Un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr i Gristnogion yng Nghymru heddiw yw beibl.net. Dyma ddod a gair Duw i Gymry Cymraeg am genhedlaeth neu ddau arall.
Ond mae beibl.net yn wynebu diffyg ariannol sylweddol eleni – i’r graddau y gallai’r cyfan ddod i ben mewn mater o ychydig fisoedd os nad yw’r sefyllfa yn newid. Felly, mae her aruthrol o’u blaenau. Rhaid iddynt sicrhau seiliau ariannol cadarn i’r gwaith barhau – ennyn cefnogaeth gyson llawer mwy o unigolion ac eglwysi. Allwch chi ein helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth gyson yna? Mae pob rhodd unigol achlysurol yn werthfawr wrth gwrs, ond i’n galluogi i gynllunio i’r dyfodol mae angen sylfaen gadarn o gyfraniadau misol.
Eu gobaith yw creu rhwydwaith o gant o unigolion a/neu eglwysi fyddai’n ymrwymo i gyfrannu £2 yr wythnos am 3 mlynedd er mwyn cefnogi gwaith gig. Wrth gwrs, fe allai rhywun gyfrannu mwy na hynny os yw’n dymuno! Mae ffurflenni Rhodd Cymorth a ffurflenni Archeb Sefydlog ar gael ar ein gwefan – ewch i http://www.gobaith.org/cefnogi/.
Achos teilwng.
Dw i wedi bod yn trio perswadio’r cyfieithydd i werthu’r fersiwn awdio o Beibl.net fel prosiect ariannu torfol. Er enghraifft, fyddi di’n fodlon talu £10 neu £15 am go’ bach USB gyda’r Beibl llawn fel MP3? Mae fe wedi cyflawni awdio o’r Hen Destament yn barod!
Byddai modd talu rhai o’r costau gyda phrosiect o’i fath yn fy marn i. Wyt ti’n meddwl bod potensial i recriwtio cannoedd o bobl eraill i wneud yr un peth? Byddai modd rhyddhau’r ffeiliau o dan trwydded agored fel Creative Commons wedyn er mwyn i bobl rhannu nhw am ddim. Ond heb arian does dim modd cyflawni’r prosiect.
Newidodd gwasg Gutenburg costau beiblaidd yn sylweddol yn y 15fed ganrif ac mae cyfleoedd tebyg yn ein hoes ni.
Os galli di ddal mlaen am chydig fisoedd bydd na lwyfan cyllido torfol / cymunedol Cymraeg ar gael fyddai’n croesawu prosiect digidol fel hyn fel un o’r ymgyrchoedd cyntaf. Cysyllta i drafod ymhellach Rhys. Os taw dyna yw’r model ariannu ewch chi amdano, yna plis byddai’n werth ystyried aros i gael defnyddio un Cymraeg.