Arestio AC ac ASE Plaid Cymru

Dewch nol gyda mi i Drawsfynydd, fis Medi 1951. Roedd Plaid Cymru yn cynnal protest yn erbyn safle hyfforddi milwrol ym Meirionydd a dyma’r Prif-Gwnstabl y Cyrnol Jones-Williams – a oedd yn Annibynnwr selog yn Salem, Caernarfon – yn dod a’i blismyn i hel y “penboethiaid” hyn o’r ffordd ac yn dod at y cyntaf ac yn ebychu mewn syndod: “Dr Tudur Jones!” yna cam ymlaen: “Yr Athro Pennar Davies!” ac felly aeth heibio i gryn hanner dwsin o arwyr ei bulpud.

Rwyf wedi dod i gredu ers rhai blynyddoedd bellach mae gwladwriaeth sydd wedi fforeddu ei hawliau gerbron Duw ydy’r Wladwriaeth Brydeinig. Rwy’n aelod o Blaid Wleidyddol sydd a’i hamcan tymor hir o dorri i ffwrdd o Sataneiddiwch y wladwriaeth Brydeinig i ffurfio gwladwriaeth sy’n deg a chyfiawn yng ngolwg Duw. Rwyf hefyd yn gwbl dawel fy meddwl fod rhaid bod yn anufudd i’r wladwriaeth Brydeinig os am fod yn ufudd i Dduw a’i deyrnas. Braint a dyletswydd felly yw i’r Cristion leisio barn a gweithredu yn erbyn rhywbeth sydd o’r un drwg – ac nid oes gwadu fod rheibio o dy y gwladwriaethau imperialaidd, gyda Phrydain yna gyda’r gwaethaf, yn ganlyniad uniongyrchol y cwymp. Yn enw’r Iesu atgyfodedig felly yr anturiaf innau yn unol a’r traddodiad Cymreig Cristnogol (sy’n rhedeg o Forgan Llwyd i Hiraethog i Michael D. i Emrys ap Iwan i Lewis Valentine i R. Tudur Jones i Gwynfor) i danseilio y drefn anghyfiawn bechadurus. Nid theocratiaeth mo hyn ond ceisio cyfiawnder, Cristnogaeth yw fy ysbardun i ond diolch i Ras Cyffredin gall Gristnogion uno gyda’r anghrediniwr pennaf ar faterion gwleidyddol.

Er nad yw, hyd y gwn i, Leane Wood a Jill Evans yn Gristnogion o argyhoeddiad diolch i ras cyffredin gallaf uniaethu a chefnogi eu safiad yn erbyn Trident pan gawsant eu harestio heddiw – y tro cyntaf i aelodau etholedig Plaid Cymru fod o flaen eu gwell ers degawdau lawer. Gan droi yn ôl at Drawsfynydd – tybiaf y gallaf ddatgan yn reit bendant y byddai Dr Tudur Jones a’r Athro Pennar Davies yn falch iawn fod y traddodiad heddychol a phrotestgar yn erbyn gwladwriaeth Babel yn parhau yn rhengoedd eu Plaid! Fodd bynnag, dichon na fyddai’r aelodau etholedig dan sylw yr un mor frwd dros faterion sy’n egsgliwsif i’r genedl Gymreig megis, wel, parhad ei hiaith, tegwch economaidd a’i ymrafael am annibyniaeth.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.