Cyfarfod drwy ffrind i ffrind gwnaeth Tomos a Ruth. O’r munud y gwnaethon nhw gyfarfod roedden nhw’n ymddangos fel y pâr perffaith. Roedd Ruth yn cynnig popeth roedd Tomos wastad wedi bod yn deheu amdano. Roedd hi’n brydferth, yn allblyg, yn alluog ac yn annwyl – roedd hi wastad yna pan oedd Tomos ei hangen hi. Am y pum mis cyntaf nid oedd modd eu gwahanu. Nid oedd angen i Tomos edrych ymhellach, byddai’n dweud wrth ei ffrindiau: “Hi yw’r Un!” Bellach mae tair blynedd wedi pasio heibio. Mae Tomos yn parhau i fwynhau’r cysur a’r cwmni o fod gyda Ruth, ond mae’r sbarc a’r cariad cyntaf wedi diflannu. Mae Tomos yn sylwi fwy fwy ar wendidau Ruth. Nid yw’n siŵr os ydy Ruth mor brydferth ag oedd hi unwaith ac mae’r wefr o fod gyda’i gilydd wedi ei golli. Un noson dyma Ruth yn holi Tomos i ddiffinio eu perthynas a dyma Tomos yn cynhyrfu a gwaeddi: “Dy ni gyda’n gilydd yn dydyn? Dydy hynny ddim yn ddigon i ti?” Yn amlwg nid oedd Tomos yn barod i ymrwymo ei hun i Ruth.

Tybed a ydych chi wedi bod mewn perthynas fel hyn? Mae lle cryf i dybio fod yna gannoedd o Gristnogion fel Tomos allan yna. Nid merch yw Ruth. Ruth yw’r Eglwys.

Dyna gyfieithiad/aralleiriad Cymraeg o ddechrau’r llyfr dwi newydd orffen darllen sef ‘Stop Dating the Church’ gan Joshua Harris (Multnomah, 2004). Mae’n lyfr bach, maint poced gyda dim ond 129 o dudalennau. Yn y llyfr mae Harris yn dadlau fod yna ddiwylliant anghywir wedi codi lle mae Cristnogion yn ‘gweld’ (hy “dating”) yr Eglwys ond ddim yn ymroi i ‘berthynas’ gyda hi. Enghraifft amlwg o’r ffenomenon yma yw’r rhan fwyaf o gapeli Cymraeg sydd a nifer eu cynulleidfaoedd gryn hanner beth yw aelodaeth yr eglwys. Nid yw’r aelodau yn troi fyny heb sôn am ymroi i’r gwaith. Dadleua Harris fod yr Eglwys yn bwysig oherwydd fod Duw yn gweld yr Eglwys yn bwysig cymaint nes rhoi’r Eglwys yn Briodferch i Grist. Fe â Harris ymlaen i ddadlau mae ffydd i’w fyw yn gymunedol mewn perthynas gyda Christnogion eraill ydy Cristnogaeth. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys penodau heriol ar sut y dylem ni ddewis eglwys ac hefyd pennod ar “ddiwrnod yr Arglwydd”, y Sul – maen dadlau fod y Sul yn ddiwrnod arbennig bwysig ond nad ydy hynny’n golygu y dylem droi’n ddeddfol ein hagwedd at y Sul.

Er fod yna lawer o bethau da gan Harris yn y llyfr mae yna wendidau yn ogystal, yn arbennig felly o’i ddarllen o’r persbectif Cymreig. Wrth ei ddarllen maen rhaid i chi gofio fod Harris yn arwain un o’r ‘mega-churches’ yn yr UDA ac mae hynny yn dangos ar adegau yn y llyfr. Maen amlwg nad ydy Harris wedi dod wyneb yn wyneb ar union yr un her a deilemas ag yr ydym ni yn ei wynebu gyda’r Eglwys yma yng Nghymru – yn bennaf, nid yw ei lyfr yn delio gyda’r modd sydd angen i ni ddiwygio a symud ymlaen o’r hen drefn anghydffurfiol sydd yma yng Nghymru. Mae Harris fel petai yn dechrau gyda dalen lan o’i flaen ond wrth gwrs nid dalen lan sydd gyda ni o’n blaenau yng Nghymru ond dalen a llawer o sgribles arno yn barod!

Er gwaetha’r gwendidau ar sylwadau culture-specific mi fuaswn ni’n awgrymu i chi ddarllen y llyfr os a diddordeb mewn diwygio Eglwysig.

‘Stop Dating the Church’ (£6.49 ar Amazon)

Please follow and like us: