Fues i yn ddigon ffodus mis yma i gael grant trwyddo yn gysylltiedig gyda fy ymchwil i brynu gliniadur newydd. Gan mod i wedi troi i ddefnyddio cyfrifiaduron Apple Mac ers rhai blynyddoedd bellach roeddwn ni’n benderfynol mae Apple Mac fyddai’r gliniadur newydd. Nid oedd y grant yn ddigon i dalu am yr Apple Mac yn llawn gan mae dim ond gliniadur Windows PC roedd y Brifysgol yn argymell ond fe gytunodd y corff grantiau i mi dalu’r gwahaniaeth er mwyn cael Apple Mac. Chwarae teg, roedd y technegydd yn gwybod yn iawn nad oedd angen MacBook Pro i ysgrifennu traethawd PhD Diwinyddiaeth; nid oedd diben dadlau ag ef am hyn! Diolch i’r corff grantiau felly am gytuno i mi gael talu’r gwahaniaeth, oherwydd fasw ni ar goll yn gorfod gweithio ar Windows PC unwaith eto. Fe ddaeth y grant trwyddo ar yr amser perffaith o ran prynu gliniadur gan Apple gan eu bod nhw newydd ddod allan a theulu cyfan gwbl newydd o MacBook’s a MacBook Pro’s. Mi fuaswn ni wedi cicio fy hun taswn ni wedi prynu gliniadur nol ym mis Medi jest cyn i’r teulu newydd gael eu lansio; fe oedais ac fe dalodd ar ei ganfed.

Yn gyntaf fe nodaf beth sy’n wahanol am y teulu newydd yma i gymharu gyda’r hen MacBook’s a’r MacBook Pro’s. Wel, i ddechrau nid oes gwahaniaeth esthetig rhwng y Mac Book’s a’r MacBook Pro’s bellach. Yn draddodiadol roedd y MacBooks (a’i rhagflaenydd yr iBook) wedi ei gwneud allan o blastig gwyn ac roedd y MacBook Pro (a’i ragflaenydd y PowerBook) wedi ei wneud allan o alwminiwm arian. Roedd llawer o bobl, merched yn bennaf (!), yn ffafrio edrychiad retro plastig gwyn y MacBook ond mewn gwirionedd i ddefnyddiwr trwm oedd yn cludo ei liniadur gyda fe i bobman roedd cael casyn alwminiwm y Pro yn hytrach na’r plastig yn gwneud gwahaniaeth. Ond bellach mae’r Book’s a’r Pro’s wedi eu cynhyrchu yn yr union run ffordd; y ddau yn dod mewn casyn alwminiwm arian. Mae hyn yn newyddion da iawn i lawer gan na fydd rhaid optio am y Pro’s drytach os am gael mantais o gorff cryfach yr alwminiwm; maen nhw i gyd yn alwminiwm bellach. Yr ail beth sy’n newydd i’r teulu ar ôl yr uwchraddiad yw’r dechneg sy’n cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu’r gliniadur. Yn draddodiadol caiff gliniaduron eu cynhyrchu allan o sawl gwahanol ddarn ond bellach mae’r MacBook’s a’r Pro’s wedi eu cerfio allan o un bloc o alwminiwm! Golyga hyn fod y gliniadur yn ysgafnach oherwydd fod llai o nuts and bolts tu mewn, yn deneuach, llai o siawns o broblemau/camgymeriadau yn y broses gynhyrchu/adeiladu ac yn olaf maen edrych yn ogoneddus!

Yr ail newid radical gyda’r teulu newydd yw’r lygoden neu’r track-pad fel maen nhw galw llygod gliniaduron. Mae Apple wrth gwrs yn enwog am beidio rhoi dau fotwm ar eu llygod a phan fydd defnyddiwr Windows yn gorfod defnyddio Apple mae’r ffaith mae dim ond un botwm sydd ganddo ni yn destun gwawd a gwylltineb mewn rhwystredigaeth! Gyda’r teulu newydd yma mae Apple wedi mynd un cam ymhellach yn eu safiad yn erbyn y lygoden ddau-fotwm a bellach nid oes unrhyw fotwm ar eu llygod! Yr hyn maen nhw wedi gwneud ydy defnyddio’r run technoleg ag sydd yn sgrin yr iPhone a’r iPod Touch i ail-greu llygoden sydd i bob pwrpas yn lechen wydr touch y medrwch chi ystumio pob math symudiadau arno. Mae modd zoomio mewn ag allan, fflicio ymlaen i’r dudalen nesaf mewn dogfen, troi llun o gwmpas 360 gradd, mynd i mewn i expose, reveal desktop a newid rhaglen a hyn i gyd gyd heb wasgu yr un botwm. Yr unig beth sy’n rhaid gwneud ydy jest gwahanol ystumiau ar y track-pad gyda’ch bysedd.

 

Maen debyg y bydd pobl sy’n dod at y dechnoleg yma yn gwbl oer a newydd yn gweld yr holl brofiad yn od ac efallai’n rhwystredig i ddechrau ond wedi i chi ddod i arfer pa ystumiau sy’n gwneud beth mae’r holl brofiod yn gweddnewid eich profiad gliniadurol ac mi fyddw chi’n gweld hi’n od mynd yn ôl i gyfyngiadau’r lygoden un a dau botwm. Wedi llai na pedair awr a hugain er i mi gael y MacBook dwi’n dod i arfer gyda’r ystumiau yn barod; mae rhai ystumiau i’w gweld ychydig bach yn or-sensatif ac wrth ysgrifennu’r blog yma dwi wedi cael fy hun yn zoomio mewn ag allan heb drio cwpwl o weithiau ond dwi’n meddwl mae mater o ddod i arfer gyda lle i (a lle i beidio) gorffwys eich bysedd ydy hyn. Mi fydd pobl sydd wedi arfer defnyddio technoleg touch yr iPhone, fel oeddw ni, yn ei gweld hi’n gynt cyfarwyddo gyda’r track-pad newydd dwi’n meddwl.

Felly dyna’r gwahaniaethau sylweddol rhwng yr hen deulu MacBook a’r newydd sef y build ‘unibody’ aliwminiwm a’r track-pad touch newydd. Mae yna welliannau sylweddol yng nghrombil y peiriannau hefyd fel modylau cyflymach RAM DDR 3 yn hytrach na DDR2 fel oedd yn yr hen deulu ac mae’r MacBook a’r Pro wedi cael cardiau graffeg gwell hefyd. Mae gan y Pro ddau gerdyn graffeg, un perfformiad uchel ac un perfformiad is i’w ddefnyddio pan fyddech chi’n rhedeg ar fatri. Ac yn olaf, mae gan y MacBook a’r Pro sgrin LCD wydr glossy nawr yn hytrach na’r math matt mwy dwll oedd arfer bod.

Felly os ydy gwneuthuriad y MacBook’s a’r Pro’s bellach yr un peth pam wnes i benderfynu mynd am y Pro yn hytrach nag achub peth arian a setlo am un o’r MacBooks? Wel, i’r rhan fwyaf o bobl mi fyddai’r MacBooks yn fwy na derbyniol ond dyma’r rhesymau pam wnes i benderfynu uwchraddio i’r Pro:

(i.) FireWire Port; nid oes un ar y MacBook bellach ac mi rydw i angen un ar gyfer fy nisgiau caled allanol a fy Nghamera Fideo Digidol.

(ii.) Cerdyn Graffeg; Er fod cerdyn graffeg y MacBook yn fwy na derbyniol fe ddarllenais mewn sawl adolygiad y byddai hi’n fuddiol i bobl sy’n ymwneud a graffeg fynd am y Pro gan fod cerdyn graffeg y Pro yn medru dangos lliwiau gyda dyfnder ac eglurder gwell na’r MacBooks. Er mae myfyriwr diwinyddiaeth ydw i mi rydw i’n gwneud peth gwaith dylunio graffeg llaw rydd i’m cynnal yn ariannol trwy’r ymchwil.

(iii.) Maint y sgrin; roedd rhaid i mi, eto oherwydd fy ngwaith graffeg, fynd am sgrin fwy yn anffodus. Er mae’r trend ar hyn o bryd ydy sgrin llai a llai roedd rhaid i mi feddwl yn yr hir dymor a mynd am liniadur a sgrin go-lew o faint oherwydd fod angen sgrin go-lew ar fy llygaid wrth wneud gwaith graffeg.

Mae’r MacBooks yn dod mewn maint 13modfedd lydan ac mae’r MacBook Pro’s yn 15modfedd lydan.

Fe welwch chi fod y MacBook Pro yn sylweddol deneuach nar hen PowerBook

Fe welwch chi fod y MacBook Pro yn sylweddol deneuach na'r hen PowerBook

Ar yr olwg gyntaf mae’r Pro 15modfedd yn fawr iawn, ond mi rydw i wedi arfer gyda fy hen PowerBook G4 12modfedd wedi’r cyfan! Ond er ei fod yn lletach ac yn ddyfnach nid yw’n pwyso mwy na’r hen 12modfedd ac maen deneuach o lawer na’r 12modfedd felly ar y cyfan dwi ddim yn meddwl fydd yn cymryd llawer mwy o le yn y bag na’r 12modfedd jest fydd dimensiynau’r lle maen cymryd yn wahanol!

 

Felly dyna ni, yn ôl y disgwyl mae Apple wedi cynhyrchu gliniadur arall heb ei ail ac wedi gosod y safon i’r farchnad yn gyffredinol. Ym myd graffeg nid oes unrhyw liniadur arall yn dod yn agos i’r MacBook Pro ac yn bwysicaf oll mae’r MacBook’s newydd, yn ogystal a gwneud i’r geeks gynhyrfu, yn edrych yn wych ac yn cŵl yn ol y disgwyl gyda Apple!

Please follow and like us: