Un o’r pethau dwi’n hoffi am lythyrau’r Apostol Paul yw ei fod yn dangos i ni mai dyn ydoedd fel pawb arall. Mae hyn yn amlygu ei hun mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae Paul yn gwneud defnydd cyson o hiwmor eironig yn ei lythyrau sy’n dangos ei fod yn dipyn o dynnwr coes.
Cymerwch er enghraifft ddiwedd y llythyr at y Philipiaid 4:21-23
Cyfarchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae’r cyfeillion sydd gyda mi yn eich cyfarch chwi. Y mae’r saint i gyd, ac yn arbennig y rhai sydd yng ngwasanaeth Cesar, yn eich cyfarch. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd!
Yn draddodiadol credir fod y cyfeiriad at y cyfarchiad sy’n dod at y Philipiaid o gyfeiriad gwarchodlu Cesar yn gyfarchiad gan y milwyr sydd wedi dod i gredu. Ond mae rhai esbonwyr yn credu mae tinc o hiwmor eironig sydd yma gan Paul. Yn union fel pe tasech yn mynd ar eich gwyliau i Rufain ac yn anfon cerdyn post adref gan nodi’n ysgafn fod y “Pab yn cofio atoch”!
Un peth oedd gan Paul a Timotheus yn gyffredin oedd eu bod nhw’n ddynion oedd yn sâl yn aml. Oherwydd yr erlid corfforol fuodd arnyn nhw does dim syndod eu bod nhw’n wan yn gorfforol ond beth sydd o ddiddordeb i mi sydd a stumog wan fy hun oedd fod y ddau fe ymddengys yn dioddef o broblemau gastrig yn aml ar eu teithiau.
Dyma mae Paul yn dweud wrth y Galatiaid 4:13-14
Fel y gwyddoch, ar achlysur gwendid corfforol y pregethais yr Efengyl i chwi y tro cyntaf; 14ac er i gyflwr fy nghorff fod yn demtasiwn i chwi, ni fuoch na dibris na dirmygus ohonof, ond fy nerbyn a wnaethoch fel angel Duw, fel Crist Iesu ei hun.
Nid ydym ni’n gwybod pa fath o salwch oedd Paul yn ei ddioddef ar y pryd. Mwy na thebyg salwch corfforol ar ôl rhyw bennod o erlid. Ond mae’n amlwg yn ei air at Timotheus mae trafod salwch gastrig o ryw fath mae’n nhw ar yr achlysur gwahanol hwn (1 Timotheus 5:23):
Bellach, paid ag yfed dŵr yn unig, ond cymer ychydig o win at dy stumog a’th aml anhwylderau.
Mae’n amlwg fod y symlrwydd bywyd roedd Timotheus wedi ei orfodi i fyw oherwydd fod pobl wedi methu ei gynnal yn y gwaith wedi ei arwain i fod yn malnourished ac i gael problemau iechyd gyda’i stumog.
Roedd gan yr apostolion anhwylderau stumog. Dynol iawn.
Yn olaf, dwi’n hoff iawn o’r modd mae Paul yn gorffen y llythyr at y Galatiaid. Mae’n amlwg mae llefaru’r llythyrau ydoedd a chael pobl eraill i’w cofnodi ar ei ran. Ond ar ddiwedd y llythyr at y Galatiaid mae’n mynnu cael sgwennu diwedd y llythyr ei hun. Dyma mae Galatiaid 6:11 yn dweud:
Gwelwch mor fras yw’r llythrennau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch â’m llaw fy hun.
Mae’n debygol iawn fod Paul a ysgrifen blêr a “mawr” oherwydd ei anabledd corfforol ar ôl cael ei erlid yn gorfforol, ei guro ayyb… Ond beth bynnag oedd yr amgylchiadau dwi’n hoff iawn o’r ffaith syml fod gan yr Apostol Paul, yn ôl ei gyffes ei hun, ysgrifen mawr a blêr ac ei fod yn dweud hynny’n glir! Cyffyrddiad hyfryd o bersonol arall.
Fel un ac aml i anhwylder stumog ac ysgrifen mawr a blêr fy hun dwi’n hoff iawn o’r Apostol Paul.