Tawel a fu ac a fydd y blog yn anffodus. Newydd ddychwelyd o’r de ar ôl treulio cyfnod yn ardal Caerfyrddin a ‘steddfod yr Urdd – llawenydd mawr oedd clywed fod Menna wedi dod yn drydydd yn y Goron! Dwi ffwrdd i Fangor am rai rai diwrnodau fory felly yn ceisio troi rhai pethau rownd gan mod i ond adre am noson felly dim amser i flogio’n iawn dim ond nodi mod i’n falch fod Barry Morgan wedi siarad allan ar ran yr Eglwys yng Nghymru ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn draddodiadol yr anghydffurfwyr sydd wedi bod yn flaenllaw yn wleidyddol ond lle oedden nhw heddiw yn cefnogi Barry Morgan? Pryd y cawsom ni ddatganiadau herfeiddiol am wleidyddiaeth a moesau ein cenedl gan ein eglwysi anghydffurfiol? Dowch laen ben bandits yr enwadau anghydffurfiol, Geraint Tudur (Annibynwyr), Ifan Roberts (Hen Gorff) a Peter Thomas (Bedyddwyr) – peidiwch a gadael i’r Eglwyswyr yma ddwyn eich mantell radical chi.

Please follow and like us: