Neithiwr fe gynhaliwyd y cyfarfod Torri Syched cyntaf ym Mhenuel Bangor sef gwasanaeth ar ffurf gwahanol i’r hyn sydd wedi dod i’r arfer ag ef mewn capel Cymraeg. Canwyd rhai emynau mwy cyfoes na’r arfer, dangoswyd fideo ac yna wnes i sgwrs fach ar y testun ‘Pwy yw’r Iesu go-iawn?’ Daeth criw da iawn o aelodau’r eglwys at ei gilydd – tipyn mwy na’r hyn sy’n arfer dod i wasanaeth yr hwyr fel arfer. Er i ni ddosbarthu rhai taflenni o amgylch Bangor ni drodd unrhyw rai newydd i mewn i ymuno a ni yn anffodus ond does ots am hynny am rwan. Maen bwysig adeiladu’r eglwys a gwneud yr eglwys ei hun yn gyfforddus gyda dulliau newydd o gyhoeddi’r gair ac addoli cyn gwahodd rhai o’r tu allan i ymuno a ni maen siŵr.
Dwi wedi rhoi nodiadau’r sgwrs ynghyd a’r cyflwyniad Power Point yn adran Torri Syched ar wefan Penuel fan YMA.
Bydd y Torri Syched nesaf ar Nos Sul, Tachwedd 1af am 5.30 yn Festri Penuel. Dewch draw am dro.