Fel rhan o’r ymchwil i gyd fynd gyda’r ymgyrch i ddatganoli darlledu yng Nghymru wnes i anfon ambell i gais rhyddid gwybodaeth i’r BBC nol yng ngwanwyn 2010. Dwi ddim yn credu i mi rannu’r wybodaeth ar y blog o’r blaen ac roeddwn i’n meddwl hefyd y byddai’r wybodaeth yn ddifyr gan fod y BBC ar hyn o bryd yn sôn am draflyncu S4C.
Incwm
Wnes i ofyn faint o’r ffi drwydded oedd yn cael ei gasglu yng Nghymru. Nid oedd gan y BBC y swm oherwydd:
The geographical origin of licence fee income has no bearing on how the BBC is run, nor the efficiency with which licence fee funding is spent. This is why I agree with the BBC’s position that the BBC has no need to keep Licence Fee information on a national basis.
Fodd bynnag, ar ôl cwyno fe wnaethon nhw ddarparu amcangyfrif o’r ffi drwydded oedd yn cael ei gasglu yng Nghymru sef £170.43m yn 2008.
Gwariant
Dyma oedd y gwariant ar holl allbwn BBC Cymru (Cymraeg a Saesneg) dros y bum mlynedd ariannol diwethaf:
- 2004-2005: £69.5m
- 2005-2006: £71.7m
- 2006-2007: £69.5m
- 2007-2008: £71.5m
- 2008-2009: £72.3
Dyma oedd y gwariant ar wasanaethau Cymraeg:
- 2004-2005: £20.4m (BBC ar S4C) a £9.2m (Radio Cymru)
- 2005-2006: £21m (BBC ar S4C) a £9.5m (Radio Cymru)
- 2006-2007: £20.6m (BBC ar S4C) a £9.6m (Radio Cymru)
- 2007-2008: £22.5m (BBC ar S4C) a £9.9m (Radio Cymru)
- 2008-2009: £23.8m (BBC ar S4C) a £9.8m (Radio Cymru)
Dyma oedd gwariant ar wasanaethau Saesneg, y teledu ddim yn cynnwys cynhyrchiadau rhwydwaith (e.e. pethau fel Dr. Who rwy’n cymryd?):
- 2004-2005: £25.7m (BBC Wales – TV) a £10.2m (Radio Wales)
- 2005-2006: £26.8m (BBC Wales – TV) a £10.4m (Radio Wales)
- 2006-2007: £24.6m (BBC Wales – TV) a £10.5m (Radio Wales)
- 2007-2008: £24.4m (BBC Wales – TV) a £10.5m (Radio Wales)
- 2008-2009: £23.6m (BBC Wales – TV) a £10.4m (Radio Wales)
Cyfleon a phryderon
Y peth cyntaf y gellid nodi yw bod Cymru yn colli £100m o’r ffi drwydded yn syth i Lundain. Cesglir tua £170m yma ond dim ond £70m sy’n cael ei wario. Mi fyddai’r BBC yn dadlau fod hyn yn ddigon teg – “dyma gyfraniad y Cymry i redeg y gwasanaethau traws Prydeinig”. A dyma broblem gyntaf y BBC felly, y mae hi, yn y bôn, yn sefydliad Prydeinig sy’n Llundain ganolog.
Fel Cymro dydw i ddim eisiau sybsideiddio’r gwasanaeth newyddion o Lundain, y Newsnight Llundeinig sydd prin yn rhoi sylw i realiti gwleidyddiaeth ar ôl datganoli a’r Question Time “but no questions about Wales please”. Oni fyddai hi’n well defnydd o’r £100m yna sydd ar hyn o bryd yn mynd i Lundain i’w defnyddio i ddatblygu gwir wasanaeth newyddion cenedlaethol yng Nghymru? Lansio Newsnight Wales? Gellid parhau i brynu mewn rhaglenni network o Lundain (a thu hwnt) ond mae’r orfodaeth bresennol i ni gael y drip Llundeinig trwodd yn codi cyfog.
Mae’r symiau uchod hefyd yn dangos y ddeilema barhaus sy’n bodoli rhwng y gwariant Cymraeg ar un llaw, a Saesneg ar y naill. Ymddengys, ar y cyfan, fod y gwariant yn o agos i 50/50 Cymraeg/Saesneg ar hyn o bryd. Felly o ran canran o’r boblogaeth rydym ni siaradwyr Cymraeg yn ei chael hi’n weddol. Rydym ni’n cynrychioli 25% o’r boblogaeth ond yn cael 50% o gyllideb BBC Cymru wedi ei wario arnom ni. Mi fydd darllenwyr y blog yn deall fod yna ddigonedd o ffyrdd o gyfiawnhau pam y dylai’r Gymraeg gael mwy na’i siâr o’r gyllideb, ond cyn hir neu hwyrach mi fydd elfennau gwrth Gymreig yn dechrau cwyno a dwyn pwysau ar y BBC.
Os bydd cyllideb BBC Cymru yn cael ei chwyddo i gynnwys S4C a’r holl chwydd yna o ganlyniad yn mynd ar deledu Cymraeg, gallai sefyllfa godi lle mae 75% neu fwy o gyllideb BBC Cymru yn mynd i wasanaethu 25% o’r boblogaeth. Mewn gair, bydd yn rhaid i wasanaeth teledu Cymraeg orfod cyfiawnhau ei hun o un mis i’r llall yn lle canolbwyntio ar ddelifro teledu da Cymraeg o un mis i’r llall.
Does gen i ddim problem, mewn egwyddor, gyda S4C yn cael ei ariannu drwy’r ffi drwydded. Pe tai’r Llywodraeth yn top slicio £100m oddi ar y ffi drwydded (y £100m sydd ar hyn o bryd yn mynd allan o Gymru cofiwch) ac yn ei roi i S4C mewn ymddiriedaeth yna iawn. Ond mae gosod S4C oddi fewn i grombil y BBC a disgwyl iddo orfod cystadlu am ei gyllideb fel gwasanaeth rhanbarthol yn gam sylweddol yn ôl i ddarlledu Cymraeg.
Nid isadran o fewn sefydliad Prydeinig ddylai S4C fod. Ond sefydliad annibynnol Cymraeg.