John Roberts (1575/1576 - 1610)

Ers i mi gychwyn fy ngwaith fel Bugail dan hyfforddiant mi fydda i’n arfer codi gyda’r wawr ar fore Sul fel mod i’n gwbl effro erbyn y gwasanaeth am ddeg. O ganlyniad mi fydda i fel arfer yn bwyta fy mrecwast ar fore Sul tra’n gwrando ar Bwrw Golwg, rhaglen newyddion/trafod crefyddol Radio Cymru gyda John Roberts yn cyflwyno a hynny yn blygeiniol am 8y.b. Fore dydd Sul diwethaf roedd yna raglen arbennig yn trafod Y Sant John Roberts o Drawsfynydd, neu y ‘Merthyr Catholig’ fel y’i adnabyddir. Gan fod un o fy nghyn deidiau i yn Ferthyr Protestannaidd roedd gen i ddiddordeb arbennig.

Er fod y rhaglen yn reit ddifyr roedd sawl peth yn y rhaglen wnaeth fy nghynhyrfu i yr ymneilltuwr bach ag yr ydwyf! Roedd llawer iawn o’r cyfranwyr, wrth drafod John Roberts, yn ensynio syniadau cwbwl gores i Gristnogaeth Feiblaidd. Yn gyntaf y cysyniad yma am Sant a Saint. Mae dysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig am Seintiau yn gwbl gyfeiliornus. Yn y Beibl ystyr Sant yn syml iawn yw rhywun sydd wedi rhoi ei ffydd yn Iesu ac felly rydw i a fy nghyd aelodau yn ein Eglwys ni yn Seintiau. Nid teitl sy’n perthyn i lond dwrn o bobl freintiedig o fewn Eglwys Rufain yn unig ydyw. Roedd yna fanion eraill megis y sôn yma o offrymu defosiwn i’r Sant John Roberts yn fy ngwylltio hefyd. Dyn, fel chi a fi oedd John Roberts, i Dduw yn unig y dylid offrymu defosiwn. Pam gweddïo at a thrwy John Roberts pan mae’r Beibl yn dysgu fod Iesu Grist ei hun yn eiriol ar ein rhan?

Roeddwn i’n dechrau diflasu ac rhag fy ngwylltio ymhellach roeddwn i ar fin rhoi y radio i ffwrdd ond trwy ragluniaeth fe wahoddwyd Guto Prys ap Gwynfor i ddod ac ychydig o falans i’r rhaglen. Mynegodd Guto yr union bwyntiau yr oeddwn i’n mynegi dan fy anadl tra’n bwyta fy mrecwast. Yn gyntaf y ffaith fod y John Roberts yma yn perthyn i’r Genhadaeth Seisnig o fewn yr Eglwys Gatholig ac er iddo ddod o Drawsfynydd ni wnaeth unrhyw gyfraniad i Gymru fel gwlad ac felly fod hi’n anodd deall pam yr holl ffys? Ex-pat oedd John Roberts a gafodd ei anghofio yng Nghymru tan yn lled ddiweddar nid oherwydd ein bod ni Brotestaniaid wedi ei ysgrifennu allan o’r llyfrau hanes ond oherwydd fod ei gyfraniad i Gymru mor fychan fel nad oedd yn haeddu sylw yn y lle cyntaf. Ochr yn ochr a rhywun fel, dyweder, John Penry, bychan iawn oedd pwysigrwydd John Roberts i Gymru.

Yn olaf, gwnaeth Guto bwynt craff fod Catholigiaeth ac Uchel-Eglwysyddiaeth wedi cael llawer o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y cyfryngau gan gynnwys y cyfryngau Cymraeg. Ac er fod hi’n deg fod pob traddodiad yn cael eu hawr o sylw roedd Guto yn mynegi ei ofid fod y traddodiad penodol hwnnw yn cael mwy o sylw nag y mae ei ddylanwad mewn realiti yn ei haeddu. Aeth Guto ymlaen i esbonio pam y tybia fod gan y cyfryngau mwy o ddiddordeb gwneud rhaglenni am Gatholigion ac Uchel-Eglwyswyr hefyd sef oherwydd fod gan y traddodiad hwnnw fwy o bomp a seremoni.

Wedi’r cyfan, rhaid i’r Ysbryd Glan agor llygaid, meddwl a chalonnau pobl i weld trysor ein ffydd ni fel ymneilltuwyr ac er fod y trysor yn rhagorach, anodd iawn yw dangos yr anweledig ar S4C gan na all Clirlun hyd yn oed ddarlledu’r pedwerydd dimensiwn, dimensiwn ffydd.

Anweledig! ‘r wy’n dy garu,
Rhyfedd ydyw nerth dy ras:
Tynnu f’enaid i mor hyfyd
O’i bleserau penna’i maes;
Gwnaethost fwy mewn un munudyn
Nag a wnaethai’r byd o’r bron –
Ennill it eisteddfa dawel
Yn y galon garreg hon.

Please follow and like us: