd fel Cristion. Dwi’n sefyll yn yr un traddodiad.

* R. Tudur Jones: ‘Crist: Gobaith Cenedl’ yn ‘Gwinllan a Roddwyd’, Dewi Eurig Davies gol. (Christopher Davies, 1972)

Please follow and like us: