Un o broblemau’r wê ydy fod rhai gwefannau wedi ennill monopoli yn gyflym ac yn hawdd ac o fewn dim o dro mae’r monopoli yn absoliwt. Er enghraifft, pan yn fy arddegau roedd pawb yn defnyddio MSN Messenger (oes pobl dal i ddefnyddio hwn?) er fod sawl gwasanaeth arall fel Yahoo Messenger ac AIM i gael. Roedd gan MSN Messenger fonopoli ar ein negesu ni nol tua’r flwyddyn 2000 pan ddaeth y wê i gartrefi y rhan fwyaf ohonom ni gyntaf. Yna y ffenomenon fonopoli ddiweddaraf ar y wê wrth gwrs ydy Facebook, er fod MySpace a Bebo wedi cael ei diwrnod does dim gwadu mae Facebook sy’n fuddugol ym mrwydr y social networks. Ond efallai mae’r enghraifft amlycaf o fonopoli ar y wê ydy’r peiriant chwilio Google. Mae nhw’n dweud mae’r arwydd gorau o ddominyddiaeth a monopoli lwyr cwmni yw fod enw’r cwmni neu’r cynnyrch wedi dod yn ansoddair “dwi’n mynd i gwglo” ac mewn maes arall “dwi’n mynd i hwfro.” Nid ansoddeiriau ydy Gwgl na Hoover ond enwau cwmnïau ond oherwydd eu monopoli lwyr trodd y cynnyrch yn ansoddair canolog i’n bywyd pob dydd.
Ond y maes dwi am ei drafod yn sydyn yn y postiad yma ydy newyddion ar-lein. Mae monopoli yn y maes yma yn fater mwy difrifol nag unrhyw faes arall. I ddweud y gwir mae rhywbeth reit sinistr tu ôl i ffenomenon lle welir un darparwr newyddion yn ennill monopoli. Ond dwi’n meddwl ein bod ni wedi syrthio i’r trap yna yn barod oherwydd mae pawb yn ddyddiol os nad bob awr o’r dydd yn troi at BBC News Online am eu hymborth dyddiol o newyddion ar-lein. Gellid deall pam hefyd, mae gwefannau newyddion y BBC yn gynhwysfawr, yn cael ei diweddaru’n gyson a bellach mae’r BBC yn gwneud defnydd rhagorol wrth integreiddio fideo’s fflash i mewn gyda’r storïau. Gwedd apelgar arall i wefannau newyddion y BBC ydy’r arddull sound bite; mae hyd y storïau yn fychan a medrwch chi ddarllen trwyddynt mewn dim o dro. Wrth gwrs mae safon yr ysgrifennu yn go erchyll, di-ddim a diflas ag eithrio colofnau eu gohebwyr arbenigol ond y gwir plaen amdani yw fod gwefannau y BBC yn gwireddu pwrpas wrth roi gwybodaeth yn blaen, syml a chyflym i ni. Mae gan y papurau newydd mawr fel y Times a’r Guardian wefannau cynhwysfawr iawn ond ydy dyn wir am ddarllen erthyglau 800+ o eiriau ar sgrin gyfrifiadur? Na, yn amlwg a dyna pam fod y BBC wedi ennill ei monopoli ym myd newyddion ar-lein. Dydy darparwyr eraill heb ddysgu fod cyfrwng print ddim o’r rheidrwydd yn gweithio run peth ar y wê. Rhaid addasu’r arddull ac yn fwy pwysig hyd yr erthyglau ar gyfer newyddion ar-lein.
Ond o hyn mlaen dwi’n benderfynol o dorri allan o’r habit o droi at wefan y BBC yn unig am fy newyddion ar-lein. Y gwasanaeth sydd mynd i fy nghynorthwyo ydy Google News. Yr hyn mae Google News yn gwneud ydy tynnu’r storïau diweddaraf o ystod eang o wefannau newyddion ar-lein. Mae stwff y BBC yna ydy, ond mae Google News hefyd yn casglu ynghyd y storïau diweddaraf o wasanaethau ar-lein y Times, y Guardian, Reuters a gwefannau arbenigol yn eu meysydd fel gwefannau technoleg a iechyd; mewn gair, llwyth o wasanaethau ar-lein. Eisioes ar ôl dim ond dau ddiwrnod o ddefnyddio Google News yn hytrach na’r BBC yn unig dwi wedi dod ar draws toreth o erthyglau a storïau fasw ni byth wedi dod ar eu traws ar fy neiet anghytbwys o newyddion BBC a dim byd arall. Ond a ellir dibynnu ar newyddion gan Google, cwmni mawr cyfalafol sy’n gwneud ei brês drwy bori dy wybodaeth bersonnol a saethu hysbysebion “perthnasol” atat? Trafodaeth ar gyfer rhyw dro arall…
Gweler Actau 17:21
ha! Da iawn Daftdd, craff a ffraeth iawn! Ond y cwestiwn yw hyn… ai’r Iddewon yntae’r Groegwyr ydy’r BBC? Idddwon mi dybiaf gan fod safle breintiedig y BBC ym myd darlledu newyddion wedi ei roi allan i’r cenedl ddynion i gyd nawr gyda dyfodiad y rhyngrwyd! Cymhariaeth a delwedd dda 🙂
Gwnes i ceisio rhywbeth tebyg sawl mis yn ôl. Y trafferth gefais i oedd bod ormod o wybodaeth ar gael (Reuters, Y Telegraph, Independent, AP, NYT ayyb) a bron i mi foddi dan y don tra’n ceisio cadw lan.
Pob lwc i ti gyda’r fenter 🙂
Ti’n benderfynol o dorri monopoli’r BBC drwy droi at… Google? 😛
Dw i’n meddwl dy fod ti’n disgyn mewn i’r trap o feddwl bod pawb yn dilyn dy habits we di fan hyn, Rhys. Anaml fyddai’n troi at y BBC ac yn tueddu i fynychu gwefannau’r Guardian, y Times a’r Telegraph yn lle.
Ia Ifan, ond holl bwynt Google News ydy fod nhw’n rhoi feeds i ti o’r holl wefannau rwyt ti’n defnyddio: Guardian, y Times a’r Telegraph ayyb… dydy Google ei hunan ddim yn darparu newyddion.