Mi oedd yna ddarn ofnadwy o unochrog ar News at 10 neithiwr am ddatganoli pellach i Gymru. Holwyd tri person yn erbyn a neb o blaid. Awgrymwyd yn anghywir hefyd y byddai pwerau ychwanegol yn golygu trethi uwch.
Mae modd gwylio’r eitem unwaith eto fan YMA, mae’r eitem 30 munud i fewn i’r rhaglen. Bydd y ffilm dim ond yna am rai oriau heddiw cyn cael ei ddi-orseddu gan newyddion deg heno.
Mae angen i gynifer o bobl a phosib gwyno i’r BBC am yr eitem ofnadwy yma. Mae modd gwneud hynny drwy glicio YMA.
Dyma’r wybodaeth:-
Eich cwyn (croeso i chi ei addasu):
Eitem ynghylch datganoli yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad yn unochrog yn erbyn datganoli gan i’r eitem holi tri aelod o’r cyhoedd oedd yn erbyn datganoli a dim un oedd o blaid.
Ni roddwyd sylw i’r ffaith fod polau piniwn cyson er dechrau datganoli yn 1997 wedi dangos fod y gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru yn tyfu.
Roedd dadleuon yr aelodau o’r cyhoedd gafodd eu cyfweld dim ond yn codi bwganod, ac fe ddylai’r eitem wedi rhoi cyfle i rywun ateb eu gofidiau. Yn hytrach roedd tôn a thuedd yr adroddiad yn cadarnhau y gofidion yn hytrach nag edrych ar ddau ochr y ddadl.
Sianel deledu: BBC One
Enw rhaglen: BBC News at Ten
Dyddiad Darlledu: 26/04/10
Cofiwch ofyn am ymateb hefyd.