Persbectif personol yn unig sydd yma, wedi ei baratoi fel rhan o rywbeth mwy gwnes i ysgrifennu llynedd yn ystod fy nhymor sabothol. Roedd mwy yn mynd ymlaen ym mywyd yr eglwys nag sy’n cael ei drafod yma, ond dyma beth bynnag oedd fy mhersbectif personol i.
Daeth y pandemig a her newydd i’r eglwys. Dros nos bu’n rhaid i ni ymbalfalu gyda ffordd newydd o fod yn eglwys. Rai diwrnodau cyn y cyfnod clo rwy’n cofio mynd i gyfarfod cyhoeddus yn y Clwb Rygbi i drafod yr ymateb cymunedol i’r pandemig. Roedd yr ystafell yr orlawn a degau ar ddegau o bobl yn cynnig gwirfoddoli wrth ymweld a mynd a neges i bobl fyddai’n gaeth i’w cartref ac ati. Rwy’n cofio teimlo arweiniad cryf wrth adael y cyfarfod fod yr ymateb ‘cymdeithasol’ wedi ei ddiwallu gan gymdeithasau seciwlar y dref ac felly’r hyn y dylem ni fel eglwys ganolbwyntio arno oedd yr hyn sy’n unigryw i ni sef ymateb ysbrydol drwy ffeindio ffordd newydd o barhau i ddarparu addoliad a phregethu cyhoeddus o’r Gair beth bynnag a ddaw. Roedd rhyw eironi yn hyn gan fod fy mhererindod o’r eglwys efengylaidd i’r enwadau wedi dechrau oherwydd mod i’n credu (yn anheg efallai) fod efengylwyr yn esgeuluso yr alwad gymdeithasol!
Rhois fy holl egni ac ymdrech ar ddechrau’r pandemig i sefydlu presenoldeb a gweinidogaeth gyhoeddus ar-lein i Gaersalem. Rwy’n deall nad oedd y pwyslais, neu’r flaenoriaeth yma, yn dderbyniol i bawb ac roedd rhai yn credu y dylem fod wedi blaenoriaethu gofal bugeiliol a chynnal cymuned yr eglwys a pheidio poeni gymaint ar gynnal tystiolaeth gyhoeddus ar y Facebook ac YouTube. Efallai fod hynny’n wir, ond fe wnes i’r hyn a ddaeth yn naturiol i mi sef buddsoddi amser ac egni mewn i elfen o’r weinidogaeth lle’r oedd fy noniau a fy ngalwad yn gwyro tuag ato. Ond gan i’r penderfyniad yma gael ei feirniadu bu i mi dreulio cyfnod y pandemig yn cwestiynu fy hun ac fe syrthiais mewn i’r trap yma o geisio bod yn brysur yn gwneud pethau lle roeddwn yn cael fy ngweld yn gwneud pethau yn hytrach ‘na rhoi sylw haeddiannol i Menna, Cadog a Nedw.
Yn y cyfnod yma roeddwn yn rhannu mwy a mwy o bethau ar y cyfryngau cymdeithasol ac gan fod ansawdd peth (nid y cyfan!) o’r cynnwys yn dda (yn ôl safonau deunydd Cristnogol Cymraeg amaturaidd ar-lein!) roedd cynulleidfa Caersalem a fy nghynulleidfa bersonnol i wedi ehangu dros nos. Roeddwn yn cael negeseuon gan bobl ar draws Cymru yn dweud eu bod yn tiwnio i mewn i’n oedfa ar-lein bob wythnos a’u bod yn cael bendith. Pan wnaethom ni gynnal y Cwrs Alffa ar Zoom yn ystod y Pandemig roedd gennym bobl o Gaergybi yr holl ffordd lawr i Sir Benfro yn ei fynnychu. Roedd gweinidogaeth Caersalem wedi mynd yn genedlaethol!
Ond roedd ochr negyddol i hyn hefyd, wrth gael y llwyfan cenedlaethol newydd yma gyda mwy a mwy o amser pobl oedd yn gweithio o adref – gan fy nghynnwys i – yn cael eu treulio ar y cyfryngau cymdeithasol roedd lefel y sgrwteni a’r feirniadaeth yn codi hefyd. O fewn y byd Cristnogol Cymraeg mae’n deg i ddweud fy mod i yn gwthio’r ffiniau weithiau ac ar fwy nag un achlysur yn y cyfnod yma bu i ryw erthygl neu ffilm wnes i rannu ar Facebook arwain at storm o wrthwynebiad. Roedd peth ohono yn adborth teg yn deillio o sgwrs a thrafodaeth adeiladol ond roedd llawer ohono yn teimlo’n ddi-angen o bersonol ac yn teimlo fel ysbryd beirniadol. Neu o leiaf dyna sut roeddwn i’n ei dderbyn oherwydd fy stâd meddyliol ar y pryd.
Roeddwn yn gweithio’n galed yn creu deunydd dysgu ac addoli newydd bob wythnos i’w rhannu ar-lein, deunydd roeddwn yn credu (ac yn gwybod) fod pobl oedd yn draddodiadol gaeedig i Gristnogaeth yn rhoi clust iddynt. Ond wedyn yn y sylwadau dan yr erthygl roedd coelcerth o ffrae bob tro ymhlith Cristnogion. Roeddwn i yn siomedig fod deunydd roeddwn i’n paratoi i bobl tu allan yr eglwys i ystyried cwestiynau ffydd yn arwain i sylwadau lle roedd Cristnogion eraill yn teimlo fod angen iddynt gywiro fy syniadau a fy ffydd i. Ar y pryd roeddwn i’n flin fod cymaint o amser ac egni yn cael ei roi gan rai i feirniadu fy ngweinidogaeth i. Roeddwn i’n cymryd pob gair o feirniadaeth o fewn a thu allan yr eglwys leol fel ymosodiad ar fy ngalwad a fy nghymeriad. Wrth edrych yn ôl dyma’r cyfnod lle wnaeth fy mhroblemau iechyd meddwl gychwyn, er na welwn i ‘mo hynny ar y pryd, ac er fod rhai teulu a ffrindiau wedi ceisio fy rhybuddio. Wrth edrych yn ôl roeddwn yn gor-ymateb ac yn poeni’n ormodol beth roedd Cristnogion ac arweinwyr Cristnogol eraill yn meddwl ohonof. Roeddwn i wedi syrthio’n ysglyfaeth i algorhythyms y cyfryngau cymdeithasol ac yn colli perspectif yn rhy aml.
Roedd y cyfnod yn brysur o ran gwaith, er fy mod yn gaeth i’r tŷ. Roeddwn yn parhau i weithio ddiwrnod yr wythnos i Gyhoeddiadau’r Gair, yn bennaf yn cynnal eu gwefannau a chynhyrchu adnoddau ar-lein. Roeddwn yn treulio tua diwrnod yr wythnos yn gwneud gwaith Bugeiliol; roedd gen i restr o aelodau roeddwn yn cyfri yn fregus am wahanol resymau (pobl sâl, hŷn neu bobl oedd mewn swyddi lle’r oedd pwysau ychwanegol arnynt oherwydd y pandemig) ac roeddwn i’n trio eu ffonio am sgwrs bob wythnos. Gwelais hyn yn hynod feichus oherwydd mae’n gas gen i siarad gyda phobl ar y ffôn, mae llawer gwell gen i ddelio gyda negeseuon neu ebost lle nad yw siarad wyneb yn wyneb yn bosib, ond sgwrs ffôn roedd y bobl yma ei angen. Roeddem ni’n parhau i gynnal ein Grwpiau Cymuned (seiadau) ond bellach dros zoom, a maes o law dechreuom ni redeg y Cwrs Alffa ar zoom hefyd.
Ond y gwaith mawr bob wythnos oedd rhoi’r oedfa ar-lein at ei gilydd. Oherwydd bod y plant yn fychan roedd rhaid aros iddyn nhw fynd i gysgu cyn gallu cael tawelwch yn y tŷ i recordio rhai elfennau o’r gwasanaethau. Rhai wythnosau roeddwn wrthi tan yr oriau bach yn trio recordio neges neu gân. Yna roedd y gwaith golygu fideo yn cymryd rhai oriau bob wythnos, yn y render ar yr hen MacBook oedd wedi gweld dyddiau gwell, ac yna aros am yr upload wythnosol, a hyn cyn dyddiau fiberoptig.
Rwy’n gwybod i rai Gweinidogion gymryd y cyfnod clo fel cyfnod i arafu, rhyw fath o dymor sabothol answyddogol. Ar y pryd rwy’n cofio teimlo’n eiddigeddus o’r Gweinidogion oedd a’r rhyddid i wneud hyn. Ond, gan gofio i mi brofi burnout o fewn dwy flynedd, o edrych yn ôl, rwy’n difaru i mi beidio achub ar y cyfle i arafu ychydig os nad stopio’n llwyr. Dyna’r dynfa barhaus rhwng gweld rôl arweinydd Eglwysig fel un sy’n arwain a gwasanaethu’n gyhoeddus a’r rôl o fod wedi eich gosod o’r neilltu i fod yn wahanol ac i ganolbwyntio ar weddi a myfyrdod i ffwrdd o’r byd. Rhois i fy holl ymdrech i mewn i’r cyhoeddus, hyd yn oed o fy stiwdio fach yn y tŷ. Dylwn, efallai, wedi achub mwy ar y cyfle i arafu wrth i’r byd arafu o’m cwmpas mewn ffordd na fydd byth yn digwydd eto yn fy oes i fwy ‘na thebyg.

