Amdana i

Rhys ydw i, wedi fy ngeni ym Mangor ond fy magu yn Aberystwyth. Astudiais Wleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth ac yna gwneud PhD mewn Diwinyddiaeth ym Mangor cyn mynd yn Weinidog gydag Undeb Bedyddwyr Cymru. Ers 2010 rwy’n Weinidog ar Gaersalem Caernarfon, Calfaria Penygroes ac Ebeneser Llanllyfni. Rwyf hefyd yn Arolygydd dros Gymanfa Bedyddwyr Arfon sef casgliad o holl eglwysi’r Bedyddwyr sydd dros yr hen Sir Gaernarfon – o Landudno i Enlli!

Yn ogystal â fy ngwaith fel Gweinidog rwyf hefyd yn gweithio fel dylunydd graffeg, yn cael fy secondio am ddiwrnod yr wythnos i weithio i Gyhoeddiadau’r Gair ond hefyd yn gwneud gwaith llawrydd i amrywiol bobl yn achlysurol.

Rwy’n ŵr a thad.

Yn Gymro Cymraeg ac yn Gristion.

Rwyf wedi cyhoeddi un llyfr – Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones (2019)

Mae gen i ddiddordeb helpu pobl ail-edrych ar Iesu ac ail-ddychmygu beth yw rôl a phwrpas yr eglwys mewn Cymru ôl-Gristnogol a dyna’n bennaf rwyf yn sgwennu amdano.