Yn fuan mi fydda i yn cychwyn gweithio ar iMac ond mi fydda i’n parhau i weithio ar fy Mhower Book hefyd yn enwedig pan fydda i yn teithio nol i Aberystwyth a thu hwnt ar benwythnosau. Mi fydda i felly angen rhyw 10Gb cyffredin ar yr iMac ac ar y PowerBook i gadw fy ngwaith ymchwil a fy ngwaith dylunio diweddaraf rhagofn fod rhywbeth yn codi sydd angen gweithio arno cyn y ca i gyfle i ddychwelyd at fy nesg ac at yr iMac.

Un opsiwn ydy tanysgrifio i becyn Apple Mobile Me, mae’r pecyn yn gwneud yr union beth oedd mewn golwg gyda mi ac ar ben hynny mi fyddai’n dod yn ddefnyddiol i syncio yr iMac, fy Mhower Book a fy iPhone – byddai’n cadw’r contacts a’r dyddiadur yn synced rhwng y tri heb son am wneud ffeiliau yn gyffredin. Ond anfantais hyn ydy’r pris, mae’r gwasanaeth yn costio £59 y flwyddyn sy’n lot i feddwl na fuasw ni’n gwneud defnydd o’r gwasanaeth ebost .mac sy’n rhan o’r pecyn.

Dwi wedi edrych ar Google Docs, mae potensial yma, yn sicr i ddefnyddio i gadw ffeiliau fy ymchwil dros gefn ac i’w copio o un cyfrifiadur i’r llall. Ond dim ond ffeiliau prosesu geiriau, taenddalen a power point maen nhw’n cefnogi. Ni fuase’r gwasanaeth yn dda i ddim felly o safbwynt gweithio fel “cwmwl” i fy ffeiliau graffeg oherwydd nad oes modd lwytho ffeiliau Photoshop nac InDesign fynny ar Google Docs. Mae’r gwasanaeth yma yn un am ddim, ond ddim yn cynnig gymaint a Mobile Me.

Dwi’n amau mae troi at Mobile Me Apple fydd rhaid i mi wneud er gwaethaf y pris – ond o adnabod gwasanaethau Apple erbyn hyn dwi’n siwr gai werth fy arian.

Oes rhywun yn gwybod am wasanaeth amgen i Mobile Me fedra i roi cynnig arni?

Please follow and like us: