Bymtheg mlynedd a mwy yn ôl cyhoeddodd Aled Jones Williams ohebiaeth yng nghylchgrawn Golwg yn herio rhai credoau craidd o’r ffydd Gristnogol. Fel myfyriwr penboeth oedd yn llawn balchder a sêl, ysgrifennais lythyr pigog yn ei feirniadu – ac er mawr syndod i mi fe gyhoeddwyd fy ymateb! Roeddwn i’n credu ar y pryd fy mod i’n gwneud safiad dewr ac yn gweld fy hun, yn ddigon naïf, fel arwr i’r ffydd yn cywiro’r hen heretic yna o ddramodydd. 

Rai misoedd yn ddiweddarach, fe ges wahoddiad i gymryd rhan mewn rhaglen drafod ar y teledu… ac roedd Aled yno hefyd. Treuliais y noson yn ei osgoi’n fwriadol. Ond y bore wedyn, digwyddodd iddo ofyn i rywun yn y gwesty am lifft yn ôl i’r Gogledd – a dyma rywun yn dweud: ‘beth am holi Rhys Llwyd’. 

Treulion ni bedair awr gyda’n gilydd yn y car, sgwrs hynod ddifyr; ac er mai fi oedd yr “uniongredwr”, Aled oedd yn dangos gras a thosturi. Gwers bwysig ac amserol sy’n fy arwain i fentro rhannu rhai sylwadau am gyfrol newydd Aled: “Reit Rownd: Cyffes Aled Jones Williams”. 

Cyfrol fechan ond uchelgeisiol yw hon lle mae Aled yn ceisio olrhain ei bererindod dros y blynyddoedd ers gadael yr Offeiriadaeth yn 2009 i fwrdd ac yn ôl i ‘erwau eang y ffydd Gristnogol’ fel y mae’r broliant yn disgrifio’r peth. Fe wneir hyn ar ffurf ‘cyffes’ 58 tudalen heb fod iddo is-benawdau na chyfle i ddwyn anadl bron, cyfres o luniau sy’n rhan o bererindod Aled, ac yna cyfres o gerddi anghonfensiynol. Byddaf i yn cadw fy sylwadau i at y gyffes yn unig, ac yn naturiol bydd fy sylwadau yn ymwneud ag elfennau o’r dweud gwnaeth dal fy nychymyg i. Ewch i ddarllen y gyffes eich hun a bydd elfennau eraill o ddiddordeb i ddarllenwyr eraill mae’n siŵr.

Nid oes gwadu ein bod bellach, yn ddeallusol o leiaf, yn byw yng nghyfnod ôl-Gwledydd Cred (post-Christendom) a dyna yw’r cyd-destun y mae rhywun yn cael yr argraff y bo Aled yn llwyr ymwybodol ohono. Fe ŵyr Aled hyn, gan ei fod wedi ei eni a’i fagu yn yr hen Gymru Gristnogol. Er bod ei olion o’n cwmpas – ac yn wir yn greithiau ar enaid a phrofiad Aled ei hun – rydym mewn lle gwahanol iawn erbyn hyn. Mae mwy o bobl nag erioed yn dweud eu bod yn “ysbrydol ond nid yn grefyddol”, rhywbeth y gwrida Aled iddo ddweud ar fwy nag un achlysur. Mae’r Eglwys yn aml yn cael ei hystyried fel adfail—yn llawn cysur hiraethus am genedlaethau’r gorffennol efallai, ond heb rym na pherthnasedd heddiw. 

Ac eto, o dan yr wyneb, mae yna ddiddordeb tawel newydd—mae’r adeiladau a’r adfeilion yn cynnig porth o fyd a chymdeithas faterol i’r arall ysbrydol. Mynna Aled fod seciwlariaeth a materoliaeth wedi gadael pobl yn wag, yn sownd mewn rhigol nad sy’n medru torri’r syched a bodloni’r hiraeth.

Yn y fan hon, mae Aled yn cynnig ei hun fel tystiolaeth brofiadol o’r hyn sy’n digwydd pan fo Duw yn dod yn fwy na syniad—pan fo’r gwirionedd yn datguddio ei hun, neu pan fo angen y crefyddol i roi iaith a siâp i’r ysbrydol. “Ond y llawnder dynol yw’r sylweddoliad drwy Ras mai Duw yw ‘gwrthrych’ ein hiraeth,” meddai. “Datguddiad yw hynny. Ni allaf fi fyth ei wybod.” 

