Wedi i ni fwcio’r gwyliau fis yn ôl cynhyrfodd Adrian yn lan gyda’r syniad o fynd i’r Fatican. Er mai Anglican Protestannaidd ydyw mae pawb sydd yn ei adnabod yn gwybod yn iawn ei fod e’n reit hoff o’r diwylliant seremoniol sydd ynghlwm gydag Uchel-Eglwysiaeth ac maen cyfaddef ei hun ei fod yn Anglo-Gatholig parthed ffafriaeth am drefn gwasanaeth. Yn y bôn, mae Adrian y teip (ac mi fydde fe’n cyfaddef hyn ei hun) sy’n dotio gyda gweld crandrwydd a pa well grandrwydd trwy’r byd na chrandrwydd y Fatican. Wrth gwrs i’n cyfaill o Anglican toedd ymweld a’r Fatican fel twristiaid arferol ddim yn ddigon ac felly dyma fe’n ffonio Palas Lambeth a holi cyfaill iddo fan yna a oedd ganddo gyswllt yn y Fatican – oedd – a dyma Adrian yn cael rhif ffôn personol un o Gardinaliaid y Fatican. James Harvey oedd ei enw a fe sydd yn y swydd yr oedd y Pab yn dal cyn iddo ddod yn Bab fel rwy’n deall! Esboniodd Prefect Harvey na allai addo Private Audience gyda’r Pab ond fe allasai addo tocynnau i ni i General Audience gyda’r Pab.

Aethom ni i gasglu’r tocynnau y noson cynt ac wrth gyrraedd y bore wedyn gwawriodd arnom nad oeddem ni wedi cael cymaint a hynny o special treatment oherwydd roedd oddeutu 10,000 o bobl eraill, pererindotwyr, yn chwifio eu gwahoddiadau o amgylch y lle. Ond yna sylweddolais fod ein gwahoddiad ni liw gwahanol i un pawb arall a dyma ni’n cael ein brysio ymlaen i’r segment flaen yn y dorf i fyny ar yr un lefel a’r Pab. Eistedd yn y cefn (wel cefn y rhan lle oeddem ni) yn hapus fy myd gwnes i ond fe aeth Adrian reit i’r blaen ac fe gafodd ei gofleidio gan y Pab.

Roedd gweld y sioe yn dipyn o brofiad ac rwy’n falch mod i wedi mynychu. Ond roedd y cyfan ychydig yn anghyfforddus i mi fel Cristion. Roedd y pedastl yr oedd y Pab yn cael ei osod yn anghywir, nid yw’n Gristion mwy na gwell na fwy cyfiawn nac unrhyw Gristion arall ac mae unrhyw sôn ei fod anffaeledig yn sylfaenol Anghristnogol. Crist ydy’r unig gyfryngwr a’r unig un an-ffaeledig a fu ac sydd ond roedd llawer o’r dorf yn trin y Pab fel y cyfryngwr.

Please follow and like us: