“Doedd ’na ddim ysgol yn ein hysgol ni yn y pnawn am bod hi’n Ddydd Iau Dyrchafael…” Dyna eiriau o benod agoriadol nofel enwog Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad. Dau fachgen yn trio gwneud synnwyr o’r byd mawr yn agor o’u blaenau. 

“Eisio gwybod oedd Huw wedyn pam oedd Eglwyswrs yn mynd i’r Eglwys Dydd lau Dyrchafael, a finna’n deud wrtho fo: Wyddost ti ddim, Huw? Na wn i, medda Huw. Wel, am fod Iesu Grist wedi mynd i fyny i’r Nefoedd fel balwn ar ddydd lau ar ôl iddo Fo godi o-farw-fyw, siŵr iawn.”

Mae rhywbeth diniwed am y darlun yna o Iesu yn mynd i’r nefoedd “fel balŵn”. Ac mae rhywun yn gallu dychmygu chwylfrydedd a diniweidrwydd tebyg ymhlith y disgyblion yn sefyll yn syllu i’r awyr ar ôl i Iesu esgyn o’u golwg. Mae’r foment bron yn gomig os meddyliwch amdani — criw o ddynion yn sefyll yna fel pobl wedi colli balŵn mewn ffair. A’r angylion yn dweud: “Beth dych chi’n ei wneud yn sefyll yna?”

Fel yr olygfa gyntaf hwnnw yn Un Nos Ola Leuad, mae heddiw yn Ddydd Iau Dyrchafael, un o’r gŵyliau Cristnogol mae hyd yn oed y rhan fwyaf o Gristnogion wedi ei anghofio.

“Mae pobol dda i gyd yn mynd i godi o-farw-fyw…”, meddai un ffrind yn y nofel cyn mynd ymlaen i rybuddio: “ond i lawr i uffarn y byddan ni’n mynd… am ddwyn poteli pop Ann Jos.”

Darlun dychrynllyd a doniol yr un pryd. Cymysgedd o ofn, gobaith, dryswch a chwilfrydedd. Un efallai sy’n dweud mwy am brofiad Caradog Pritchard o bregethu tân a brwmstan ei blentyndod nag am unrhyw realiti heb sôn am obaith tragwyddol. 

Mae Dydd Iau Dyrchafael yn wahoddiad i bobl gyffredin edrych tua’r awyr, “Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd…” Wrth i ni drio gwneud synnwyr o’r byd, fe allwn obeithio — er gwaetha’r cwbl — oherwydd i’r Cristion mae esgyniad Iesu yn gyhoeddiad fod Brenin Tangefedd ar ei orsedd ac mae maddeuant ar gael am ddwyn poteli pop Ann Jos.

Please follow and like us: