barrymorganDwi’n meddwl fod llawer o ddiwinyddiaeth Barry Morgan, Archesgob yr Eglwys yng Nghymru, yn dra blêr oherwydd ei fod a thuedd anffodus o droi gair Duw i fod yn gyson a thuedd yr oes yn hytrach na dyrchafu gair Duw fel safon i’r oes hwn gyrraedd. Fodd bynnag fe ddarllenais ddatganiad o’i eiddo neithiwr wnaeth ennyn fy edmygedd. Y mae Barry wedi bod yn dra blaenllaw yn galw am fwy o bwerau i’r cynulliad ac yn unol a hyn y maen un o wynebau cyhoeddus Cymru Yfory. Ond yr hyn oedd o ddiddordeb penodol i mi fel Cenedlaetholwr Cristnogol oedd gweld Barry yn rhesymu’n ddiwinyddol dros ei ddaliadau gwleidyddol ar ddiwrnod lansio adroddiad Comisiwn Cymru Gyfan.

Credaf fod cenedligrwydd a threftadaeth Cymru yn rhoddion oddi wrth Dduw y dylem lawenhau ynddynt ac a gyfoethogid gyda mwy o ymreolaeth. Ar yr un pryd, mae’r rhoddion hyn, ein nodweddion unigryw ein hunain, yn rhoddion nid yn unig i ni ond er cyfoethogi dynolryw.

Dyma lif meddwl gafodd ei gyflwyno’n gyntaf gan Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan. Syniad gafodd ei ddatblygu gan J.E. Daniel ac yna ei gweithio allan gan R. Tudur Jones. Mae llawer wedi beirniadu Barry (ac Aled Edwards CYTUN o ran hynny) am wastraffu gormod o amser yn potsian gyda materion gwleidyddol yn hytrach na threulio amser yn gwneud cyfraniad o werth i her fwyaf Cymru sef yr argyfwng ysbrydol. Mae gan y beirniaid hyn bwynt ond eto rhaid cofio fod yr efengyl yn ein cymell i ddwyn tystiolaeth ym mhob sffêr o’n bywyd a’n cymdeithas gan gynnwys tynged gwleidyddol ein cenedl. Rhaid hefyd cadw mewn cof sut y bu i arweinwyr Cristnogol chwarae rôl gwbl allweddol yn y chwyldro Oren yn yr Iwcrain a sawl sefyllfa debyg dros y byd. Mae Duw yn galw arweinwyr ei Eglwys i chwarae rôl wleidyddol ar adegau tyngedfennol yn hanes cenhedloedd pan fo symud tuag at gyfiawnder yn yr awel.

Please follow and like us: