Ymateb cyntaf fy Mam pan soniais mod i’n adolygu Hunangofiant Rhys Mwyn i Gwales oedd; “Dyn drwg!”. Wrth gwrs, dydy Mam erioed wedi cyfarfod Rhys, dydy hi ac ni fydd hi’n darllen yr Hunangofiant chwaith – tystiolaeth ail-law wedi ei seilio ar ragfarn a berodd iddi ddweud fod Rhys yn “Ddyn Drwg.” Nid yw sylwad Mam am Rhys yn unigryw o gwbl oblegid dynna’r ddelwedd sydd gan Rhys Mwyn – y boi hegr sy’n lladd ar bawb a phopeth; Radio Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Anweledig… mae pawb yn ei chael hi. Er mod i ar ryw ystyr yn cynrychioli’r hyn mae Rhys yn antithesis ohono (Dwi’n trefnu gigs yn enw’r Gymdeithas ac rwy’n Gristion) dwi wedi edmygu Rhys erioed ac yr ychydig droeon dwi wedi ei gyfarfod mae wedi bod yn glên iawn ac wedi cymryd diddordeb yn yr hyn dwi’n dweud a gneud – fodd bynnag dwi erioed wedi delio ag ef ar lefel broffesiynol felly ys dywed y Sais the proof is in the puddin.
I ddechrau rhaid nodi fod i’r llyfr yma farchnad benodol, fel Marmite you’ll ether love it o’r hate it. I chi sy’n ymddiddori mewn diwylliant cyfoes yna mae’r gyfrol hon yn em. Os nad ydych yn gwybod pwy oedd y Ffa Coffi Pawb yna dyma lle daw’r adolygiad i ben – diau y bydd Hunangofiant Gwyn Thomas fwy at eich dant chwi. Yr hyn sy’n drawiadol am y llyfr, er gwaethaf fod tipyn o bawb yn cael bonclust a bod Rhys yn malu awyr mewn sawl lle, mae’r llyfr yn eich perswadio erbyn y diwedd fod Rhys Mwyn yn foi oce wedi’r cyfan. Mae yna adrannau sydd wir yn eich cyffwrdd chi megis y sôn am salwch a marwolaeth ei Fam. Ac yna yr adrodd am farwolaeth trist Al Maffia tra yn teithio gyda’r band yn Llydaw – nid oedd gan ei deulu bres i’w hedfan yn ôl i Gymru ac fe aeth Rhys ati a threfnu gig mawr i godi arian i’r perwyl. Ar nodyn hapusach ceir adrodd am hanesion doniol megis gig punk amser cinio yn ei ysgol Uwchradd yn Llanfair Caereinion lle aeth y plant yn wallgo a neidio i mewn i bwll nofio’r ysgol yn eu dillad ar y diwedd!
Tua diwedd y llyfr mae’n trafod ei ran yn llwyddiant Catatonia a’r modd y bu iddynt ei drin yn wael wedi iddynt arwyddo cytundeb gyda chwmni rheoli yn Llundain – fe aeth cyfreithwyr Catatonia ar ei ôl yn honni iddo feddwi Cerys ac yna ei chael hi i arwyddo cytundebau; gwadu hyn yn llwyr y gwna Rhys yn y llyfr. Daw’r llyfr i ben gyda Rhys yn nodi fod angen i’r Gymdeithas ‘ailddiffinio eu hunain’ sy’n reit eironig ag ystyried ei fod yn mynd ymlaen am Tony Schiavone bob tro y sonia am y Gymdeithas – sy’n dangos fod Rhys Mwyn ei hun bellach yn byw yn y gorffennol oblegid nad ydy Tony wedi ymhél a threfniadau’r Gymdeithas o ddifri ers blynyddoedd ac fod y genhedlaeth nesaf wedi bod wrthi ers rhai blynyddoedd yn trefnu gigs a theithiau! Nid oes sôn o gwbl am y rhesi o artistiaid sydd wedi cael llwyfan gan y Gymdeithas yng nghyfres Naws yn Aberystwyth ac Abri yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf.
Ysywaeth, mae’n lyfr onest sy’n adrodd yr hanes trwy lygaid un a oedd yno ac oherwydd y cyffyrddiad personol yma, i mi beth bynnag, mae’n rhagori ar lyfr Hefin Wyn ‘Ble Wy Ti Rhwng?’ sy’n adrodd, yn fras, hanes yr un cyfnod. Fe gymeradwyaf i chi ddarllen yr efenygl hwn yn ôl Rhys Mwyn – ond gochelaf rhag eich annog i gredu’r efengyl yn llythrennol!
Rhagfyr, 2006