I Aled nid deubeth mewn cystadleuaeth a’i gilydd yw’r crefyddol a’r ysbrydol oherwydd mai “Ymgnawdoliad yw’r cwbl … mae ymgnawdoliad yn golygu brics a cherrig a mortar, lleoedd a mannau, llwybrau… ac iaith … Enw arall am ‘iaith siarad am Dduw’ yw ‘diwinyddiaeth’,” meddai. “Er nad wyf yn ddiwinydd… hanfod diwinyddiaeth yw sut i ymarfer iaith a’i gramadeg am Dduw sydd y tu hwnt i iaith a’i gramadeg ond eto yn ynganadwy. Y ‘dasg’ anodd o ‘enwi’ y Di-enw.” 

Mae’r drafodaeth yma am berthynas y profiad crefyddol ac ysbrydol gydag iaith yn ddiddorol ac amserol. Mae’r sawl ohonom sy’n parhau yn y weinidogaeth Gristnogol ac yn gweld diddordeb ysbrydol newydd ymhlith y to iau wedi eu gweld yn straffaglu weithiau i ddarganfod geiriau synhwyrol i brosesu eu profiadau ysbrydol (o Dduw) er mwyn gallu adrodd eu ‘cyffes’ i’w cyfoedion gan nad ydynt wedi eu magu gydag iaith y Beibl neu’r llyfr gweddi. Heb y fframwaith ieithyddol yma – sef diwinyddiaeth – y mae perygl i’r profiadau yma fod ychydig yn ddiystyr a mynd i gyfeiriad sentimentaliaeth yn fwy ‘na gras a datuddiad. Mae’r grefydd Gristnogol, ei llyfr sanctaidd, ei gweddïau a’i diwinyddiaeth – hynny yw ei iaith – yn cynnig fframwaith synhwyrol i bobl brosesu a chyfathrebu eu profiadau ysbrydol. Neu, o ddefnyddio delwedd o faes gwahanol, mae’n andros o gamp trio codi tŷ heb scaffolding: y scaffold yw ein hiaith am Dduw, ein diwinyddiaeth, ein crefydd.  

Fe wêl Aled fod y rhod yn troi, mae’n honni mai bod yn radical heddiw, mewn gwirionedd yw bod yn grefyddol: “mae’r byrddau wedi troi a’r gwir ‘radicaliaeth’ bellach yw’r crefyddol ac nid y seciwlariaeth fas… Nid oes y tu mewn i seciwlariaeth lais proffwydol yn erbyn hyn. Rhaid troi at y crefyddol i ganfod y llais hwnnw.” Oherwydd yn y diwedd, y cwestiwn mwyaf yw: a ydym am gael ein diffinio “fel rhai sy’n creu elw, ynteu ein dirnad yn nhermau delw Duw?” 

Mae Aled yn datgan ei gred fod Cristnogaeth yn rhoi mwy o urddas a phwrpas i’r bod dynol nag y gall seciwlariaeth faterol byth ei wneud.

Tua diwedd ei gyffes, ar ôl mynd a ni yn ôl i fro ei febyd, i mewn ac allan o’r offeiriadaeth, i gyfarfod a’r botel a’r Bwda ac yna wynebu ei hun yn ei gancr mae Aled yn grediniol eto. Mae wedi mynd Reit Rownd. Pan ofynnir iddo, “A wyf fi felly wedi dychwelyd i uniongrededd?”, mae ei ateb yn ddeallusol onest ac ysbrydol ddofn: “Efallai… os mai hyn yw ystyr ‘uniongrededd’.” Ac iddo ef nid yw ‘hyn’ yn golygu arwyddo cyffes ffydd systematig, ond yn hytrach gofleidio dirgelwch a pharadocs Y Drindod ac ymgnawdoliad y Duw-ddyn. I Aled, daeth yr uniongrededd hael hwn fel math o iachâd iddo. Wedi gwrando ei gyffes daeth pennill Thomas Jones (Rhydwilym) i’r meddwl:

Er chwilio’r holl fyd
A’i fwyniant i gyd,
Nid ynddo mae’r balm a’m hiachâ;
Ond digon im yw
Yr Iesu a’i friw,
Caf iechyd o’m penyd a’m pla.

Efallai ei bod hi’n amser i ni’n dau rannu taith car arall.

Please follow and like us: