Ydych chi wedi cychwyn defnyddio BBC iPlayer? Sustem ar-lein am ddim ydyw gan y BBC sy’n eich galluogi i ail-wylio (neu am y tro cyntaf os colloch y gwreiddiol!) y rhan helaeth o raglenni’r BBC gafodd eu darlledu dros y saith diwrnod diwethaf. Mae S4C wedi bod yn cynnig rhyw fath o wasanaeth tebyg, S4C Gwyliwch eto, ers rhyw flwyddyn ond dwi’n meddwl fod sustem a meddalwedd iPlayer y BBC yn well – maen sicr yn llwytho yn gynt. Byddai’n fanteisiol i S4C dwi’n meddwl drosi i ddefnyddio system fwy tebyg i iPlayer y BBC.

Dwi’n meddwl fod hwn yn ddatblygiad pwysig oherwydd maen anorfod y bydd mwy a mwy o gyfryngau yn troi i ddosbarthu dros bandllydan yn hytrach nag analog a lloeren. Yn fy fflat i does dim signal teledu analog da ac nid oes signal digidol o gwbl felly mae fy sefyllfa yn fy ngwthio fwy fwy i ddibynnu ar y rhyngrwyd i gael gweld y newyddion ayyb… Gyda broadband wedi cyraedd bron a bod bobman a signal digidol da ddim i’w ganfod mewn trefi mawr fel Bangor ac Aberystwyth hyd yn oed dwi’n rhagweld mwy a mwy yn troi tuag at wasanaethau fel iPlayer.

Wrth gwrs anfantais iPlayer yw fod popeth yn ymddangos arno rai oriau yn hwyr, hynny yw nid yw’n darlledu teledu byw – tan ei fod e’n gwneud hynny dwi’n meddwl fod tennyn reit dyn gan y BBC ar y gwasanaeth a does dim rhaid i wneuthurwyr a gwerthwyr setiau teledu confensiynol ddechrau poeni. Ond mater o amser fydd hi dwi’n meddwl cyn bod y BBC a chorfforaethau eraill yn cynnig gwasanaeth llawn a byw dros fanllydan – rwy’n disgwyl mlaen.

Please follow and like us: