Adobe Flash TVFel un sydd wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio teledu a thalu’r drwydded hefyd ers rhyw flwyddyn a hynny oherwydd fod fy holl ofynion gwylio bellach ar gael ar y wê roedd y newyddion heddiw am Adobe Flash yn ddifyr. Heddiw fe lwyddodd Adobe i gael cytundeb a fydd yn golygu fod eu meddalwedd flash (sef y meddalwedd sy’n gyrru llawer o fideo ar-lein o YouTube i BBC iPlayer) yn cael fewnblannu ar sglodion fydd yng nghrombil y genhedlaeth nesaf o setiau teledu. Rwy’n cymryd y bydd y setiau teledu yma hefyd â sglodion wi-fi ynddyn nhw a bydd hyn oll yn golygu y bydd modd gwylio teledu dros y wê ar eich set deledu heb orfod ei gysylltu lan gyda chyfrifiadur neu declyn fel yr AppleTV.

Mae hwn yn ddatblygiad difyr iawn: ond maen siŵr y bydd y setiau yma yn costio rhai cannoedd o bunnoedd ac ystyried, yn ei hanfod, na fydd yn gwneud dim all fy iMac ddim gwneud rhaid ystyried os bydd y gost yn rwystr i fy nennu nol at fyd y setiau teledu.

Please follow and like us: