Dwi newydd ddarllen dros Adroddiad Cymdeithas Cledwyn, ‘Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg (Mehefin 2008)’, yn frysiog. Y diddordeb arbennig i mi wrth gwrs yw unrhyw sôn am ddatblygu Addysg Gymraeg yn y Sector Addysg Uwch. Er fod Coleg Ffederal Cymraeg yn rhan o bolisi Llywodraeth Lafur nid oes gan Gymdeithas Cledwyn ddim byd i ddweud am y mater. Mae hyn yn gwbl nodweddiadol ac yn dangos mae arwynebol yw unrhyw sôn a strategaeth o dŷ’r Blaid Lafur i ddatblygu Addysg Gymraeg os nad oes gair gyda nhw ddweud am eu polisi nhw eu hunain.

Ac mae’r dyfyniad isod o’r adroddiad yn dweud y cyfan:

Dylai’r Blaid Lafur yng Nghymru fod yn ffyddiog nad magwrfa i gefnogwyr y cenedlaetholwyr yw ysgolion Cymraeg. Gallwn ni sicrhau hynny drwy annog cefnogwyr Llafur i ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysgolion cyfrwng Cymraeg lleol.

Hynny yw y dylai cefnogwyr Llafur ymwneud yn weithgar â rheoli eu hysbolion cyfrwng Cymraeg a parhau i fwydo’r plant a phropeganda Prydain, cario mlaen a ddysgu am hanes Lloegr ac nid Hanes Cymru etc etc… Wrth cwrs yn Lloegr mae Gordon Brawn a’i gyd-Lafurwyr yn gwbl agored fod angen defnyddio’r ysgolion i ddysgu am Brydeindod a dysgu am hanes a gwerthoedd Prydain. Pam fod Llafur ddim yn fodlon gwneud yr un peth yma yng Nghymru, defnyddio’r ysgolion i ddysgu am Gymreictod a gwerthoedd a hanes Cymru. Oherwydd er eu gwisg Gymreig, diwedd y dydd Plaid Brydeinig ac nid Gymreig yw y Blaid Lafur o hyd.

Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg (Mehefin 2008) (PDF)

Please follow and like us: