mr_urddYn ogystal a gwylio’r rhaglen am Ffred neithiwr ar S4/Clic wnes i ddal fyny hefyd gyda’r rhaglen Taro 9 oedd yn trafod yr Urdd ac alcohol. Dyma felly ymateb i’r rhaglen ond hefyd ymateb i ymateb Guto Dafydd i’r rhaglen sydd i’w gweld fan yma.

Ar y cyfan dwi wastad wedi bod yn dra llugoer fy nghefnogaeth i unrhywbeth ag iddo arlliw ddirwestol a hynny, maen debyg, oherwydd mod i’n Gristion sy’n credu mae trwy ffydd mae dod at Dduw nid trwy weithredoedd. Dydy fy Nghalfiniaeth i ddim mor galed a’r hyn sy’n cael ei bortreadu gan Guto, ydw dwi yn meddwl mae Duw yw lluniwr y cyfamod ond dwi’n credu fod galwad a cyfrifoldeb ar bawb i ymateb i’r cyfamod hwnnw wedyn. Mae’n siŵr mae Calfiniaeth gymedrol dwi yn ei arddel yn hytrach na Chalfiniaeth lem y pum pwynt.

Wedi dweud hynny, dwi’n cofio darlith gan Richard Wyn Jones ar y cwrs ‘Dosbarth, Cymuned a Chenedl’ yn gwneud i mi feddalu rhywfaint ar fy llugoeredd tuag at mudiad dirwest. Mae Richard, fel y gwŷdd llawer, yn anffyddiwr seciwlar, ac felly roedd hi’n ddiddorol fod ganddo ef elfen o gydymdeimlad tuag at dirwest a oedd yn fudiad Cristnogol. Yr hyn a wnaeth Richard yn syml oedd pwyntio allan mae’r unig beth wnaeth mudiad dirwest oedd cynnig ateb i broblem oedd wedi dechrau llethu rhai cymunedau. Dywedodd fod ystadegau yn dangos fod yn berthynas anwadadwy rhwng argaeledd y ddiod gadarn a phroblemau tor-cyfraith mewn llawer o gymunedau diwydiannol Cymru. Felly cyn mynd ati i feirniadu dirwest fel rhywbeth ‘cul’ dywedodd Richard fod yn rhaid i ni werthfawrogi’r cyd-destun cymdeithasol a sylwi mae ceisio gwneud cyfraniad positif i gymdeithas yr oedd dirwest ar y pryd. Ac ar y cychwyn felly dwi’n meddwl fod rhaid gwerthfawrogi, hyd yn oed os na fyddwch chi’n cytuno gyda nhw, mae ceisio gwneud cyfraniad positif y mae Wynfford Ellis Owen ac Alun Lenny.

Mae cyfraniad Dyfed Wyn Roberts i’r drafodaeth yn ddiddorol. Gellid darllen ei sylwadau ef fan yma. Mae Dyfed yn sôn mae’r cam cyntaf yn unig i bobl sy’n gaeth i alcohol ydy dod yn Gristion, y mae’r iachâd yn dilyn wedyn. A dyma oedd profiad un cyfaill i mi oedd yn alcoholig ond a gafodd dröedigaeth. Yn wahanol i Alun a Wynfford (dwi’n meddwl), dydy fy nghyfaill i ers ei dröedigaeth ddim hyd yn oed yn gorfod brwydro’r demtasiwn. Nid arf i frwydro’r demtasiwn ydy ei ffydd iddo, ond yn hytrach mae wedi ei iachau yn llwyr ac mae’r demtasiwn wedi diflannu. Mae hynny’n ddiddorol iawn gan mae ffydd y mae e’n ei bwysleisio ac fod y gweithredoedd wedi dilyn yn naturiol wedyn trwy ras Duw.

Tybed be fyddai gan R. Tudur Jones i ddweud am hyn? Mae’n debyg y byddai, o gael dewis, yn gwrthwynebu cael alcohol yn yr Urdd a hynny am resymau hiwministaidd a lles cyffredinol. Ond dwi hefyd yn tybio y byddai’n anghytuno gyda llif dadl Wynff ac Alun a’r ffaith eu bod, wrth gwrs, yn moesoli yn enw’r eglwys Gristnogol. Trwy ei waith y mae Tudur Jones yn dadlau na ddylid gorfodi rheolau/deddfoldeb Gristnogol ar gymdeithas seciwlar. Dyna welai oedd camgymeriad mawr y Piwritaniaid, grŵp a oedd yn eu edmygu ar y cyfan. Adeg y dadlau am gadw’r Sul yn sych fe ddadleuodd Tudur Jones na ddylid gorfodi’r Sul Cristnogol ar bobl nad oedd yn cydnabod Crist fel Arglwydd. Ac unwaith fe wrthwynebodd i brosesiwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor gael ei arwain gan arweinwyr Cristnogol y ddinas a diweddu yn y Gadeirlan gan mai sefydliad seciwlar ydyw a dylai’r Eisteddfod fod.

Wedi dweud hynny, mae’n amlwg i bawb fod binge drinking yn broblem cymdeithasol yng Nghymru heddiw ac mae angen i bawb ymroi i’w datrys. Ac yn y ddeinamig yna y mae perffaith hawl gan Gristnogion gyfrannu i’r drafodaeth. Er enghraifft dwi’n cefnogi galwadau megis yr alwad i wahardd hysbysebu alcohol.

Un peth sy’n ddiddorol wrth gwrs am ddadleuon Wynff ac Alun yw eu bod yn dadlau yn enw’r eglwys Gristnogol ond os na fyddech chi’n digwydd gwybod hynny fyddech chi ddim callach. A dyna, amwn i, ydy gwendid eu dadl. Yn bersonol fy mlaenoriaeth i fel Cristion ydy cymeradwyo fy ngwaredwr Iesu Grist i bobl. Ym mhellach i lawr y lein y bydda i wedyn yn sôn am ffordd Iesu o fyw sydd, ymysg pethau eraill, yn golygu mwynhau alcohol yn gymedrol. Dydw i ddim yn disgwyl i bobl nad sy’n arddel enw Iesu fel Arglwydd i fyw yn ôl ei ddysgeidiaeth. Ond rhywsut y mae Wynff ac Alun yn disgwyl hynny.

Fe gaiff Tudur Jones yn gair olaf, dyma recordiad ohono (dim ond 2 funud) yn adrodd am un o bregethau John Elias lle mae’n gwneud y pwynt fod Cristnogion yn gallu edrych i lawr ac alcoholics OND fod Iesu ei hun yn eu derbyn a breichiau agored:

Please follow and like us: