Pam na fu dadl arweinwyr Cymreig gan y BBC yn Gymraeg ar S4C? Neu gael opsiwn iaith ar y rhaglen ar BBC 1? Mae BBC Cymru wedi colli cyfle eto fyth i brif ffrydio’r Gymraeg a dangos ein bod ni’n genedl hyderus yn ein dwyieithrwydd.

Gellid bod wedi rhoi clustffonau cyfieithu ar y pryd i Cheryl, Hain a Kirsty ac wedyn wrth iddyn nhw ateb yn Saesneg gellid cael dybio byw i’r Gymraeg. Pan fo S4C yn darlledu o’r Cynulliad mae nhw’n gwneud hynny o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Fel rhywun sydd heb areal deledu (am resymau daearyddol nid o ran dewis) ac yn cael fy holl newyddion a darpariaeth gan y BBC dros y wê, dwi wedi gorfod bodloni ar naratif Gymraeg is ei ddarpariaeth nag yn y Saesneg. Mae blog Vaughan Roderick yn wych o beth, ond does dim cymharu y ddarpariaeth ar-lein Saesneg BBC Cymru YMA, yn glipiau sain a ffilm, yn fapiau, polau piniwn a swingometers rhyngweithiol i gymharu a’r ddarpariaeth ar-lein Gymraeg YMA, dim elfennau sain, ffilm na rhyngweithiol.

Tybed at bwy y dylid cyfeirio cwyn ynglŷn a’r gwahaniaeth darpariaeth yma rhwng y ddwy iaith?

Please follow and like us: