Adroddiad o Gynhadledd CymruGyfan 2009 (Rhan 1)

Addoliad ar gychwyn y gynhadledd

Roedd hi’n fraint cael mynychu cynhadledd CymruGyfan yn y Drenewydd wythnos diwethaf. Bu i mi gyrraedd ychydig bach yn hwyr – roedd hi’n dipyn o daith i gyrraedd yno o Fangor erbyn deg y bore; wrth i mi gyrraedd roedd y maes parcio’n orlawn ac wrth i addoliad y bore ddechrau dyma fi’n sleifio i mewn i’r cefn a’m syfrdanu gyda’r nifer oedd wedi dod ynghyd – dros ddau gant oliaf. Torf o bobl Dduw oedd wedi troi eu hanobaith yn obaith. Wedi troi eu cwyno yn weithgarwch. Wedi troi eu consyrn am Gymru yn eirioldeb gerbron Duw dros ein cenedl. Roedd yn y gynhadledd hon gred ddiysgog fod Duw yn gallu adfywio ei waith yng Nghymru, cred hyd yn oed fod Duw wedi dechrau’r adfywio hyd yn oed.

Pwy neu beth ydy CymruGyfan felly? Maen symudiad sy’n rhwydweithio i blannu eglwysi newydd neu i gryfhau rhai sydd yn bod eisoes, yn ôl y galw. Maen nhw’n teimlo’r Ysbryd Glân yn gweithio drwy rwydweithiau, ac yn cael eu harwain i weithredu yn awr i symud ymlaen ar fyrder. Mewn gair, nid siop siarad ydy CymruGyfan ond pobl sydd am weithredu. Mae CymruGyfan yn edrych i feithrin cyd-weithrediad ymhlith Cristnogion, er hyrwyddo plannu eglwysi newydd a chryfhau eglwysi presennol, a fydd yn gweld cynyddu nifer yr eglwysi hyfyw yng Nghymru. Maen nhw’n gweithio gyda rhwydweithiau a grwpiau o eglwysi sydd yn rhannu eu gwerthoedd, boed y rheiny o blith yr enwadau Anglicanaidd, Bedyddwyr, Diwygiedig, Carismataidd, cyfrwng Cymraeg neu’n annibynnol o unrhyw enwad. Nid yw hi’n fwriad gyda’n nhw i ffurfio enwad newydd na chorff o eglwysi eu hunain; mae hyn yn bwynt pwysig i gofio.

Hywel Edwards, Eglwys Antioch Bae Colwyn

Mae bwriad Iesu i adeiladu ei eglwys yr un o hyd (Mathew 16:18). Mae CymruGyfan yn credu ein bod yn byw mewn dyddiau o gyfleon, o adnoddau, o ryddid i ledaenu yr Efengyl, ac i gychwyn eglwysi newydd. Wrth inni weld cymdeithas yn cael ei darnio, lledaeniad anghyfraith, a seciwlariaeth yn rhoi bod i anobaith, daw Eglwys yr Arglwydd Iesu yn fwy amlwg yn ei safiad dros wirionedd, cymod a gobaith. Mae’r byd ar ei waethaf angen eglwysi ar eu gorau. Ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain mae llawer o ardaloedd yng Nghymru’r prysur droi yn anialdiroedd ysbrydol gyda chynulleidfaoedd yn heneiddio, adeiladau’n cau, yr Efengyl yn anaml ei phregethiad ac ond ychydig iawn o ddisgwyl unrhyw newid er gwell.

Y gred yn y gynhadledd oedd ei bod yn amser i ufuddhau i Gomisiwn Iesu. Canrif a hanner yn ôl, roedd mwyafrif poblogaeth Cymru yn cael y cyfle i wrando ar bregethu efengylaidd, efengylaidd yng ngwir ystyr y gair nid efengyliaeth fodern-Americanaidd! Deg a thrigain o flynyddoedd yn ôl, cyrhaeddwyd pen-llanw yn rhif ‘aelodaeth’ capeli Cymru. Heddiw, yn ôl rhaid ystadegau, mae’n debyg na ellir disgrifio ond tua 2% o’r boblogaeth fel Cristnogion byw. Does gan ddwsinau o drefi, na channoedd o bentrefi ddim tystiolaeth, ac fe welir dirywiad cyson ymhlith y rheiny sydd â thystiolaeth o’r fath ganddynt. Mae yna eglwysi cryfach sydd yn gwasanaethu yn effeithiol o fewn y cylch o’u cwmpas ac yn cefnogi gwaith tramor, ond prin yw’r rhai sydd â strategaeth glir nag ymrwymiad i’w cenedl eu hunain, ein cenedl ni. Y consensws yn y gynhadledd oedd fod yr Arglwydd Iesu yn ewyllysio gweld eglwysi byw, sy’n anrhydeddu y Beibl, ym mhob rhan o Gymru gan gynnwys ardaloedd canol dinas, cymunedau’r cymoedd, Canolbarth Cymru a chymunedau Cymraeg eu hiaith.

Parhad yn y cofnod nesaf…

Mwy o luniau o’r diwrnod

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.