Mae gen i dair Eglwys yn fy ngofalaeth. Caersalem, Caernarfon; Calfaria, Penygroes ac Ebeneser, Llanllyfni – eglwysi’r Bedyddwyr i gyd. Mae llai na milltir rhwng y ddwy eglwys yn Nyffryn Nantlle a rhaid i mi gydnabod y byddai bywyd yn haws i mi petaent yn uno. Mae ein pentrefi ni wedi eu dotio a chapeli, y rhan fwyaf ohonynt bellach wedi cau. Ar y cyfan mae pobl heddiw yn gweld yr holl gapeli fel rhywbeth negyddol – “trueni na fydda nhw’n uno” – “trueni fod nhw wedi mynd i addoli ar wahân” ac yn y blaen. Ond ddoe, wrth ymweld ag un o fy aelodau ym Mhenygroes ces ddysgu rhywfaint am hanes sefydlu’r Eglwys ym Mhenygroes.
Er mai llai na milltir o’r Capel yn Llanllyfni y mae’r Capel ym Mhenygroes fe’u hagorwyd fel ymdrech genhadol ac nid fel split oddi wrth Lanllyfni. Taid un o fy aelodau ym Mhenygroes blanodd yr Eglwys yn 1878. Roedd criw o Benygroes arfer cyfarfod dan y bont rheilffordd lle mae’r drofa ar y lôn osgoi i droi am Lanllyfni nawr. Ar ôl i bawb gyrraedd roedden nhw’n arfer cerdded gyda’i gilydd draw i Eglwys y Bedyddwyr yn Llanllyfni, eglwys yr enwog Robert Jones, Llanllyfni gafodd ei sefydlu yn 1826. Yn raddol roedd y criw o Benygroes oedd yn cyfarfod dan y bont yn tyfu tan i Huw Evans (Taid un o’r aelodau presennol) benderfynu fod digon o griw yma nawr i ddechrau eglwys ym Mhenygroes a bod dim angen teithio i Lanllyfni bellach!
A dyna sut y buodd hi – digon o Fedyddwyr yn Nyffryn Nantlle ar gyfer dwy eglwys. Prin fod digon ar gyfer un bellach … er bod gyda ni ddwy o hyd!