Roedd yn ddifyr clywed Bethan Jenkins AM yn dweud: “The issue of having a referendum for more powers to me is a social justice issue. I do not want more powers for the sake of it, but so that the National Assembly has the strength to be able to work effectively as an institution”, ar y blog Poltics Cymru wythnos yma.

Mae Bethan yn codi cwestiwn pwysig iawn sef pam ein bod ni genedlaetholwyr eisiau mwy o rym i’r Cynulliad ac yn y diwedd eisiau rhyddid ac annibyniaeth? Mae’r hyn mae Bethan yn dweud yn gywir wrth gwrs; mi fyddai mwy o bwerau dros Gymru yn gorwedd yng Nghymru yn galluogi’r Cymry i wneud gwahaniaeth i faterion o gyfiawnder cymdeithasol yn ein gwlad. Fodd bynnag dwi’n amheus o genedlaetholdeb sy’n un sefyllfaol yn unig; mae cenedlaetholdeb a rhyddiad cenedlaethol i mi yn egwyddor foesol sy’n sefyll yn annibynnol o sefyllfa socio-economaidd y cyfnod. Mae pobl fel Leanne Wood wedi dweud yn gwbl glir ei bod hi’n genedlaetholwraig ac yn aelod o Blaid Cymru oherwydd ei bod hi’n gweld datganoli (ac annibyniaeth yn y diwedd) fel y ffordd orau a chyflyma o ddod a trefn sosialaidd i Gymru. Ydw i felly i ddeall y byddai hi’n peidio credu mewn datganoli ac yn gadael Plaid Cymru pe tae hi’n dod yn glir, mewn theori, y byddai Cymru rydd ddim yn sosialaidd tra ar y llaw arall fod gwleidyddiaeth Llundain, mewn theori, yn mynd i lawr trywydd sosialaidd?

Mi ydw i’n credu fod rhyddid i Gymru yn egwyddor foesol ac er mod i’n cytuno gyda Bethan a Leanne y byddai’r Gymru rydd yn un fwy sosialaidd na’r Gymru bresennol mi fuaswn ni’n dal i gredu mewn rhyddid cenedlaethol hyd yn oed os byddai’n gwaethygu sefyllfa socio-economaidd Cymru yn y tymor byr. Mae rhyddid i genedl yn hawl foesol ac yn egwyddor foesol sydd uwchlaw ‘social justice issues’ ac felly er mod i’n deisyfu Cymru fwy sosialaidd dwi’n credu mewn annibyniaeth i Gymru ddim cweit yng ngeiriau Bethan “for the sake of it” ond dwi yn credu mewn rhyddid i Gymru yn ddi-amod beth bynnag fyddai canlyniadau socio-economaidd hynny. Oherwydd ein canlyniadau socio-economaidd NI fyddai nhw wedyn i sortio allan; sosialaidd a’i peidio.

Yng ngeiriau’r Athro Roger Scully wrth drafod ystadegau fod y Cymry ddim wedi pleisio gyda’r Cynulliad ond fod cefnogaeth iddo’n cynyddu: “The only explanation is this theory: It’s sh*t, but at least it’s our sh*t.”

Please follow and like us: