Dwi wedi bod yn meddwl mwy am y busnes ym o ferched ar dop y rhestrau a gwleidydd rhagorol fel Wigely yn methu cael ei ethol oherwydd hynny. Fuesi yn siarad gyda aelod benywaidd hyn o’r Capel ddoe ac roedd hi’n gwrthwynebu’r polisi’n llwyr a hynny ar sail eitha ffeminyddol sef fod y polisi yn difrio merched oherwydd ei fod yn gosod y cynsail nad yw merched ddigon da heb bolisi o gam-wahaniaethu – dadl ddiddorol a chryf yn fy nhyb i.

Pan yn astudio un y gyrsiau Roger Scully yn yr Adran Wleidyddiaeth yn Aberystyth dwi’n ei gofio’n rhoi sampl i ni o sawl bapur pleidleisio o wahanol wledydd. Roedd rhyw of gennyf fod un ohonyn nhw yn cynnig ffordd o ddewis eich hoff ymgeisydd o fewn pleidlais restr. Wedi gwneud chydig bach o ymchwil dwi wedi ffeindio enghraifft o bapur pleidleisio o’r fath ar y we (cliciwch arno i’w wneud yn fwy) o Awstralia.

Tybed a’i dull pleidleisio o’r fath yw’r ffordd ymlaen i Gymru?

Please follow and like us: