Roedd cyfweliad diddorol ar Bwrw Golwg, Radio Cymru bore ‘ma gyda’r Gweinidog Aled Jones a fu’n byw yn Ne Affrica am gyfnod. Roedd John Roberts yn ei holi beth seiliau diwinyddol y drefn Apartheid yn Ne Affrica ag ateb parod Aled oedd “yn syniadau Abraham Kuyper”. Mae Kuyper yn ffigwr cymharol anghyfarwydd i bobl ond dwi’n digwydd bod wedi astudio rhywfaint o’i waith gan ei fod wedi cael rhywfaint o ddylanwad yma yng Nghymru ar syniadau Bobi Jones ac R. Tudur Jones. Dyma ddau ffigwr ceidwadol yn ddiwinyddol efallai ond a oedd yn pledio achosion gwleidyddol cymharol radical ag ystyried eu bod nhw’n “efengylwyr”.

Yn y bôn, ac wedi ei symleiddio’n ddifrifol yma, roedd Kuyper yn dadlau fod Duw yn sofran dros bopeth – ac felly roedd modd i bawb yn mhopeth wasanaethu Duw – galwodd y syniadau yma yn “sphere sovereignty”. Canlyniad hyn, yn ymarferol, oedd fod pob sffêr ym mywyd y genedl a sofraniaeth ei hun gerbron Duw. Roedd athro ac ysgol yn uniongyrchol gyfrifol i Duw, nid oedd rhaid i’r ysgol fod yn atebol i Dduw via yr Eglwys. Wedyn yr eglwys hithau, roedd hi’n uniongyrchol atebol i Dduw ac nid yn atebol via y Wladwriaeth. Ac wedyn y Wladwriaeth hefyd yn uniongyrchol atebol i Dduw ac nid yn atebol via yr Eglwys. Roedd Kuyper yn gweld cenedl fel rhywbeth organig oedd wedi ei greu o sawl cymdeithas annibynnol oedd i anrhydeddu sofraniaeth eu gilydd. Nid oedd hawl gan yr eglwys ddweud wrth yr ysgol sut oedd bod yn ysgol yn fwy nag oedd hawl gan y wladwriaeth i ddweud wrth yr eglwys sut i fod yn eglwys. Gellid gweld felly sut oedd syniadaeth o’r fath yn apelio at Ymneilltuwyr Cymreig oedd wedi arddel syniadau tebyg ers canrifoedd am annibyniaeth eglwys oddi wrth wladwriaeth a gwladwriaeth oddi wrth eglwys ac effaith hynny i gyd ar elfennau eraill o fywyd cenedl fel addysg ayyb…

Ond, mae’n bwysig dweud hefyd fod Bobi Jones a Tudur Jones fel ei gilydd yn ddewisol iawn wrth dynnu ysbrydoliaeth o waith Kuyper. Bob tro dwi wedi trafod gwaith Kuyper gyda Bobi Jones mae’r sgwrs yn dod i’w therfyn bob tro wrth i Bobi fy atgoffa mae “anffodus” ac “adweithiol” oedd y ffordd yr aeth Kuyper ati i roi ei syniadaeth ddiwinyddol-wleidyddol ar waith. Ac roedd Tudur Jones yn pwysleisio mae tebygrwydd yn unig mewn rhai syniadau a welir rhwng syniadau Kuyper a rhai meddylwyr Cymreig a nad oes tystiolaeth fod dylanwad uniongyrchol wedi bodoli. Dywedodd Tudur fod ‘tebygrwydd trawiadol rhwng dysgeidiaeth Kuyper am sofraniaeth gylch a chenedlaetholdeb radicalaidd a chydweithredol Michael D. Jones, er nad oes dim, hyd y gwn i, i awgrymu dibyniaeth y naill ar y llall.’ (R. Tudur Jones: ‘Abraham Kuyper’ yn Ysgrifau Diwinyddol II, Noel A. Gibbard gol. (Pen-y-Bont ar Ogwr:Gwasg Efengylaidd Cymru, 1988)

Dyna ni, diddorol oedd clywed enw Kuyper ar Radio Cymru bore ‘ma beth bynnag!

Please follow and like us: