Geraint Jones

Bues i draw yn Llys Ynadon Caernarfon p’nawma yn gwrando ar achos Geraint Jones, Trefor. Roedd Geraint o flaen ei well am wrthod talu am ei drwydded deledu fel protest yn erbyn Seisnigrwydd Radio Cymru. Rhaid i mi gydnabod nad oeddw ni’n cytuno gyda’r oll oedd yn cael ei ddadlau yn y llys heddiw yn enwedig y ddadl am burdeb ieithyddol, dydw i ddim am i Magi Dodd fynd ar gwrs gloywi iaith a dod yn ôl yn siarad fel Gwilym Owen. Ond roeddw ni’n cefnogi’r alwad 100% i Radio Cymru roi’r gorau i chwarae recordiau Saesneg oherwydd mae yna ddegau o sianeli radio eraill yn gwneud hynny. Ac i bob recordiaid Saesneg sy’n cael ei chwarae mae yna gyfle yn cael ei golli i roi cyfle i fandiau Cymraeg.

Mwy o luniau.

Please follow and like us: