Dros y flwyddyn diwethaf rydym ni wedi gweld gwleidyddion fel Gordon Brown a David Cameron yn mwynhau iwfforia mis-mêl gwleidyddol un diwrnod, a’r diwrnod nesaf yn plymio i waelodion y polau piniwn wedi i rhyw sgandal dorri ar y newyddion. Ond nid oes yr un gwleidydd dros y flwyddyn diwethaf wedi gweld y ffasiwn newid agwedd o fewn amser mor fyr ag y wynebodd yr Arglwydd Iesu wythnos y Pasg. Gychwyn yr wythnos gorymdeithiodd yn fuddugoliaethus i fewn i Jerwsalem gyda’r torfeydd yn gweiddi: ‘Hosanna! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd, yn Frenin Israel!’ (Ioan 12:13) ac erbyn diwedd yr wythnos roeddent yn bloeddio â chynddaredd ‘Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef’ (Ioan 19:15). Ond dim ond yn arwynebol y gellid mewn gwirionedd cymharu cwymp Iesu o boblogrwydd cyhoeddus â chwymp gwleidyddion heddiw. Fel yr esboniodd Iesu ei hun wrth gael ei groesholi gan Peilat: ‘Nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn’ meddai Iesu, gan ychwanegu; ‘Pe bai fy nheyrnas i o’r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i’r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas’ (Ioan 18:36). A hithau felly yn dymor y Pasg mae’n briodol i ni oedi ac ystyried pam? Dywedodd Iesu ei hun mae ‘er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd’ (Ioan 18:37).
Fe gyfeiriodd Iesu at yr hyn, ‘er mwyn hyn’ dywedodd, ond beth yn union ydy’r hyn? Yr ateb cyntaf a ddaw i’r meddwl ac yn arbennig felly gan gofio i Iesu ymadrodd y frawddeg wrth gael ei groesholi gan Peilat oedd fod yr hyn yn golygu y Croeshoeliad. Ond tybed a ydy ein Cristnogaeth ni wedi rhoi gormod o bwyslais ar y digwyddiad o groeshoelio Iesu ar draul agweddau eraill o’i fywyd a’i dystiolaeth? O ddarllen ymlaen yn Ioan 18 daw’n amlwg nad siarad yn benodol am y croesholiad y mae Iesu ond yn hytrach cyfeirio at y gwirionedd. Roedd y gwirionedd, wrth gwrs, yn cynnwys y rheidrwydd i Iesu farw ar y groes er mwyn selio ein rhyddid a’n gwisg ni i ddod gerbron Duw. Ond eto mae’r gwirionedd yn gymaint mwy na hynny. Yn ddiweddar rwyf wedi dod i sylwi nad ydym ni’n gwneud cyfiawnder â dysgeidiaeth Iesu wrth edrych arno fel antidôt i broblem pechod a gwarant am docyn i’r nefoedd yn unig. Yn wir, mae siarad am Iesu yn y cyswllt hwnnw yn unig yn anhygoel o ddirmygus ac israddol o’n Harglwydd mawr. Nid fy mwriad yw darostwng ei rôl fel ein Mechnïydd a’n Iawn (o ddefnyddio’r hen dermau systematig), ddim o gwbl, dim ond tynnu sylw ei fod yn gymaint mwy na hynny.
Daeth Iesu i’r byd i’n gwaredu mewn tri ffordd: daeth i’n (i.) barnu drwy enwi drygioni fel drygioni, daeth i’n (ii.) maddau drwy dorri cylch dieflig drygioni a gwneud cymod yn bosib ac fe ddaeth i’n (iii.) dysgu drwy dangos sut mae cychwyn adferiad a bywyd newydd. Yn ei lyfr A Generous Orthodoxy (Zondervan, 2004) fe ddywed Brian McLaren: ‘Sometimes God saves by judging. To speak of judgement as a form of salvation surprises people who have religious baggage and don’t actually read the Bible… But in the biblical context, judgment is generally a good thing. It means the coming of truth and justice into our deceived and oppressed world.’ Yr hyn sy’n drawiadol am farn Duw yw ei fod bob tro yn dod law yn llaw a maddeuant, a dyma lle mae goleuni a dysgeidiaeth Iesu, y gwirionedd hwnnw, yn torri trwyddo, hyd yn oed yn yr hen destament. O ddyfynnu McLaren eto: ‘Salvation is what happens when we experience both judgment and forgiveness, both justice (exposing the truth about our wrong) and mercy (forgoing the negative consequences we deserve). Without both we don’t end up with true salvation… Forgiveness without conviction is not forgiveness: it is irresponsible toleration. It doesn’t lead to reconciliation and peace; it leads to chaos.’
Yn ddiweddar, wrth gyd-redeg y Cwrs Alffa ym Mangor gyda rhai o’m cyfeillion daeth un peth yn glir yn y ddeialog gyda’r mynychwyr oedd yn chwilio ond heb eto ddod i adnabod Duw. Daeth i’r amlwg nad oedd y syniad o Iesu fel antidôt i bechod yn atyniadol ac nad oedd yn golygu dim byd i gymdeithas heddiw oherwydd fod y gymdeithas heddiw ddim yn gweld fod yna ddim o’i le i’r antidôt fynd i’r afael ag ef! Wrth gwrs yr ateb systematig i’r ddeilema yma byddai pwyntio allan nad oedd y mynychwyr wedi cael eu hargyhoeddi o’i pechod eto ac mae dyna fyddai’r cam cyntaf i werthfawrogi pam y bu Iesu farw. Er fod hynny wrth gwrs yn ysgrythurol gywir, mewn realiti nid yw hi’n ymarferol hel mynychwyr y cwrs Alffa adref a dweud wrthyn nhw ddychwelyd wedi iddyn nhw gael eu hargyhoeddi o’i pechod! Perodd y ddeilema hon i mi edrych yn ddyfnach i mewn i’r rheswm pam y bu Iesu farw ac fe wawriodd arna i y bod y groes a gwirionedd Iesu yn gymaint mwy nag antiodôt i bechod yn unig.
Yn llythyr Paul at y Philipiaid daw’n eglur fod croes a gwirionedd Crist wedi ein harfogi i wynebu problemau a helbulon y byd hwn yn ogystal a’n paratoi ar gyfer y daith olaf. Dyma rai enghreifftiau: does dim gwadu fod unigrwydd yn broblem enfawr yn ein cymdeithas heddiw – mae’n broblem sy’n cael ei guddio drwy ddibyniaeth pobl ar gwmni y teledu a chyfryngau tebyg. Yn adnodau agoriadol yr epistol at y Philipiad (1:1-11) mae hyder a gobaith Paul yn rhyfeddol a hynny yn wyneb yr unigrwydd difrifol yr oedd yn ei wynebu mewn cell. Ymhellach yn y bennod gyntaf mae Paul yn dangos sut mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb dioddefaint (1:12-18) a hyd yn oed marwolaeth (1:19-30). Ymlaen yn y drydedd bennod gwelwn groes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth yn wyneb tensiynau a chynnen (3:1-11) a’r blinder (3:12-4:1) sy’n ein goddiweddid ni gyd o bryd i’w gilydd. Maen debyg mae’r cyflwr meddyliol sy’n llorio’r mwyaf o bobl heddiw yw pryder (anxiety) ac yn achos llawer o bobl mae’r cyflwr mor ddifrifol fel fod angen cymryd cyngor doctor a da o beth fod y cyngor hwnnw ar gael. Ond fe all y Meddyg Da yn ogystal a’r GP ein cynnal a’n cynorthwyo pan yn wynebu pryder difrifol, oherwydd fel y dywed Paul: ‘Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe’i dywedaf eto, llawenhewch. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae’r Arglwydd yn agos. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch’ (3:4-6). Yn olaf mae croes a gwirionedd Iesu yn gynhaliaeth i ni yn wyneb tlodi (4:10-23).
Wrth gofio am y gwaith rhyfeddol a wnaeth Iesu i ni ar y groes y Pasg yma, da o beth fyddai cofio fod Iesu yn lawer mwy nag antidôt i bechod yn unig ac ei fod wedi trechu unigrwydd, dioddefaint, marwolaeth, cynnen, blinder, pryder a thlodi. Dyma yw’r efengyl – newyddion da – a prysurwn i rannu’r newydd gyda’n cyd-Gymru y gwanwyn hwn – mae’r Cymry’n sychedu am wir gariad, rhyddid a chyfiawnder.