Heddiw bydd Osian Jones yn wynebu ei ail achos llys. Y disgwyl oedd y byddai’n cael ei garcharu gan Ynadon Pwllheli bythefnos yn ôl fe fe fethodd y llys hwnnw a dod i benderfyniad dros ei ryddhau neu ei garcharu gan benderfynu’n lle symud yr achos i Lys Caernarfon ymhen pythefnos, sef heddiw.
Does dim wedi newid yn y sefyllfa wleidyddol yn y cyfamser. Mae’r LCO iaith yn wan ac fe fethwyd a cyffwrdd y gwasanaethau iechyd (Boots a Superdrug) a telegyfathrebu (PC World) yr oedd Osian yn protestio a mynnu ei hawliau ganddynt. Methodd y drefn wleidyddol a dod a ni gam yn nes at hawliau cyfartal gan y darparwyr dan sylw ac felly mae sail cwbwl ddilys i safiad a charchariad Osian heddiw.
Gyda chenedlaetholwyr mewn Llywodraeth maen drist o beth fod Osian yn gorfod wynebu carchar oherwydd i’r drefn wleidyddol ynddi hi ei hun fethu darparu hawliau cyfartal.
Dewch i lawr i’r achos yn Llys Caernarfon. Achos yn cychwyn yn fuan ar ôl 9.30. Mi fyddwn ni yno trwy’r bore maen debyg.
Sori am fod mor anwybodus – ond tydi o ddim yn beth positif fod y llywodraeth, er gwaetha unrhyw wanderau eraill, yn dal i gynnal y gyfraith yn erbyn fandaliaeth? Di o ddim hyd yn oed yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar amdano fo? Mae’n bosib fod yna anhegwch o ran yr iaith (dadl arall ydi hwnna) ond dwi’n reit siwr mai carcharu am fandaliaeth ydi o, nid carcharu am fod yn Gymro Cymraeg? Ydi o’n gynhyrchiol i briodoli anhegwch ar yr awdurdodau ym mhob agwedd am fod yn anheg mewn agwedd gwahanol? Unwaith eto – sori am fod yn anwybodus.
Diolch am y sylwad Gethin. Wrth gwrs gweinyddu cyfiawnder oedd y llys a dyna oedd Osian yn ei ddisgwyl a’i dderbyn. Y pwynt roeddwn ni’n gwneud oedd fod bai ar y llywodraeth fod y sefyllfa wedi codi yn y lle cyntaf. Hynny yw, oherwydd methiant y drefn wleidyddol/gyfansoddiadol i roi hawliau cyfartal ym mhob sffêr o gymdeithas i siaradwyr Cymraeg y cyflyrwyd Osian i droi at ddulliau anghyfansoddiadol. Pe bae’r gwleidyddion wedi sortio hawliau mas fyddai dim rhaid i Osian brotestio ac ni fyddai felly yn y carchar.
Mae e i gyd i wneud a pa ddeddf? Mae gyda ni ddeddf gwlad ond buasw ni yn dadlau fod yna ddeddf foesol (sydd i mi fel Cristion yn deillio o ddysgeidiaeth y Beibl am gyfiawnder) sy’n uwch na deddf gwlad. Mae’r llys wedi carcharu Osian ond mae Osian mewn gwirionedd yn fwy rhydd nag unrhyw un o’r ynadon a’i ddedfrydodd i garchar. Mae nhw wedi eu cyfyngu i ddeddf gwlad tra fod Osian yn dilyn ei werthoedd bid a fo ei fod tu ôl ddrysau cell.