Ar wib yn Rhufain – II

Ar ein diwrnod llawn cyntaf yn Rhufain dyma ni’n dal bws yr hostel i ganol y ddinas. Yng nghefn y bws roedd yna griw o Americanwyr swnllyd – “I come from Utuah and he comes from Vermont” ayyb… a dyma fi’n dweud wrth Menna ei bod hi’n ddadlennol/diddorol ein bod ni wedi clywed am eu trefi/dinasoedd nhw ond na fusen nhw wedi clywed am Aberystwyth neu Gaerfyrddin. Ac yna daeth y frawddeg syfrdanol yma “We’r over at Uni in Swansea, Wales”! Yn eironig ddigon, nid yn unig yr oedden nhw yn gwybod am Gymru ond roedden nhw’n byw yng Nghymru. Rhywsut dyma ni’n dechrau trafod gwleidyddiaeth Cymru gyda nhw, roedden nhw yn ymwybodol fod etholiad ar droed yng Nghymru ond dim ond un plaid oedden nhw wedi clywed amdani ac wedi derbyn taflen sef neb llai na Phlaid Cymru – rhyfeddol! Aethant ymlaen i sôn eu bod nhw wedi astudio modiwl ‘Hanes Diweddar Cymru’ ac roedden nhw’n reit wybodus (ac ystyried eu bod nhw o’r UDA ac fod y sgwrs yma yn cymryd lle yn yr Eidal) ynglŷn a Gwynfor Evans a buddugoliaeth ’66 ac hefyd am frwydr yr iaith Gymraeg. Roedden nhw’n gydymdeimladol iawn tuag at achos y Gymraeg ac at genedlaetholdeb Gymreig – maen amlwg fod y darlithydd, pwy bynnag ydoedd, wedi cael cryn ddylanwad arnynt. Mae hyn yn dangos yn glir y fath rym sydd gan addysg ac yn arbennig dysgu hanes ar feddwl pobl. Cyn ffarwelio a nhw dyma dynnu llun a chyfnewid rhifau ‘cell phone’.

Ymweld ar hen ddinas oedd y bwriad y diwrnod hwn felly lle gwell i ddechrau ond y Colesiwm, yr adeilad enwocaf i oroesi o gyfnod yr ymerodraeth Rufeinig. Enw gwreiddiol y Colesiwm oedd yr ‘Amphitheatrum Flavium’. Yn ei ddydd roedd yn medru dal hyd at 50,000 o bobl ac fe’i defnyddid ar gyfer brwydrau y Gladiators ac adloniant anwaraidd tebyg. Peidiwyd a defnyddio y Colesiwm i ddibenion ymladd (pobl nac anifeiliaid) wedi’r 6ed ganrif wedi i’r Ymeradwr ac awdurdodau’r Eglwys benderfynu ei fod yn arfer barbaraidd ac anwaraidd na fyn y Rhufeinwyr goleuedig ei gymeradwyo. Dros y canrifoedd yn dilyn fe ddefnyddiwyd yr adeilad i ddibenion gwahanol ac fe ddygwyd y cerrig gwerthfawr, megis y lloriau marmor, gan yr Ymerawdwyr a’i swyddogion ar gyfer eu palasau. Yn 1749 dynodwyd yr adeilad yn fangre sanctaidd er coffhâd i’r Cristnogion a ferthyrwyd oherwydd eu ffydd yn y gemau yna. Roedd hi’n gwbl ryfeddol fod y fath adeilad, un a oedd cymaint o faint a Stadiwm y Mileniwm, wedi ei godi dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl ac fod ei brif furiau yn sefyll hyd heddiw.

Yn y prynhawn aethom ar daith gerdded o amgylch hen Balas yr Ymerawdwyr ac hefyd ymweld ac olion yr Hen Ddinas. Unwaith yn rhagor roedd hi’n anodd credu fod y fath waith adeiladu enfawr wedi medru digwydd mewn oes cyn Crist heb dechnoleg modern heddiw. Ymlaen a ni wedyn i godi tocynnau go hynod o’r Fatican (mwy o hanes hyn yn y postiad nesaf) ac yna mwynhau ein Pitzza cyntaf!

Please follow and like us:

1 thought on “Ar wib yn Rhufain – II

  1. Linda

    Yn falch o weld eich bod yn mwynhau eich hunain yn Rhufain.Gwell fod yno rwan yn hytrach nag yng ngwrês llethol mis Awst fel oeddem ni!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.