Wythnos yma dwi wedi bod yn golygu fy mhennod ar Genedlaetholdeb R. Tudur Jones ar waith. Pennod sy’n trafod, yn bennaf, ei gyfraniad a’i weithgarwch gyda Phlaid Cymru. Ei brif gyfraniad mae’n siŵr oedd ei olygyddiaeth o bapurau’r Blaid rhwng 1951-1973. Pe tae hwn yn draethawd ymchwil seicoleg mae’n debyg y byddai rhaid holi a oedd Tudur Jones yn workaholic? Dyma sut mae’r bennod yn agor:
Yn rhifyn Medi, 1973 o’r Ddraig Goch adroddwyd gyda ‘chryn ofid’ fod y Prifathro Dr. R. Tudur Jones wedi ymddiswyddo fel golygydd y papur ac ychwanegodd yr adroddwr a’r darpar olygydd newydd mai ‘gyda chryn betruster a gwyleidd-dra y ceisir ysgwyddo’r cyfrifoldeb a gymerodd y Prifathro arno’i hun am gynifer o flynyddoedd.’ Bu Tudur Jones yn golygu papurau newyddion Plaid Cymru am gyfnod o un mlynedd ar hugain ac yn ystod y cyfnod hwnnw cyhoeddwyd y papur Saesneg, The Welsh Nation, yn wythnosol, pwysau gwaith ychwanegol ar ddyn a oedd ar yr un pryd yn brifathro Coleg Diwinyddol, yn athro hanes yr eglwys, yn bregethwr poblogaidd ac yn awdur toreithiog hefyd. Cawn rhyw gipolwg ar ei ddisgyblaeth yn ysgrif deyrnged D. Eirwyn Morgan iddo a gyhoeddwyd yn Hydref 1973 yn dilyn ei ymddiswyddo fel golygydd. Dywed Eirwyn Morgan: ‘[Tudur] yr ymddisgyblwr llym 47 wythnos o bob blwyddyn, ond na fyn i neb amharu ar fwyniant llwyr a hollol yr wythnos rhwng Nadolig a Chalan…. na disgwyl iddo ymrwystro â negesau academaidd gydol Awst.’ Am ei ddiwrnod gwaith arferol, dywedodd Tudur Jones ei hun: ‘Yr wyf yn codi bob bore am hanner awr wedi saith ac yn cau pen y mwdl tuag un o’r gloch bore trannoeth.’ Mewn cyfweliad yn Cristion cyffesai hefyd nad oedd ‘gweithio pymtheg awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, yn unrhyw benyd’ iddo.