Dwi wedi fy nghymell, ar ôl taith hir i lawr o Fangor i Gaerdydd ar y trên, i ddweud gair am ddiffyg buddsoddiad mewn technoleg trenau yng Nghymru. Mae’r diffyg buddsoddiad yn y dechnoleg diweddaraf yn arbennig o amlwg i bobl sy’n teithio ar y trên o Fangor gan fod trenau modern Virgin i Lundain ynghyd a hen ddinosoriaid Arriva i Gaerdydd yn pasio trwyddo. Du a Gwyn. Poeth ag Oer. Gorllewin a Dwyrain. Dale Winton a Robin McBryde. Mae’r gwahaniaeth yn eithafol.

Ond beth am y gwasanaeth newydd “express” rhwng Caergybi a Chaerdydd medde chi? Wel, ches i’r fraint o deithio ar hon wythnos diwethaf; roeddwn ni’n disgwyl yn eiddgar ar y platfform ym Mangor ac yn disgwyl i drên newydd, nid annhebyg i rai Voyager neu Pendolino Virgin gyrraedd ond yr hyn a drodd fyny oedd hen locomotif disel yn llusgo hen wagenni. Wedi ychydig bach o gwglo darganfyddais mae hen stoc Mark 2 wedi cael cot newydd o baent oedden nhw. Cerbydau Mark 2 oedd Virgin a’r holl hen wasanaethau InterCity yn ei ddefnyddio cyn iddyn nhw fuddsoddi mewn Voyagers a Pendolinos ar ôl eu preifateiddio. Fe ddaeth y Mark 2 i mewn i weithrediad yn gyntaf yn ôl yn 1972. Felly mae gwasanaeth “newydd” ac “express” cenedlaethol Cymru yn hen stoc o’r 1970au wedi cael cot newydd o baent!

Meddai Ieuan Wyn Jones am y gwasanaeth trên newydd yma: “Mae’r gwasanaeth dwyffordd hwn yn cyflawni ymrwymiad Cymru’n Un i gyflymu’r daith rhwng gogledd a de Cymru ac annog teithio cynaliadwy.” O beth dwi’n deall dim ond 13 munud yn fyrach yw’r siwrne! Roeddem ni’n disgwyl gwellhad tipyn mwy sylweddol na hynny pan wnaed yr addewid gan y llywodraeth.

Dyma beth yw diffyg buddsoddiad sylweddol mewn technoleg ar reilffyrdd Cymru. Dewch ymlaen Arriva a Llywodraeth Cymru!

Please follow and like us: