Y person cyntaf i gyfarfod y Crist Atgyfodedig oedd Mair Magdalen, ac fe ddigwyddodd hyn mewn gardd. Ar y dechrau roedd hi’n meddwl mai Iesu oedd y garddwr; rhywbeth sydd, ar yr olwg gyntaf, yn reit ddoniol. Camgymeriad hawdd i’w wneud, roedd hi mewn gardd wedi’r cwbl. Neu tybed ai camgymeriad proffwydol ydoedd? 

Ar Ddydd Gwener y Groglith claddwyd Iesu mewn gardd. Mae gardd yn le i dyfu pethau byw. Felly, roedd claddu Iesu yn rhywle lle’r oedd pethau byw i fod i dyfu yn arwyddocaol, neu o leiaf yn briodol. Rai dyddiau cyn ei groeshoeliad dywedodd Iesu: 

“Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.”

(Ioan 12:24) 

Ac felly ar Sadwrn y Pasg gwireddwyd y gair hwnnw wrth i had Sanctaidd mab Duw gael ei blannu mewn gardd brydferth. Ond wrth gwrs, diwrnod yn unig fuodd yr had yn y bedd cyn i Iesu Atgyfodi fel ffrwyth cyntaf yr atgyfodiad a chyhoeddi mai fe yn wir oedd mab Duw.

“Dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.”

(Rhufeiniaid 1:4)

Iesu, fel Adda, yn garddio

Mae’n ddiddorol fod Mair Magdalen wedi cam-gymryd had cyntaf yr atgyfodiad am arddwr. Neu tybed ai camgymeriad oedd hyn o gwbl? Oherwydd reit ar ddechrau stori’r Beibl dyna le mae Adda mewn gardd, yn y diwedd wedi ei felltithio i drin y chwyn a’r tir. A nawr dyma Mair Magdalen wyneb yn wyneb a’r Ail Adda, unwaith eto mewn gardd, ond y tro hwn mae melltith yr ardd gyntaf wedi ei godi.

Wrth adnabod Iesu fel garddwr nid camgymeriad oedd hyn – ond proffwydoliaeth wedi ei chyflawni. Iesu yw garddwr yr atgyfodiad. Mae’n troi tir newydd a hau had ym mywyd pawb sy’n credu ac wedi cyfarfod y Duw Atgyfodedig.

Methodd yr Adda cyntaf yn ei dasg a throdd prydferthwch Eden yn hunllef. Yn lle hau hadau ffrwythlon fe blannwyd had yr anrhefn rydym dal i weld yn y byd heddiw – pechod, trais, casineb, hunanoldeb a phob dim tywyll arall. Y felltith yma, ers Eden, sy’n esbonio sut mae ein perthnasau wedi torri mewn 4 ffordd. Ein perthynas gyda Duw, ein perthynas gyda’n hunain, ein perthynas gydag eraill a’n perthynas gyda’r greadigaeth. Ond y newyddion da yw bod yr Ail Adda – Iesu Grist – trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn adfer a thrwsio’r pedwar perthynas yma.

Lle methodd yr Adda cyntaf bydd yr Ail Adda, Iesu Grist, yn llwyddo yn ei dasg. Bydd Iesu yn adfer y ddynoliaeth a’r greadigaeth gyfan.

Atgyfodiad Iesu yn flaenfrwyth

Gydag Iesu fel pen-garddwr y nefoedd a’r ddaear newydd mae’r Atgyfodiad yn golygu bod gennym ni obaith am y pethau diwethaf. Mae’n golygu y dylem ni fel Cristnogion gael osgo o obaith, er gwaethaf profiadau anodd rydym yn parhau i’w hwynebu. Gwrandewch ar y ddau addewid yma am y pethau diwethaf, y cyntaf o Eseia a’r ail o Datguddiad a’r ddau ohonyn nhw yn darganfod eu had cyntaf yn Atgyfodiad Iesu:

Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,
a llwyni myrtwydd yn lle mieri.
Byddan nhw’n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD,
fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.

(Eseia 55:12-13)

“Roedd coed y bywyd bob ochr i’r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y coed yn iacháu’r cenhedloedd. Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach.”

(Datguddiad 22:2-3)

Iesu yw’r garddwr sy’n troi diffeithwch y ddaear yn erddi llawn ffrwyth a bywyd. Iesu yw’r garddwr sy’n dwyn anrhefn pechod y ddynoliaeth yn ôl i drefn.

Beth yw’r gobaith Cristnogol?

Felly wrth i ni feddwl am obaith yr Atgyfodiad a’r gobaith Cristnogol mae’n bwysig delio ag ambell i baradwys ffŵl mae rhai Cristnogion cyfoes wedi mynd i’w credu. I ddechrau, garddwr wnaeth Mair gyfarfod yn yr ardd ac nid train conductor yn barod i farcio eich tocyn i’r nefoedd. Mae’r gobaith Cristnogol fwy i wneud a’r nefoedd yn dod yma na’ dianc o’r ddaear yma i’r nefoedd.

“Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.”

(Datguddiad 21:3)

Nid tocyn i’r nefoedd rydym ni’n cael, ond yn hytrach gwahoddiad i ymuno a’r garddwr yn y gwaith o adfer y ddaear a’r nefoedd newydd. Ie, rhywbeth sydd eto i ddod yn llawn, ond rhywbeth sydd eisoes yn torri trwyddo ac atgyfodiad Iesu oedd y blaenffrwyth.

Yn ail, nid cyfreithiwr wnaeth Mair gyfarfod yn yr ardd. Doedd Iesu ddim wedi troi fyny gyda’i brifcase i helpu Mair a’r disgyblion ddod allan o ryw bicil cyfreithiol. Os oedd problem gyfreithiol o gwbl roedd hynny wedi ei setlo ddydd Gwener – gorffennwyd! Roedd e wedi dod nawr fel garddwr i roi gwaith a phwrpas i bobl oedd eisoes yn rhydd.

Yn drydedd, nid banciwr drodd fyny yn yr ardd yn chwilio i alw ei fenthyciad tragwyddol i mewn. 

Mae’r delweddau yna am docyn i’r nefoedd, am broblem gyfreithiol pechod a hyd yn oed dyled dynolryw i gyd wedi eu defnyddio’n effeithiol ac weithiau eu cam-ddefnyddio gan yr eglwys dros y canrifoedd. Ond mae angen i ni fynd yn ôl a gweld mai beth sydd ar ddechrau a diwedd y stori yw Duw a dyn mewn gardd. Duw mewn overalls nid Duw mewn siwt. Duw yn torchi ei lewys i godi ei Deyrnas gyda ni, nid Duw pell yn gweiddi cyfarwyddiadau.

Iesu wedi agor byd newydd

Ni wnaeth Iesu atgyfodi yn ôl yn fyw a dychwelyd i’r run byd lle wnaeth e farw ynddo dridiau ynghynt. Fe atgyfododd i fyd oedd wedi ei newid yn sylfaenol. Mae credu, cael eich Bedyddio a dewis dilyn Iesu yn golygu dilyn Crist i mewn i’r greadigaeth newydd.

Mae perthyn i Iesu yn golygu perthyn i’r oes sydd i ddod sydd eisoes yn dod. Ein tasg felly yw ceisio ac ymgorffori gwerthoedd yr oes sydd i ddod a gwahodd eraill i gredu a dod ar y daith honno gyda ni oherwydd rydym ni’n gweld o’n cwmpas bobl a byd sydd wedi blino. Creadigaeth a dynoliaeth sy’n sychedu am bwrpas, cariad a gobaith.

Ar y beic

Dwi wedi ail-ddechrau mynd allan ar y beic gyda’r wawr. Mae’n amser anhygoel i fynd allan i gael awyr iach, llonydd a chlirio eich pen ar ddechrau diwrnod. Rydych chi dal yn y tywyllwch, ond eto mae’r dydd newydd yn torri trwyddo. Ar gopa mynydd mae haul y diwrnod newydd yn eich taro, ond lawr yn y dyffryn mae tywyllwch ddoe dal o gwmpas. A dyna yw realiti’r oes bresennol lle mae Iesu wedi atgyfodi – y wawr newydd yn torri trwyddo – ond yr hen fyd a’i boenau dal o’n cwmpas hefyd.

Ond yr hyn sy’n bwysig i ni gofio ar Sul y Pasg yw bod ein hwynebau ni – fel pobl sydd â ffydd yn y Duw Atgyfodedig – tuag at y golau. Ac mae’r Crist Atgyfodedig yn ein tynnu ni gyda’i holl rym allan o’r tywyllwch ymlaen i’r goleuni – dyna le mae’r inertia cosmig dwyfol yn mynd a ni.

Please follow and like us: