Daeth y newyddion da ddoe fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol a bellach ni fydd toriadau sylweddol yn dod i gyfarfod y grantiau sy’n mynd tuag at gyhoeddi Cymraeg a Chymreig. Bu’n ymgyrch fer ond brwd ers cyhoeddi’r bwriad i dorri rhai wythnosau’n ôl, ac un rhan o’r ymgyrch oedd y llythyr at y Llywodraeth ar ran yr awduron ac ysgolheigion wedi ei ysgrifennu gan Angharad Price. Roedd yn llythyr arbennig, ond fel arweinydd Eglwys a diwinydd-amatur fe safodd un frawddeg allan i mi am y rhesymau anghywir.
“Am ganrifoedd, llenyddiaeth oedd unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Dyma sut y buom yn ein mynegi ein hunain fel pobl: dyma a gadwodd ein hunaniaeth a’n hiaith yn fyw.”
Er mod i’n cytuno gydag ergyd dadl Angharad Price, roedd problem gen i gyda’r haeriad mai llenyddiaeth oedd unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Fy nheimlad i oedd bod yna eliffant mawr yn y ‘stafell – eglwys Iesu Grist! Siawns y bu honno hefyd yn sefydliad cenedlaethol a fu’n fodd i gadw a meithrin ein hiaith ân hunaniaeth dros y canrifoedd?
Datblygodd sgwrs wedyn ar twitter gyda Dylan Foster Evans a Cynan, fy mrawd, ynglŷn â’r cwestiwn a oedd Eglwys Iesu Grist wir yn sefydliad cenedlaethol trwy’r canrifoedd ynteu ddod yn sefydliad cenedlaethol a wnaeth yn gymharol ddiweddar? Yn ôl un diffiniad o ‘sefydliad cenedlaethol’ (sefydliad unedig, tiriogaethol genedlaethol a chydnabyddedig ei statws?) efallai na ellir dadlau fod yr eglwys wedi bod yn sefydliad cenedlaethol tan y G19. Ac yn ôl y diffiniad hwnnw efallai nad yw’r eglwys yn ‘sefydliad cenedlaethol’ o hyd gan nad oes gyda ni (a da felly) eglwys wladol, a bod llawer o eglwysi yn rhai ‘annibynnol’ (o ran natur, nid o ran enwad). Ond wedyn a mesur ‘sefydliad cenedlaethol’ yn ôl y safon honno i ba raddau mae ‘llenyddiaeth’ felly yn ‘sefydliad cenedlaethol’?
Rwy’n tybio fod defnydd Angharad Price o’r term ‘sefydliad cenedlaethol’ yn ddefnydd mwy llac, ac mewn gwirionedd yn siarad am lenyddiaeth Gymraeg fel traddodiad a symudiad yn fwy ‘na ‘sefydliad’ yn yr ystyr modern o’r gair ‘sefydliad’. Ac felly dyna pam dwi ddim yn meddwl mai llenyddiaeth oedd yr unig ‘sefydliad cenedlaethol’ oedd gyda ni’r Cymry. Mae yna draddodiad a symudiad arall y gellir ei olrhain, yn ôl rhai, yr holl ffordd yn ôl i oes y Seintiau sef traddodiad eglwys Iesu Grist.
Diolch am hyn Rhys – trafodaeth ddiddorol. Rwy’n credu bod hynny o sylwadau a wnes i yn ymwneud â’r syniad o’r Eglwys fel un sefydliad, gan dybio fod angen rhyw fath o strwythur neu adeiladwaith cenedlaethol i gyfiawnhau’r diffiniad ‘sefydliad cenedlaethol’. Gan edrych ar y 19g. (neu leiaf y rhan fwyaf o’r ganrif honno), roedd sawl ‘sefydliad’ Cristnogol yng Nghymru, os gallwn alw Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig a’r eglwysi anghydffurfiol yn ‘sefydliadau’. Ond nid oedd strwythur Eglwys Loegr a’r Eglwys Gatholig yn rhoi fawr o gydnabyddiaeth fel y cyfryw i Gymru. Roedd y Wesleaid yn enwad a weinyddid yn bennaf o Loegr. Roedd trefniant mewnol yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr (mewn ffordd wahanol) yn golygu mai anodd eu gweld fel ‘sefydliadau’ cenedlaethol, er iddynt ddechrau symud i’r cyfeiriad hwnnw erbyn diwedd y ganrif. Mae’n debyg mai’r Methodistiaid Calfinaidd oedd yr agosaf at fod yn ‘sefydliad’ cenedlaethol (er nad oeddent o anghenraid yn dymuno cael eu gweld felly). Felly o gymryd ‘yr Eglwys’ fel un corff sy’n cwmpasu yr uchod, mae’n anodd gennyf ei gweld fel sefydliad cenedlaethol, er ei bod wrth gwrs yn rhan gwbl greiddiol o fywyd y genedl trwy’r cyfnod. Mae’r cyfan yn dibynnu’n fwy ar y diffiniad o ‘sefydliad’ na dim arall.
Cwestiwn arall yw beth a gadwodd ein hiaith a’n hunaniaeth yn fwy (neu beth a’u tanseiliodd). Gadawaf hynny am y tro!