Dros y Pasg eleni cyhoeddodd Cymdeithas y Beibl ffrwyth gwaith ymchwil oedd yn seiliedig ar ddata manwl gafodd ei gasglu gan YouGov yn edrych ar dueddiadau pobl yn Lloegr a Chymru yn ymwneud a Christnogaeth a’r Eglwys. Galwyd yr adroddiad yn ‘The Quiet Revival’, oherwydd bod y data yn amlygu cynnydd tawel ond arwyddocaol mewn diddordeb pobl yn y Beibl, yr eglwys a chwestiynau ynglŷn â Christnogaeth yn gyffredinol.
Ymhlith y pethau oedd yn dod i’r amlwg oedd bod yr adfywiad hwn yn ffrwyth darllen preifat o’r newydd o’r Beibl a chwilfrydedd digidol. Hynny yw, nid oedd y twf yn dod o ganlyniad i ymgyrchoedd cenhadol torfol gan yr eglwys.
Dangosodd yr ymchwil fod mwy o bobl yn troi at y Beibl am gysur, cyfeiriad ysbrydol a chymorth mewn cyfnodau ansicr a bod hyn yn rhannol o ganlyniad i dwf yn y defnydd o appiau Beiblaidd, podlediadau Cristnogol, a chynnwys ar-lein ar blatfformau fel YouTube, yn enwedig ymhlith pobl ifanc nad oedd yn flaenorol yn rhan o fywyd unrhyw gapel neu eglwys. Dangosodd yr ymchwil fod y cynnydd mewn diddordeb i’w weld fwy ymhlith bechgyn a dynion ifanc.
Wrth i swyddogion Cymdeithas y Beibl wneud cyfweliad ynglŷn â’r ymchwil yr hyn oedd yn cael eu hadrodd ganddynt a’i ategu gan arweinwyr eglwysig trwy’r wlad oedd bod y data yn cadarnhau rhywbeth roedd eglwysi yn ei brofi ar lawr gwlad. Adroddir bod cynnydd mewn diddordeb ymhlith y genhedlaeth iau mewn ysbrydolrwydd a bod y diddordeb hwnnw yn trosi’n gynnydd bychan 一 ond cyson 一 dros amser o addolwyr newydd yn yr eglwysi.
Mae rhaid bod yn ofalus wrth edrych ac adrodd am dwf eglwysig oherwydd gan ei fod yn rhywbeth sy’n gymharol brin yn y Gorllewin 一 ond eto yn rhywbeth rydym yn dyheu amdano 一 mae tuedd gennym i or-lywio sefyllfa ac anghofio nad aur yw popeth melyn. Rwyf wedi bod yn euog o hynny yn y gorffennol, ac fel dywed llyfr y Diarhebion fe ddaw balchder o flaen cwymp. Mae dameg yr heuwr hefyd yn ein rhybuddio y gall yr had gael ei chwythu ymaith a gall y twf gael ei dagu’n hawdd cyn dod i’w lawn ffrwyth. Felly, mae elfen o ofal 一 os nad sinigiaeth 一 yn beth da wrth drafod twf eglwysig.
Gyda hynny o air o rybudd felly, dyma fi mewn gostyngeiddrwydd yn mentro dweud ein bod ni wedi gweld rhywbeth o’r diddordeb newydd yma dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaernarfon a’r ardal. Gallaf gyfri o leiaf dwsin o bobl yn y flwyddyn ddiwethaf sydd, allan o nunlle, wedi mentro cysylltu gyda’r eglwys naill i holi am gael sgwrs a phaned i drafod materion ysbrydol gyda fi, wedi mynychu rhywbeth fel y Cwrs Alffa neu yn syml wedi cychwyn dod i’r eglwys ar fore dydd Sul.
Mae gan bob un ohonynt eu stori unigryw ac nid fy lle i yw adrodd stori neb arall. Ond yn gyffredinol gallaf ddweud eu bod o gefndiroedd amrywiol, rhai wedi eu magu mewn eglwys pan yn ifanc 一 ac wedi treulio cyfnod hir i ffwrdd 一 wedi dod yn ôl at y peth gyda persbectif gwahanol ac agored. Eraill yn ifanc ac yn mentro i’r eglwys am y tro cyntaf erioed a heb unrhyw gefndir crefyddol blaenorol. Rhai wedi gwneud penderfyniad i gael eu Bedyddio, eraill yn parhau i bwyso a mesur – ond pawb yn rhannu’r un daith rhywsut.
Dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn ddiddorol clywed gan gyd-weithwyr o sawl traddodiad eglwysig sydd â hanesion tebyg i’w hadrodd. Eglwysi sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru, eglwysi sydd newydd eu plannu, eglwysi fel ni sy’n perthyn i’r enwadau traddodiadol a hefyd eglwysi anenwadol. Mae i weld yn ffenomenon sy’n dangos ei ben mewn sawl mynegiant eglwysig gwahanol.
Wrth gwrs, mae cwymp Anghydffurfiaeth Gymreig yn parhau ac yn wir i weld yn cyflymu, ond ochr yn ochr â hynny rwy’n credu fod lle i obeithio ac y bod bywyd newydd yn codi o lwch yr hen grefydd Gymreig. Os rhywbeth, efallai fod angen i grefydd farw er mwyn gweld ail-eni Cristnogaeth yn ein plith. Bydd yn ddiddorol gweld dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf beth fydd penllanw’r bennod unigryw yma. Adfywiad fel atgyfodiad.
Os ydych chi’n darllen hwn ac yn teimlo fod ryw ddrws neu gwestiwn am Dduw ac ysbrydolrwydd ddim wedi ei gau mor dynn ag roeddech chi wedi tybio yna beth am fentro mynd i chwilio am eglwys all fod yn gymuned ddiogel i chi archwilio’r cwestiwn yma?
Efallai eich bod chi’n agored iawn i Dduw a hyd yn oed yn credu yn Iesu Grist, ac eich bod chi wedi dod i’r pwynt yna ar ben eich hun adref drwy ddarllen neu wylio pethau ar YouTube? Wel, beth am fentro chwilio am eglwys all fod yn gymuned ffydd i’ch helpu chi dyfu yn eich ffydd newydd?
Os ydych chi’n byw yn ardal Caernarfon croeso i chi ymuno gyda ni yn Caersalem Caernarfon, neu os ydych chi’n byw yn rhywle arall, cysylltwch gyda fi’n breifat a gallaf drio awgrymu eglwys i chi drio yn eich ardal chi.
“Edrychwch, dw i’n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd! Ydych chi ddim yn ei weld?” (Eseia 43:19)

