Yn nhyb R. Tudur Jones eironi mawr imperialaeth Brydeinig a phledio y pleidiau Prydeinig o’i plaid ac yn erbyn rhyddid i Gymru yw mae cenedlaetholdeb, yn y bôn, sydd yn eu gyrru nhw yn ogystal ac yn ei yrru ef ei hun a’i gyd Bleidwyr. Fe aeth i dipyn o hwyl dychanol yn rhifyn mis Mawrth 1965 o’r Ddraig wrth esbonio a dadansoddi mewn manylder y poen a’r ing yr oedd pob cenedlaetholwr o Sais wedi bod yn mynd trwyddo wrth ddilyn gwasanaeth angladdol Winston Churchill ar y teledu a’r radio:

Iddo ef cenhadaeth fawr bywyd oedd amddiffyn a mawrygu ei dreftadaeth Seisnig. Ac nid treftadaeth ddiwylliannol yn unig ydoedd iddo. Nid Lloegr iddo ef, Lloegr heb ei hymerodraeth. Ymhyfrydai yn ei himperialaeth hi, yn y frenhiniaeth, yn yr arglwyddiaeth. Cai fwynhad wrth gam ynganu enwau estroniaid. Saesneg iddo ef oedd yr unig iaith gwerth cymryd sylw ohoni. Ac achubid hyd yn oed genhedloedd eraill os oeddynt yn defnyddio Saesneg.

Yr oedd yr angladd yn ‘ddigwyddiad hunllefol i bobl Lloegr,’ oherwydd ‘gwyddent yn iawn eu bod yn claddu cyfnod gydag ef… Cenedlaetholdeb imperialaidd Lloegr yn ffarwelio â’i gorffennol.’ (‘Angladd Ymerodrol’ yn ‘Ddraig Goch’, Mawrth 1965)

Barn bendant R. Tudur Jones yn yr ysgrifau yn y Ddraig yw fod annibyniaeth i Gymru, er yn amcan clodwiw ynddi hi ei hun yn cael ei hatgyfnerthu gyda’r ffaith fod rhyddid yn dod law yn llaw gyda dianc o grafangau Lloegr a’i hymerodraeth. Credai R. Tudur Jones fod y diwylliant Cymraeg yn cael ei fygu’n araf o fewn yr ymerodraeth; ‘…where there are two cultures side by side,’ meddai yn y Nation yn 1954, ‘they cannot both exist for long if one is backed by the prestige of numbers, immense commercial and military power, and an eternal majority in a common parliament…. Now Wales will never be commercially or militarily numerically the equal of England. That goes without saying.’ (‘Money and Culture’ yn ‘Welsh Nation’, Mai 1954) Ond nid dim ond diwylliant Cymru oedd yn mygu dan orthrwm Lloegr oblegid mewn ysgrif yn dwyn y teitl dychrynllyd ‘Planning… for Death’ mae R. Tudur Jones yn cynnig beirniadaeth o drefn ganoledig llywodraeth Prydain oedd yn effeithio ar bob agwedd o fywyd o’r diwylliannol i’r cymdeithasol ac i’r economaidd. Mae’n dadlau fod y canol ddim o’r rheidrwydd yn medru cymryd i ystyriaeth gwahanol draddodiadau a gwerthoedd rhannau eraill o’r uned. Meddai R. Tudur Jones:

unfortunately, “planning” in contemporary politics has come to mean “central planning” by the government. An over-all plan is worked out, even to he minutest details, and its purpose is not to open the way for people to crate and operate their own plans, but to control and direct the activities of those upon whom the plan is imposed. (‘Planning… for Death’ yn ‘Welsh Nation’, Chwefror 1954)

Yn yr un modd mae R. Tudur Jones mewn ysgrif arall yn trafod y pwnc o gau rheilffyrdd a hynny yng nghyd-destun Llundain yn edrych ar Gymru fel rhanbarth daleithiol yn hytrach nag uned ynddo ei hun. ‘British Railways have announced the end of passenger services on several line…’ meddai, ‘this is but one example of th way in which Wales is being crushed into the mould of English convenience.’ (‘Ourselves to Blame’ yn ‘Welsh Nation’, Ionawr 1962)

Y broblem yn ei hanfod fel y gwel R. Tudur Jones hi yw diffyg democratiaeth iach o fewn Prydain: ‘…while society is made up of human beings,’ meddai ‘Utopia will be eternally round the corner. Part of our struggle – and a very important part – is concerned with making Wales a far more democratic country.’ Penllanw democratiaeth Brydeinig yng ngolwg R. Tudur Jones ydy:

…Wales has 36 M.P’s, all of them sponsored by parties whose headquarters are outside Wales. The consequence is, oddly enough, that they are not in parliament to represent Wales, but to represent their respective parties…. The centre of political gravity is in England. Wales and Scotland have no means of expressing their deviations in political matters from English opinion… A system where Wales and Scotland are in a permanent minority is not a democracy, it is tyranny. Politicians who are afraid to give the people of Wales the right to organise the life of their nation as they see best are obviously guilty men. (‘Democracy’ yn ‘Welsh Nation’, Ionawr 1955)

Fe arweinia’r dyfyniad uchod ni ymlaen i edrych ar drafodaeth R. Tudur Jones o’r pleidiau Prydeinig a’i hymateb i’r alwad am ryddid i Gymru. Adroddwyd yn y Nation fis Gorffennaf 1954 gan R. Tudur Jones fod cynhadledd y Blaid Lafur Gymreig wedi pleidleisio’n gryf yn erbyn cefnogi’r ddeiseb am senedd i Gymru ac fe fanteisia R. Tudur Jones ar y cyfle i bwysleisio na ellid dibynnu ar bleidiau Prydeinig i ofalu am dynged Cymru. ‘We have already persuaded English parties to include devolution for Wales in their programs…’, meddai, ‘and in both cases we have been betrayed.’ (‘What Now?’ yn ‘Welsh Nation’, Ionawr 1954 ) Cawn ein hatgoffa ganddo eto fis Medi 1956 am fethiant a brad y Rhyddfrydwyr: ‘[the] Liberals,’ meddai, ‘have been talking about Home Rule for 80 years. They have had an excellent opportunity to achieve it, but it was conveniently forgotten in the years of power.’ (‘Contemporary Comment’, Medi 22, 1965)

I orffen carwn dynnu sylw at ddehongliad R. Tudur Jones o effaith argyfwng Suez ar Gymru. Cred R. Tudur Jones fod y ffaith fod Cymru wedi ei thynnu i fewn i’r argyfwng hwn ar gwt Lloegr a heb yn ddewis iddi yn tanlinellu y bod hi’n angenrheidiol i Gymru ennill rhyddid mor fuan ag sy’n bosib: ‘industries as steel, glass-making and agriculture stood to suffer considerably from lack of oil as well as from the rising [oil] prices due to the closing of the Suez Canal,’ meddai R. Tudur Jones yn y Nation, ‘This is part of the bitter price that Wales has to pay for the present government’s silly foreign escapades.’ Ac mae’r effaith yma ar economi Cymru, y cred R. Tudur Jones sy’n deillio o fod yn gaeth o fewn ymerodraeth Lloegr.

Please follow and like us: