pennar-davies200Bore ‘ma roeddwn ni’n ail-ddarllen pennod olaf cofiant Densil Morgan o Pennar Davies oedd yn Genedlaetholwr Cristnogol blaenllaw o fewn Plaid Cymru yng nghyfnod Gwynfor. Roedd yr adran yn sôn am y rôl a chwaraeodd Pennar yn yr ymgyrch i sicrhau sianel Gymraeg. Fe fu ef yn gyfrifol, gyda Meredydd Evans a Ned Thomas, am dorri mewn i drosglwyddydd darlledu Pencarreg, Llanybydder ac yna ei ddiffodd yn 1979.

Yn ei araith yn yr uchel-lys fe ddywedodd Pennar:

Mae holl waith fy mywyd wedi ei seilio ar y gryd fod Duw, awdurdod y Creu a’r Cadw, y Daioni a’r Dioddefaint a’r Gwynt dilyffethair sy’n chwythu ymhob gwirionedd ac ymhob glendid is y rhod. I mi does dim ystyr i fywyd ar wahân i’r argyhoeddiad mai rhan o anturiaeth y Duw Byw yw’r hollfyd yr ydym yn cael byw ynddo fe, mai Efe biau’r Nerth a’r Doethineb a’r Cariad sydd yn ei greu ac yn ei gynnal.

Fe ysgytiwyd fi i’r byw wrth ddarllen y geiriau yna gan gofio cyflwr presennol y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, yn arbennig Plaid Cymru. Er nad ydw i’n haeru fod yn rhaid i chi fod yn Gristion i fod yn genedlaetholwr “go-iawn”; mi ydw i yn dadlau fod gwerthoedd craidd y mudiad cenedlaethol wedi eu herydu ers i Pennar yngan y geiriau uchod oherwydd fod y dylanwad Cristnogol wedi ei golli o rhengoedd y Blaid. Mae’r lefain yn y blawd wedi ei golli. Dyna pam bod y Blaid, er gwaethaf ei proffesiynoldeb a’i phoblogrwydd cymharol, yn fwy cyfaddawdus ar y gwerthoedd craidd.

Hanes diweddar ydy hanes Pennar a’i gyfoeswyr, ac i hanes diweddar y perthyn y cof am y rheiny oedd dal yn y carchar y Nadolig hwnnw yr oedd S4C wedi dechrau darlledu a’r union bobl a sicrhaodd ei bodolaeth yn parhau dan glo. Yr oedd Hywel, mab Pennar, yn un o rheiny oedd yn parhau dan glo. Dydy gwneud “safiad” heb sôn am “aberth” ddim yn perthyn i feddwl y cenedlaetholwr modern – ei eiriau ef yn hytrach ydy “pragmataidd” ac “youtube”.

“Clywch, benaethiaid Jacob,
arweinwyr tŷ Israel!
Oni ddylech chwi wybod beth sy’n iawn?
(Micha 3:1)

Gyda Osian yn mynd i’r carchar ryw dro dros yr wythnosau nesaf oherwydd nad ydy’r LCO iaith yn agor y ffordd i hawliau iaith cyfartal ym mhob sffêr o fywyd fe ddaw yna gyfle perffaith i bobl ddangos eu hochr a dod i ddeall ystyr y gair “safiad” unwaith yn rhagor.

Please follow and like us: