Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn rhwng problemau iechyd personol, burnout a marwolaethau annisgwyl ffrindiau agos a theulu, ac aml i ffrind i ffrind sy’n mynd drwy salwch blin.
Wrth feddwl am hyn i gyd bore ‘ma wnes i gofio am y stori am ddau ffrind oedd yn gwylio Match of the Day gyda’i gilydd. Roedd y rhaglen y noson honno yn dangos gem bwysig a tyngedfennol i’r tîm roedd y ddau ffrind yn ei gefnogi. Aeth eu tîm ar ei hôl hi, yna cafwyd cerdyn coch i wneud pethau yn waeth byth. Roedd y gêm i weld wedi ei cholli, a gobeithion y tymor wedi eu chwalu’n llwyr. Roedd un o’r ffrindiau yn banig llwyr ac wedi mynd i ofid mawr ond yn rhyfedd iawn roedd y ffrind arall yn cool i gyd.
Beth oedd i esbonio’r profiad gwahanol i’r ddau ffrind yn gwylio a byw trwy’r un gêm? Wel, roedd y ffrind oedd yn cool i gyd ddim yn panicio, ddim yn mynd i ofid oherwydd heb yn wybod i’r ffrind arall roedd wedi edrych eisoes beth oedd y sgôr terfynol ac yn gwybod sut fyddai’r gem yn gorffen ac yn gwybod y byddai eu tîm yn brwydro’n ôl ac ennill yn y pen draw!
Mae hyn yn ddelwedd dda i drio esbonio sut mae fy ffydd wedi bod yn help i fi dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r profiadau anodd yn parhau i ddod ac yn parhau i ysgwyd rhywun, ond mae gwybod y bydd popeth yn iawn yn y diwedd yn rhoi cysur i rywun ac yn dal rhywun rhag torri calon yn llwyr.
Ar ddiwedd y Beibl mae Llyfr y Datguddiad yn rhoi snapshot o’r sgôr terfynol:
“Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a’r awyr gyntaf wedi diflannu … Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir … Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.” Dyma’r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, “Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!”
(Datguddiad 21:1-5)
Neu fel y dywedodd Julian o Norwich yn y canol oesoedd:
“All shall be well, and all manner of thing shall be well.”
Mae hyn i gyd yn gysur i fi, dydy e ddim yn cael gwared â phoen heddiw ond mae’n rhywbeth i ddal gafael ynddo wrth wybod bydd pob dim yn iawn yn y diwedd.