Dydd Sadwrn diwethaf roeddwn i yng nghynhadledd ‘Trwy Ddulliau Chwyldro…?’ a drefnwyd gan Menna Machreth a Huw Lewis ar ran Prifysgol Bangor, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Roedd yn gynhadledd arbennig yn cloriannu hanes llenyddol a syniadaethol yr hanner can mlynedd diwethaf, diolch i’r trefnwyr. Yn ôl y disgwyl fe wnes i roi sylw i waith a meddwl R. Tudur Jones; ond efallai yn syndod i rai rhoddodd Ned Thomas, prif siaradwr y gynhadledd beth sylw i waith a meddwl Tudur Jones hefyd a hynny mewn perthynas a dadl enwog Tudur gyda Emyr Llywelyn – helynt ‘Cysgod y Swastica’.
Ond un peth carwn ymateb iddo oedd y sylw gwnaeth Ned fod cenedlaetholdeb i’w weld yn codi mewn ymateb i seciwlareiddio. Er fod dadl gref dros hynny, roeddwn i’n dadlau yn fy nhraethawd i fod y theori ddim cweit yn ffitio mewn yn daclus gyda’r patrwm Cymreig. Rhaid trafod rhywfaint ar waith Benedict Anderson felly.
Benedict Anderson yw un o’r theoriwyr cenedlaetholdeb mwyaf dylanwadol, ac un sy’n ein cynorthwyo’n arbennig wrth ystyried cenedl y Cymry a chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cyhoeddodd Benedict Anderson ei gyfrol ddylanwadol Imagined Communities yn 1983 ac fe’i cydnabyddir pellach fel un o’r gweithiau mwyaf awdurdodol a threiddgar ar genedlaetholdeb. Ceisiodd Anderson esbonio’r gwrthgyferbyniadau a gyfyd wrth arsylwi ar genedlaetholdeb. Er enghraifft, mae’n nodi fod yr hanesydd yn medru gweld yn glir mai ffenomen fodern yw’r genedl er bod y cenedlaetholwr yn gweld y genedl yn hen, os nad yn oesol. Nid yw’n llwyr ddiystyriol o farn, neu’r hyn a elwir ef yn “ddychymyg” y cenedlaetholwr, ond yn hytrach y mae’n ceisio mynd ati i egluro’r hyn sydd wedi creu’r “dychymyg” hwnnw. Dangosai Anderson sut y bu i haneswyr brofi mai “dychymyg” yn aml iawn a nodweddai feddylfryd a dyhead y cenedlaetholwyr ac nid hanes di-gwestiwn.
Paradocs sylfaenol arall y mae Anderson yn ceisio mynd i’r afael â hi yw ei ymdrech i ddeall sut y llwyddodd cenedlaetholdeb i ddod yn gymaint o rym gwleidyddol yn Ewrop, os nad y cryfaf ers y Chwyldro Ffrengig, er gwaethaf ei ‘dlodi athronyddol’ fel ideoleg. ‘Unlike other isms’, meddai Anderson, ‘nationalism has never produced its own grand thinkers: no Hobbeses, Tocquevilles, Marxes, or Webers…’ Dyma bwynt sy’n cael ei ategu gan Michael Freeden pan honnodd fod cenedlaetholdeb yn: ‘incapable of providing on its own a solution to questions of social justice, distribution of resources, and conflict-management which mainstream ideologies address’.
Yn ôl Anderson y cwestiwn mawr y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef yw’r ffenomen o weld pobl yn fodlon lladd a chael eu lladd yn enw eu cenedl. Os mai rhywbeth wedi ei ‘ddychmygu’ yw cymuned y genedl, a hynny’n weddol ddiweddar, sut felly mae esbonio penderfyniad llawer o unigolion i roi eu heinioes dros eu cymuned ddychmygol: ‘These deaths bring us abruptly face to face with the central problem posed by nationalism: what makes the shrunken imaginings of recent history (scarcely more than two centuries) generate such colossal sacrifices?’ Mae Anderson yn argyhoeddedig fod yr ateb i’w ganfod yng ngwreiddiau diwylliannol cenedlaetholdeb. Fe dybiodd fod cenedlaetholdeb yn perthyn i’r un categori o syniadaeth â Christnogaeth, Bwdhaeth ac Islam yn hytrach na’r categori y perthynai Marcsiaeth, Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth iddo. Daw hyn i’r amlwg wrth ystyried yr arfer o godi cofadail a beddrodau ar gyfer arwyr cenedlaethol anadnabyddus. Dyma fel yr esbonia Anderson:
The cultural significance of such monuments becomes even clearer if one tries to imagine, say, a tomb of the unknown Marxist or a cenotaph for fallen Liberals. Is a sense of absurdity avoidable? The reason is that neither Marxism nor Liberalism are much concerned with death and immortality. If the nationalist imagining is so concerned, this suggests a strong affinity with religious imaginings.
Credai Anderson ymhellach fod y cysyniad o ‘barhad’ yn bwysig i bobl – cyn yr oleuedigaeth crefydd a ddiwallai blys dyn am barhad. Roedd rhaid wrth y diwallu hwn er mwyn arfogi pobl i ddelio â chyfyngder, dioddefaint, salwch a marwolaeth – dyma roes ystyr i fywyd. Tybiodd Anderson i’r genedl ddod i fodolaeth yn ystod cyfnod machlud y systemau crefyddol ac i’r ‘genedl’ lenwi gwagle neu dyhead a lanwyd gynt gan grefydd yn ei ddarpariaeth o’r syniad o ‘barhad’ i ddyn. ‘What then was required’, meddai Anderson, ‘was a secular transformation of fatality into continuity, contingency into meaning… few things were (are) better suited to this end than an idea of nation.’
Gwendid y theori hwn yw fod y cyd-destun Cymreig wedi dangos fod crefydd ei phobl wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad, ac yn wir yng nghread, cenedl y Cymry: nid cymryd lle crefydd a wnaeth y broses o lunio’r genedl yng Nghymru. Yn ogystal, wrth drafod perthynas cenedligrwydd y Sais a’r ffydd Gristnogol yn ei ffurf Anglicanaidd, mynnodd Tudur Jones yn The Desire of Nations fod y ddeubeth yn ‘closely interfused’ i’r graddau fel na ellid gweld cenedlaetholdeb fel ‘[a] substitute for a decayed religion,’ ond yn hytrach fel ‘a mature and responsible Christian response to a crisis that is social, economic, political and spiritual in its manifestations’.
Er yn cydnabod gwerth i theori Anderson, ac mewn rhai sefyllfaoedd yn gweld ei theori yn realiti; yn y cyd-destun Cymraeg gyda pherthynas agos crefydd a chenedlaetholdeb rhaid gweld y ddau yn dod law yn llaw nid bod un yn cymryd lle y llall.
Blogiad diddorol iawn Rhys!
Mae’n anodd credu y byddai Cymru na’r Gymraeg yn bodoli heddiw heb ddylanwad crefydd.
Mae cenedlaetholdeb Cymraeg (yn hytrach na Chymreig) yn sicr wedi bod yn ddibynnol iawn ar grefyddwyr – meddylier am Emrys Ap Iwan yn yr oes a fu, R. Tudur Jones a Gwynfor Evans yn fwy diweddar.
Ar lefel leol, yr oedd streic y Penrhyn yn amlygu hollt rhwng y traddodiad Anglicanaidd , a’r traddodiad ( mwy diweddar) anghydffurfiol. Yr oedd yr arglwydd Penrhyn a’i debyg yn gweld gwenidogion fel gelynion ‘rabble-rousing’ i”w fywoliaeth ar adegau.
Golygai hyn fod anghydffurfiaeth yn cael ei wthio tuag at genedlaetholdeb, yn ddiarwybod bron iawn.